annibynnol - gwirfoddol - cydweithredol

PAMFFLEDI LLENYDDOL EISTEDDFOD YR URDD - CEFNOGWCH HEDDIW!

Cydsefyll â Phalesteina

Er bod y cadoediad diweddar ym Mhalesteina yn destun llawenydd ar un wedd, mae’n bwysicach nac erioed nad ydym yn tynnu ein llygaid oddi ar y sefyllfa. Bregus yw’r cytundeb, ac mae maint yr ymdrech i bobl sy’n dychwelyd i Gaza gychwyn ar y gwaith o ailadeiladu eu bywydau yno yn annirnad, bron.

Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn un o arwyddeion datganiad o gydsafiad gan Publishers for Palestine, ochr yn ochr a chyhoeddwyr ledled y byd sy’n galw am gadoediad ac yn condemnio ymosodiadau hil-laddol diamgyffred gwladwriaeth Israel.

Gellir cyfrannu at waith Cymorth Meddygol i Balesteina (MAP) trwy rodd ychwanegol wrth archebu copi o Nodiadlyfr Bach y Wawr, y gyfrol o waith y bardd Palestinaidd Najwan Darwish a gyhoeddwyd mewn cyfieithiad Arabeg-Cymraeg yn ddiweddar.

Nodiadlyfr bach y wawr - Najwan Darwish

Cân y Croesi - Jo Heyde

Ffosfforws 6 - gol. Twm Ebbsworth

Pwy ydym ni?

Gwasg fechan annibynnol, wirfoddol, yw Cyhoeddiadau'r Stamp, a sefydlwyd ochr yn ochr â gwefan a chylchgrawn Y Stamp. Er i’r cylchgrawn ddod i ben yn 2021, mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn parhau i gynhyrchu deunydd newydd. Mae'n gweithredu ar sail yr un gwerthoedd â'r cylchgrawn, gyda'r gobaith o roi llwyfan i leisiau newydd ac ymylol yn y Gymraeg, creu llwyfan agored i greadigrwydd o bob math, a bodoli'n annibynnol heb nawdd cyhoeddus. 

Rydym yn ymfalchio nid yn unig mewn cyhoeddi print (a hynny am y tro cyntaf i gyfran helaeth o'r awduron, er bod lle hefyd i leisiau mwy sefydledig sy'n mentro i gyfeiriadau newydd), ond hefyd mewn trefnu ddigwyddiadau sy'n cynnig y cyfle i gyfrannwyr y cyfrolau drafod, dadansoddi a pherfformio eu gwaith - cyfle yr ystyriwn yn llawn mor bwysig â chyhoeddi'r gwaith hwnnw yn y lle cyntaf.

Mae cyfrolau barddoniaeth Cyhoeddiadau'r Stamp wedi ennill Categori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn (2022: merch y llyn gan Grug Muse; 2020: Hwn ydy'r llais, tybad? gan Caryl Bryn) a chyrraedd y rhestr fer (2022: Stafelloedd Amhenodol gan Iestyn Tyne), ac wedi ennill Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd (2020: Carthen Denau gan Rhys Iorwerth; 2019: moroedd/dŵr gan Morgan Owen). Dewiswyd nifer o’n cyfrolau hefyd ar gyfer Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru (2022: merch y llyn gan Grug Muse; 2023: Croendena gan Mared Llywelyn, Imrie gan Nia Morais, Dysgu Nofio gan Iestyn Tyne; 2024: Woof gan Elgan Rhys, Cân y Croesi gan Jo Heyde).

Tîm Cyhoeddiadau’r Stamp yw Llŷr Titus, Grug Muse, Iestyn Tyne ac Esyllt Lewis.