A'r Ddaear ar Ddim - Siân Melangell Dafydd

from £6.00
Sold Out

Egin nofel gan Siân Melangell Dafydd yw cyfrol ryddiaith gyntaf Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddir A’r Ddaear ar Ddim i godi arian ar gyfer ymgyrch Choose Love i gefnogi dioddefwyr daeargryn Twrci a Syria yn Chwefror 2023.

Digwydd y stori yn gyfan o fewn cyfnod o ddwy eiliad yn gynnar ar fore 20 Mai 2012, wrth i ddaeargryn daro rhanbarth Emilia-Romagna yng Ngogledd yr Eidal. Mewn ystafell ddiarth yn Pieve di Soligo, Veneto, mae merch ynghwsg mewn gwely mawr gwyn, a grym yr ysgydwad yn carlamu tuag ati. Dyma ddweud sy’n pefrio yn ei fanylder disgrifiadol, a stori sy’n crwydo rhwng hunllef ac effro ar ei hyd. Dysgwch fwy am y gyfrol trwy glicio yma.

A’r Ddaear ar Ddim

Siân Melangell Dafydd / Cyhoeddiadau’r Stamp 2023

ISBN 978-1-8381989-6-1 / 32t. / £6.00*

*i’r rhai hynny sy’n dymuno rhoi mwy at yr achos, ceir opsiynau ychwanegol o ran gwneud hynny isod. Cydnabyddir enwau’r sawl sydd wedi cyfrannu arian ychwanegol ar restr yng nghefn y gyfrol - rhagarchebwch erbyn 30 Ebrill 2023 i gael eich cynnwys yn yr argraffiad cyntaf. E-bostiwch cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com os ydych yn awyddus i roi cyfraniad uwch na’r opsiynau a restrir.

Dewis pris::
Add To Cart