Ysgrif: Dinasoedd yr Hunan – Morgan Owen

Nid yw’r un amgylchfyd yn gweddu’n well i amryffurfedd meddwl-ddrylliol na’r ddinas, ac iachus o beth yw ymddryllio oherwydd mewn darnau mae undod. Dilysnod dinas felly yw’r cyfle mae’n ei gynnig i ymgolli yng ngwir ystyr y gair, sef y gallu i fod yn neb a phawb―a phopeth rhwng deupen yr eithafion hyn. Twyllwn ein hunain mai bodau cydlynol a digyfnewid ydym sy’n casglu profiadau a’u cymathu â’n hunain sefydlog, megis caseg eira. Daliwn ein bod rywsut yr un person o hyd, ni waeth pa mor amrywiol yw’r profiadau sy’n chwyddo crynswth ein bod. Cydnabyddwn fod pethau yn newid―a’u hamgylchiadau―ond prin yr awn mor bell â’n cynnwys ni’n hunain ymysg y pethau hynny. Rydym yn twyllo ein hunain yn arw: cydgasgliad o ddarnau gwasgaredig ydym, heb fod yr un gydran yn ein cyfansoddiad yn ffurfio hunan ar ei ben ei hun. Nid oes lle gwell i ddinoethi’r gybolfa hon na’r ddinas, ac yno ni fydd y dadrith yn ergyd ond sythwelediad sidanaidd.

Y ddinas orau at ymgolli ynddi yn fy mhrofiad i hyd yma yw Llundain―efallai am mai dyma’r ddinas fwyaf i mi ymweld â hi. Nid torfeydd yw cyfrwng ymgolli y ddinas hon, ac ystrydeb, bid siŵr, yw sôn am ymdoddi mewn twr o bobl. Petai waeth am hynny, mae bod yn rhan o dorf ddinesig yn dwysau’r ymdeimlad o arwahanrwydd personol am fod pawb yn anwybyddu ei gilydd, a phob un felly’n ynys fechan o solipsiaeth ym mhresenoldeb y lliaws. Gall hwnnw fod yn brofiad difyr, ond dim ond y troeon cyntaf y digwydd: bydd syndod y cyflwr croesebol o fod yn unig mewn torf yn pylu, yn union fel y bydd ailadrodd gair yn ddi-baid yn peri iddo fynd yn hollol ddiystyr. Yn wir, unigrwydd yw canlyniad anorfod y dorf Lundeinig, ond nid unigrwydd sydd yn darnio’r hunan yn y lle hwn, fel y cyfryw. Cilfachau ac argelion cyfrwys sydd yn tywys rhywun at greigiau hunan-ddrylliad―gwead y ddinas ei hun―ac yn hyn o beth mae Llundain yn dra chyfoethog.

Pan fyddaf yn Llundain, caf fy llethu bron gan amrywioldeb gofodol, a hynny yn y modd melysaf a mwyaf dymunol posib. Ym mhob stryd bydd conglau a llecynnau neilltuol yn fy ngwahodd i’w harchwilio, mannau yng ngolwg y miliynau sydd eto’n anweledig rhwng y tirnodau byd-enwog a’r lluniaeth dwristaidd arferol. Bydd y cuddleoedd hyn yn ymrithio’n nifer o bethau: hen fur, troad sydyn yn y ffordd, gardd fechan, cwrt tŷ, bagad o goed, glannau nant. Hawdd fyddai gwallgofi wrth geisio rhifo’r holl lefydd cudd anghofiedig―ac amhosib hefyd. Pan graffaf ar un ohonynt―hen fur diddorol, dyweder―gwelaf nad un cyfanwaith bach destlus ydyw, ond agreg o fanylion yr un mor ddiddorol, yr un mor hynod. Byddaf yn dirnad feini’r mur, eu hyllt a gwead eu graen. Bydd ambell bribsyn o fwsog a chen yn tarfu ar unoliaeth yr hyn a oedd yn un ddelwedd eglur ar y cychwyn; a bellach, nid mur sydd gennyf ond anhrefn o rannau, a phob un rhan yn hanfodol er mwyn cynnal y ddelwedd wreiddiol o’r mur; a phob un rhan, serch hynny, yn hollol hepgoradwy. Arhosai’n fur heb y blodyn eiddil am ei ben, ond nid yr un mur: pan dderfydd y blodyn amdano, mur arall, mur newydd fydd. Byddaf yn deall ar unwaith nad yr un mur na’r un stryd na’r un ddinas yn union a welaf pan ddychwelwyf, am fod rhywbeth yn rhwym o fod wedi newid. Wrth feddwl am bob un mur mewn dinas mor fawr, ni ellir ond rhyfeddu at faint o fanylion fydd yn mynd i ebargofiant. Ailenir y ddinas felly bob eiliad.

Daw tristwch i’m rhan bob tro y byddaf yn ystyried y pethau hyn ynghyd â’r ffaith taw fi yn unig, efallai, sydd wedi oedi i syllu arnynt er mwyn eu gwerthfawrogi fel cydrannau annibynnol yn nryswch y ddinas. Gallai unrhyw un o’r manylion di-nod hyn fod wedi newid cwrs bywyd rhywun, rywsut, a thrwy hynny gwrs llawer o fywydau. Bydd hwrdd cofnodi yn dod drosof y prydiau myfyrgar hyn, a chydag ef y sylweddoliad na allwn fyth gofnodi argelion un stryd, heb sôn am y strydoedd dirifedi eraill. Dan orfod yr reddf hon, byddaf yn gwthio fy mhig i mewn i bob heolan goblog, er gwybod ohonof na fyddant ond un darlun cyfansawdd yn fy nghof wedi i mi adael. Ni all y cof ymdopi â hyd yn oed fymryn o’r amrywiaeth hon, ac felly bydd yntau’n eu gwasgu’n un barsel bychan, rhag iddynt orlifo a syfrdanu’r cofiedydd truan. Ond bydd rhyw fwynhad ysol yn hyn oll hefyd, wrth gwrs, am fy mod wedi bod yn gyfrannog ym mywydau gwibiog y mangreoedd hyn.

Bydd myfyrio ynghylch y ddinas yn y modd hwn yn fuddiol o beth, ac yn rhoi min ar y meddwl. Os llwyddir osgoi’r gwallgofrwydd sy’n llercian y tu ôl i’r sylweddoliad taw darnau dellt a unwyd gan ffawd―neu ragluniaeth, os credwch felly―yw popeth, ceir sylweddoliad dyfnach: adlewyrchir y ddinas ynom ni ein hunain, ac yr un mor gyfnewidiol yw’r ddinas fewnol, os goddefer y trosiad. Nid adeiladau ac amlygiadau eraill o gyfanheddiad dynol yw ei sylwedd, er eu bod hwythau’n gadael argraff arni: yr hyn sydd ganddi mewn cyffredin â’n Llundeiniau yw ei bod hi’n fan cyfarfod miloedd ac yn gyfnewidfa pobloedd―ond ni ein hunain yw’r dorf sy’n poblogi’n dinasoedd mewnol.

Wrth ymsarffio ar hyd strydoedd y ddinas gyda miloedd o gyd-fforddolion siawns, mae rhywun yn chwannog i droi i mewn ar ei hunan, fel y nodwyd uchod. Canlyniad anorfod dilyn y broses hon i’w phen yw ymglywed â chyfnewidiadau. Fel mae’r wal ddinod mewn cilfach gefn yn ymgorffori amrywioldeb tragwyddol byth-nis-ceir-yn-ôl, mae’r hunan yn cyfranogi o gymysgedd di-ben-draw na all byth gael ei ailadrodd gan ei fod yn ennill ac yn colli cydrannau newydd yn barhaus. Pan oeddwn yn Llundain ddiwethaf, meddyliais am y troeon yr ymwelaswn â’r ddinas yn y gorffennol a rhyfeddu pa mor wahanol oeddwn y prydiau hynny, am fod y profiadau a gawswn yn y cyfamser wedi newid fy nghyfansoddiad trwy ychwanegu at ei grynswth. Dichon mai bychain iawn yw’r newidiadau hyn mewn gwirionedd, ond wrth reswm, fe aethant i mewn i’r gybolfa, ac felly nid yr un sypyn o brofiadau oeddwn y pryd hynny, ac un gwahanol ydwyf eto wrth ysgrifennu’n geiriau hyn mewn adolwg. Trwy fy mod y mae’r cymysgedd yn cymysgu.

Ynof y mae dinas ddiddiwedd a myfi fy hun―neu fy afrifed hunain―sydd yn ei phoblogi, a chynyddu y mae ei phoblogaeth bob encyd. Nid oes welydd na lonydd cefn na heolydd coblog na dim byd a fyddai’n cyfateb i’n syniad arferol o bensaernïaeth ynddi. Môr o wynebau yw ei hadeiladwaith gorffwyll, a phob un yn adnabyddus ond yn estron. Mae rhywun yn amau nad hynny oedd gan T. S. Eliot mewn golwg yn y llinellau hyn o The Waste Land:

Unreal City,
Under the brown fog of a winter dawn,
A crowd flowed London Bridge, so many,
I had not thought death had undone so many.

Amser yw’r angau sydd yn llenwi’r ddinas hon o hunain, a thynged yr hunan yw marw ac atgyfodi’n ddi-baid. Pan ymwelaf â’r ddinas fewnol nesaf, synnaf innau hefyd wrth luosogrwydd y dorf.

Morgan Owen

Gadewch neges:

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s