Dysgu Nofio - Iestyn Tyne

£6.50

DEWIS Cyfnewidfa Len Cymru ar gyfer Silff Lyfrau Hydref 2023

Casgliad o gerddi a osodwyd yn y tri uchaf ac yn deilwng o Goron Eisteddfod Genedlaethol 2023. Dywedodd Jason Walford Davies yn ei feirniadaeth mai ‘gogoniant y casgliad myfyrdodus a thra galluog hwn yw’r ddawn lachar a welir yma i gynnal, o’r dechrau o’r diwedd, un ddelwedd elfennaidd, lifeiriol: dŵr’. Gwneir hynny trwy am-yn-eilio cerddi dan y teitl ‘Gwers’, sy’n darlunio cwrs un wers nofio mewn canolfan hamdden ar nos Lun, gyda cherddi ehangach eu golwg, lle mae’r profiad o ddod yn rhiant yn wyneb argyfwng hinsawdd a bygythiad difodiant yn llifo trwy bopeth.

Dysgu Nofio

Iestyn Tyne / Cyhoeddiadau’r Stamp 2023

ISBN 978-1-8381989-9-2 / 24t. / £6.50

Celf y clawr: Iwan Huws

Quantity:
Add To Cart

Adolygiadau

“A young father learns to sink or swim in this touching, meditative account of new parenthood. The image of water flows through the collection, tempoed by alternating poems under the title ‘Gwers’ … the poems are observant and perceptive, and a single thread tethers each to the other: the experience of parenthood in the face of a climate crisis and extinction flows, hauntingly, throughout … Dysgu Nofio is a beautiful new collection - as fragile as it is profound - from one of Wales’ most exciting young poets”. (Cyfnewidfa Len Cymru)