Profiad: Gobaith – Mary Muse

Roedd Washington, mae’n debyg, fel dwy ddinas wahanol ar y 21ain a’r 22ain o Ionawr eleni. Meddianwyd y ddinas gan drigolion dwy wlad wahanol ar y deuddydd rheini, dwy wlad sy’n honni eu bod nhw prin yn medru adnobod eu gilydd erbyn hyn.

Mae’r Unol Dalaethiau eleni yn wynebu y bygythiad mwyaf i’w sefydliadau democrataidd a welwyd ers degawdau. A fuodd y fath ymosodiad uniongyrchol ar ei strwythurau democrataidd ers y rhyfel Cartre?

Naddo, o bosib. Ond eto, fe fu cyrchoedd cyson. Fe fu gwersylloedd crynhoi i ddinasyddion o dras Siapaniaedd. Fe fu gormesu ar garfanau o gymdeithais ar sail hil a thras. Fe fu McCarthyism a’r Red Scare. Fe fu Guantanamo. Doedd strwythurau democrataidd yr UDA ddim yn ddigon i atal y troseddau hyn yn erbyn hawilau dynol, ac o bosib fe fyddai rhai yn dadlau nad ydi democratiaeth sy’n caniatau y fath erchyllterau yn fawr o ddemocratiaeth. Prin y dylid wylo trosti. Ac eto.

Mor ddrwg ac yr oedd pethau pan ildiodd Obama yr awenau, waeth be oedd stad y genedl, mae hi yn y broses o fynd yn ddiamheuol waeth i nifer fawr o garfanau o gymdeithas Ameica, i’r amgylchedd, ac i’r byd. Ac mi gynnigiwn i fod amser i archwilio pechodau’r enaid, ac y mae ‘na amser ar gyfer hynan-fflangellu. Ond y mae yna hefyd amser i Obeithio. A gorymdeithio.

Yr oedd fy modryb (un o nifer o fodrybedd a chyfnitherod eraill, yr ydw i’n cael brolio) yn un o’r miliynau fy’n gorymdeithio ar y bore Sadwrn cynta hwnnw o’r oes newydd. Dyma yr oedd ganddi hi i’w ddweud:

“Cefais fy hyn, ar fore y 9ed o Dachwedd yn fy nagrau o flaen y cyfrifiadur, yn negesu â theulu a ffrindiau. Roeddwn i angen cydymdeimlo â rhywun. Yr oeddwn yn teimlo fel nad oeddwn I’n nabod fy ngwlad, na fy nghyd-Americanwyr. Fe ddigwyddodd yr amhosib.

Roeddwn i angen bwrw mol a gollwng stem, ac fe gymerais bob cyfle i hefru a bytheirio wrth ffrindiau a theulu oedd yn teimlo yr un fath â mi. Mi es i at y cyfryngau cymdeithasol i chwilio am eneidiau hoff gytûn. Dyna lle darganfyddais gynlluniau y Womens March ar Washington. Dwi’n un sydd wedi osgoi gweithredu gwleidyddol agored yn y gorffennol, ac felly fe betrusais cyn ymuno yn yr ymdaith. Ond tyfu oedd y teimlad fod angen gweithredu. Roedd yr orymdaith hon yn ymddangos fel man diogel i ddechrau, rhywle lle gallwn i guddio yn y dorf. Felly dyna ymrwymo i fynychu y chwaer-ymdaith gyfagos mewn dinas leol.

Y mae Ithica, N.Y yn ynys o dref-brifysgol ryddfrydol yng nghalon perfeddwlad Drwmpaidd. Wrth i ni gyrraedd y comin ar y Sadwrn heulog, annhymhorol o gynnes hwnnw, gwelsom dyrfeudd o bobol yn ryw hel ac ymgasglu, nifer ohonyn nhw mewn hetiau pinc ac yn cario arwyddion. Teimlais yn syth yn falch imi ddod. Roedd yr orymdaith ei hyn wedi gorfod cychwyn yn gynnar- roedd y dorf mor annisgwyl o fawr fel eu bod nhw wedi gorfod dechrau symud pobol o’r ardal ymgynnull. Wrth inni gerdded tuag at yr gorymdeithwyr, gallwn eu clywed yn llafarganu “Love, not hate, that’s what makes America great”. Yn sydyn reit daeth ryw bwl o emosiynau drosta i, a teimlais yn ddagreuol. Dyna’r neges yr oeddwn i angen ei chlywed, a hynny ‘n enwedig ar ôl tywyllwch yr anerchiad agoriadol y diwrnod blaenorol. Safasom ar yr ymylon am dipyn, yn mwynhau’r olygfa; y cerddwyr, yr arwyddion, a’r siantiau, cyn i ninnau ymuno a’r dorf yn y stryd. Roedd yr awyrgylch yn obeithiol, heddychlon a chynhwysol. Roedd pawb yn gyfeillgar, heb ddim gwthio na bod yn bowld. Wrth i ni gerdded heibio i heddwas oedd yn rheoli traffig er mwyn i ni basio, dyma ni’n oedi i’w ddiolch am ei waith, ond ei ymateb o oedd “No, Thank YOU.”

Menywod oedd yn y dorf gan fwyaf, ond roedd nifer o ddynion hefyd, rhai ohonyn nhw yno efo cariadon neu wragedd, rhai yno ar eu pennau eu hunain. Cerddais am gyfnod efo cyn-filwr yn cario baner Americanaidd. Dywedodd ei fod yn gorymdeithio i gefnogi’r hawliau yr oedd wedi ymladd er mwyn eu gwarchod. Roedd yno deuluoedd lu wedi dod hefyd- pobol wedi dod a’u meibion yn ogystal â’i merched, a nifer o’r plant yn cario arwyddion yr oedden nhw wedi eu gwneud eu hunain. Roedd arwyddion ym mhobman, ac yn ddifyr i’w darllen. Roedden nhw’n mynegi cefnogaeth i nifer o achosion gwahanol, ac er y gallai hynny fod wedi gwneud i’r digwyddiad ymddangos yn ddi-drefn ac annelwig i rywun oedd yn edrych arnom ni o’r tu allan, roedd gorymdeithio gyda’n gilydd yn gwneud iddi deimlo fel ein bod ni i gyd wedi ymuno mewn ymgyrch o blaid hawliau dynol. Roedd hi’n glir ein bod ni i gyd wedi’n huno trwy gysylltiad anorfod, a pam fydd hawliau un grŵp wedi eu bygwth, ryda ni i gyd yn colli. Pwysleisiodd y siaradwyr yn y rali ar y diwedd yr angen i gymryd egni y diwrnod hwnnw a’i ddefnyddio i wneud y gwaith sydd ei angen i achosi newid. Atgoffon nhw ni o bwysigrwydd cysylltu a’n cynrychiolwyr, mynychu cyfarfodydd tref, a hyd yn oed dod yn ymgeiswyr gwleidyddol ein hynain.

Mynychais yr orymdaith  am fy mod i eisiau teimlo’n obeithiol unwaith eto. Roeddwn eisiau’r sicrwydd fod eraill dal i gredu yn yr un gwerthoedd a mi, ac yn addewidion y wlad hon yr oeddwn yn teimlo cyn gryfed drostynt. Deuthum o hyd i’r cyfan ar y daith hon. Amcangyfrifodd yr heddlu fod tua 10,000 wedi mynychu, deirgwaith yn fwy o bobol na’r oedd neb wedi ei ddisgwyl. Pan y cyrhaeddais i adre a gweld y lluniau o’r gorymdeithiau eraill o gwmpas y byd, roeddwn i’n syfrdan. Cefais fy atgoffa o’r hyn a ddywedodd Michael Moore yn syth wedi’r etholiad. Dywedodd fod angen i ni atgoffa ein hunain bob dydd fod Trump wedi colli y bleidlais boblogaidd. Mae mwy ohono ni na sydd yna o’i gefnogwyr fo. Mae grym, a chymuned yn hynny. Yn y dyddiau ers yr orymdaith, er i’r newyddion ymddangos yn waeth a gwaeth, rydw i’n gweld bob dydd fod cynlluniau yn cael eu gwneud i’w wrthsefyll. Mae fy rhwydweithiau cymdeithasol yn llawn galwadau i weithredu, yn ddyddiol ac wythnosol. Mae pobol yn rhannu cyngor a chynlluniau. Dwi’n gweld tystiolaeth o bobol yn canfod yr egni i godi llais dros y wlad hon a’r gwerthoedd yr ydym wedi eu trysori. Rydw i’n dechrau canfod eto fy ffydd y gallwn oroesi hyn, a symud y wlad hon yn ei blaen unwaith eto. A thra fod y math yma o weithredu gwleidyddol yn sicr y tu hwnt be sy’n gyfforddus imi, rydw i erbyn hyn wedi gwneud fy ngalwadau ffon cyntaf dros yr achos.”

Ymlaen!

(Diolch yn fawr i Mary Muse am y cyfraniad)

Gadewch neges:

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s