Mudo - Cris Dafis

£3.00
O Lanelli y daw Cris Dafis yn wreiddiol, ond mae wedi byw yng Nghaerdydd ersdegawdau bellach, lle mae’n gweithio fel tiwtor iaith gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cyfieithydd gyda Chyngor Caerdydd a cholofnydd i Golwg. Yn 2005, daeth tro mawr ar ei fyd pan foddodd ei gymar, Alex, wrth geisio’i achub yn y môr tra ar wyliau ar ynys Bali. Ymateb i’r brofedigaeth honno y mae cerddi'r pamffled hwn, dros ddegawd yn ddiweddarach. Maen nhw’n dangos nad yw colled o’r fath fyth yn diflannu, a bod ambell golled yn golled am byth. Yng nghanol tristwch, fodd bynnag, daw rhyddhad o dro i dro gan gynnig allwedd i ‘fyd sy’n fwy / na thristwch’. Dyma’r tro cyntaf i Cris Dafis fentro cyhoeddi barddoniaeth ers diwedd y 1980au pan ymddangosodd ei gyfrol 'Ac Ystrydebau Eraill' yng nghyfres Beirdd Answyddogol y Lolfa.
Quantity:
Add To Cart