Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Lowri Ifor

(19.09.19)

Dyma bennill sydyn wedi’i sgwennu tra dwi ar fy ngwylia yn yr Eidal. Ddalish i gwch i’r dre rong a dwi rŵan angen pasio teirawr nes ddeith y gwch nesa. Idiot.

Neithiwr ro’n i a ‘nghariad yn siarad am y ffaith fod hi’n typical ein bod ni’n methu tywydd braf adra tra dan ni ffwrdd. Sut oddan ni’n gwbod fod hi’n braf adra? Neshi’m checio’r app tywydd, neshi jyst sbio ar instagram a sylwi ar yr holl lunia o’r machlud (oedd yn edrach yn lyfli, chwara teg!)

Dyma gerdd semi-torrydd felly, sy’n dyfynnu rhei o fy hen gapshyns insta i, a rhei ffendish i wrth chwilio am #machlud yn y search bar. Dwi’n treulio lot gormod o amsar ar instagram, er mod i’n gwbod yn iawn fod sbio ar lunia o bobl erill yn mwynhau eu hunain yn gneud i fi deimlo’n waeth yn amlach na ma’n gneud i fi deimlo’n well. Fel nifer, dwi’n teimlo mod i’n byw ‘mywyd fwyfwy drwy sgrîn, hyd yn oed pan dwi ar wylia efo llwyth o betha difyr i’w gweld yn y foment.

Braf felly ydi teimlo mod i’n gallu gneud rwbath creadigol efo instagram drwy gymryd rhan yn yr her yma gan Y Stamp ... ond heno mi fydda i’n mwynhau’r machlud Eidalaidd - ac yn diffodd fy ffôn!

Lowri x

Dilynwch Ŵyl Insta-gerddi'r Stamp yma ar y wefan ac ar ein cyfrif instagram: https://www.instagram.com/cylchgrawn_y_stamp/

Previous
Previous

Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Sara Louise Wheeler

Next
Next

Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Dafydd Reeves