Pigion Eisteddfodol: Tŷ Gwerin – Elisa Morris

Y Tŷ Gwerin. Cartref bwrlwm y traddodiadau gwerin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Eleni yn Eisteddfod Bodedern cafwyd gwledd o gerddoriaeth, cân a dawns. Roedd yr iwrt yn orlawn ar gyfer artistiaid fel Calan, Dafydd Iwan, Meic Stevens a Mynediad am Ddim. Roedd yn braf gweld y Stomp Gerdd Dant yn denu cynulleidfa frwd unwaith eto. Mae’n ymddangos mai’r Tŷ Gwerin fydd cartref y Stomp o hyn allan ac mae’n hawdd gweld pam.

Mae’r Tŷ Gwerin yn cynnig awyrgylch unigryw i’r traddodiadau. Dyw’r lle ddim yn rhy fach fel nad yw’n bosib cefnogi cynulleidfaoedd y bandiau mwyaf poblogaidd a chynnal digwyddiadau dawns ond eto nid yw’n rhy fawr mewn ffordd all golli’r naws unigryw. Mae’n hawdd teimlo cysylltiad â’r artistiaid ar lwyfan a chael eich swyno gan y gerddoriaeth.

Ar ôl bod yn y brifysgol am flwyddyn a mynychu gwyliau gwerin yn Lloegr mae’r Tŷ Gwerin yn teimlo’n hynod gartrefol i mi, hyd yn oed os yw’r iwrt wedi’i osod mor bell ag y mae’n bosib mynd yng Nghymru oddiwrth fy nghartref yng Nghaerdydd. Er hyn, eleni roeddwn i’n rhan o ddigwyddiad cwbl newydd a oedd yn her i mi. Cafodd y Tŷ Gwerin Sesiwn Unnos. Yn y gorffennol mae Radio Cymru wedi gosod yr her i gerddorion gyfansoddi cerddoriaeth wreiddiol a’i recordio o fewn un noson. Mae’r Eisteddfod hefyd wedi cynnal sesiwn unnos drama ond tro’r gwerinwyr oedd hi eleni.

Cefais y pleser o weithio gyda Math Roberts, Iestyn Tyne a Gwilym Bowen Rhys i ddyfeisio perfformiad ar y thema LHDT+ (LGBT+). Cafodd y thema ei ddewis gan gynulleidfa’r Tŷ Gwerin ar y nos Fawrth o lu o themâu a gynigiwyd. Yr her oedd creu pum munud ar hugain o gerddoriaeth i’w berfformio am un o’r gloch y prynhawn canlynol.

Credaf mai elfen bwysicaf cerddoriaeth gwerin yw ei fod yn ffordd o fynegi’r ystod eang o brofiadau bywyd. Mae pobl yn parhau i ail ddehongli caneuon gwerin. Wrth berfformio, rwy’n ceisio teimlo rhyw fath o gysylltiad â’r geiriau rwy’n ei ganu. Gwelais yr her yma yn ffordd berffaith o geisio ymdrin â phwnc sydd yn guddiedig yn y traddodiad gwerin. Aethom ni ati i drafod ein syniadau ac yna cyfansoddi drwy’r nos. Roeddwn ni’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y pwnc a bod yn rhaid i ni ystyried yn ddwys y math o berfformiad yr oeddem am ei greu. Nid oeddem yn siŵr beth oedd y gynulleidfa yn ei ddisgwyl, na chwaith beth fyddai eu hymateb i’n perfformiad.

Trwy ein blinder fe wnaethom ni berfformio set a oedd yn delio ag amrywiaeth o agweddau ar y thema: profiad dod allan, erledigaeth, deurywioldeb a herio syniadau am rywedd. Roedd canu’r delyn, clocsio a chanu wrth ymdopi â diffyg cwsg yn her yn ei hunan. Fe wnes i fwynhau gweithio a pherfformio gyda’r tri cerddor arall ac allwn i ddim bod wedi gofyn am ymateb gwell i’n perfformiad. Roeddwn i’n falch ein bod ni wedi cael y cyfle i wthio ffiniau’r byd gwerin Cymreig o fewn un noson, gydag un perfformiad ar lwyfan y Tŷ Gwerin.  Dwi’n gobeithio y bydd yr her yma yn cael ei osod i grŵp newydd o gerddorion y flwyddyn nesaf yng Nghaerdydd.

 

 

Elisa Morris

Gadewch neges:

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s