Cerdd: Druidstone – Elen Ifan

“Sgwennais i’r pwt ma tra mod i yn ymweld â Sir Benfro. Roedd fy viva PhD y dydd Mawrth canlynol ac roeddwn i’n dechrau swydd newydd ar y dydd Mercher, felly roedd na rhyw deimlad rhyfedd o limbo gen i dros y penwythnos, yn gwybod fod yr holl newidiadau ar y ffordd!”

Druidstone

Heidio eto i ben Sir Benfro,
I’n cartref Calan Mai,
I grwydro a gwledda hyd Fae Santes Ffraid.

Er gwaetha’r glaw roedd gwres yr eithin gwyllt
Yn goleuo’r llwybrau,
A fflachiadau llachar huganod yn plymio am eu cinio
Yn torri ar lwydni’r lli.

Eleni, mae newid ar droed,
A byddaf innau, fory,
Fel hugan –
Yn cymryd anadl ddofn
Cyn plymio i ddyfroedd newydd,
A thon arall yn torri dros fy mhen.

Elen Ifan

18194651_10154916089634930_4876261594640010448_n

Gadewch neges:

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s