ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019
Cyfieithu: Rex Jibiders - Efa Edwards
Mae Rhifyn diweddara'r Stamp yn cynnwys cyfieithiad gan Efa Edwards o ysgrif o waith Hammad Rind. Yma, mae Efa yn son am y broses o gyfieithu'r darn.
Cerddi: Gweithdy cyfieithu Ulysses x Y Stamp
Mae Ulysses' Shelter yn brosiect a gyd-ariennir gan Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, gyda’r nod o greu rhwydwaith gyfnewid o breswyliadau llenyddol ar draws Ewrop, yn bennaf ar gyfer to ifanc o awduron a chyfieithwyr llenyddol o’r gwledydd hynny sydd yn rhan o’r rhwydwaith.
Ysgrif: Y Beibl(au) Cymraeg | A yw pob cyfieithiad yn dal yn berthnasol? - Gruffydd Rhys Davies
Petawn yn gofyn i chi efelychu ‘iaith y Beibl’, tybed pa fath o iaith fyddech chi’n ei ddefnyddio? Yn ddiweddar, digwyddais wylio bennod o’r gyfres Americanaidd boblogaidd, Friends, pan mae un o’r cymeriadau, Monica, yn esgus ei bod yn weinidog ar eglwys er mwyn gwella’i gobeithion o gael mabwysiadu plentyn.
Ysgrif: Diogelu Ysgolion Cymraeg - Angharad Dafis
Mewn penderfyniad deifiol, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi canfod fod Cyngor Abertawe wed torri Mesur y Gymraeg pan gaewyd Ysgol Felindre, drwy esgeuluso effaith hynny ar y Gymraeg fel iaith gymunedol. Ni fydd hynny’n newid y ffaith, serch hynny, fod ysgol wedi ei chau - a bellach wedi ei gwerthu.
Wrth dy grefft: Brawddegau - Llŷr Gwyn Lewis
Dach chi’n gwybod amdani. Y math o frawddeg sydd gen i mewn golwg. Hon. Neu hon falla. Y math o frawddeg fachog, fer sy’n cythru’n uniongyrchol am y darllenydd. Heb ferf ar ei chyfyl weithia. Yn gweiddi. Yn hawlio sylw.
Ysgrif: Pêl-droed i ferched - profiad Titw - Bethan Mai Morgan Ifan
Mae Tîm Pêl-droed menywod Caerdydd, Titws Taf, yn dathlu ei phenblwydd yn 1 oed yr wythnos hon, ac i ddathlu, maent wedi bod yn rhoi gwersi Cymraeg i dîm pêl-droed menywod Cymru.
Adolygiad: Salacia - Mari Ellis Dunning
Fel rheol, rwy’n dueddol o ddarllen llenyddiaeth gan fenywod yn unig. Dw i ddim wedi mynd ati i wneud hynny yn fwriadol, ond dyna’r math o ddeunydd sy’n tynnu fy sylw ac yn gafael ynof.
Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Llio Maddocks
Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Hywel Griffiths
Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Sara Louise Wheeler
Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Lowri Ifor
Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Dafydd Reeves
Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - John G. Rowlands
Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Morgan Rhys Powell
Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Morwen Brosschot
Ysgrif: Paith Dystopia - Morgan Owen
Ger ffiniau gogleddol Merthyr, ceir tirlun sydd, er gwaethaf hurtni ymddangosiadol y gymhariaeth, yn ‘Orllewin Gwyllt’ i mi.
Adolygiad: Paentiadau Newydd yn 85 Oed - Mary Lloyd Jones
Mae’r artist Mary Lloyd Jones yn enwog am yr ymdriniaeth gyfoes o hanes yn ei gwaith, wrth blethu symbolau o’r henfyd gyda’i dehongliad unigryw o dirwedd Cymru. Mae ei gwaith yn ein gorfodi i ailystyried tirlun hynod gyfarwydd – Cymru a’i mynyddoedd a’i hafonydd ac olion ei diwydiant.
Ysgrif a ffotograffiaeth: 1 car, 2 ddyn, siwrne eithafol (rhan 2) - Garmon Roberts
O’r 18fed o Orffennaf tan ddechrau mis Medi 2019, roeddwn i yn gyrru trwy'r Balkans a Thwrci hefo Rhys, mewn gobaith o gyrraedd Mongolia yn ein car bach ni erbyn mis Medi. Dyma brofiad anghredadwy, agoriad llygaid, anodd ar y cefn a phoeth (difaru peidio dod a char efo air con)! Dyma dri llun i grynhoi rhai o brofiadau gorau’r daith.
Adolygiad: Y Lle Celf 2019
Roedd y gofod eleni wedi ei osod yn wych. Digonedd o le i bobl fynd o amgylch y babell a mwynhau’r gwaith, gyda’r darnau yn gweddu’n dda gyda’r rhai o’u hamgylch. Dechreuais i yn y stafell bensaernïaeth.
Adolygiad: Bydoedd Bach / Hwylio yn Erbyn Plastig - Oriel Plas Glyn y Weddw
Mae cerdded i mewn i 'stafell arddangosfa Rachel Porter ym Mhlas Glyn y Weddw, Llanbedrog, fel camu i mewn i nefoedd fach dawel ar ôl crwydro drwy arddangosfa'r haf sy'n serennu oddi ar waliau gweddill y Plas.