merch y llyn - Grug Muse

£8.00
Sold Out

ENILLYDD Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022

DEWIS Cyfnewidfa Len Cymru ar gyfer Silff Lyfrau Hydref 2022

Yn y 'bargeinio rhwng meddalwch a chadernid' y mae cerddi ail gyfrol Grug Muse yn digwydd; yn y cyrff o ddwr sy'n ddihangfa ac yn fygythiad yn un gwynt. Mae haenau daeareg yn datgelu haenau'r hunan, mewn gwaith sy'n dangos fod y ffin rhwng poen a phleser, rhwng y cignoeth a'r synhwyrus, mewn gwirionedd yn denau iawn.

merch y llyn

Grug Muse / Cyhoeddiadau’r Stamp 2021

ISBN 978-1-8381989-2-3 / 72t. / £8.00

Ffotograff y clawr: Cain Muse

Add To Cart

Adolygiadau

Ro’n i wedi gwirioni ar hon o’r darlleniad cynta’, ond o’n i angen ei darllen hi eto, ac eto, ac eto … mae ’na gyfuniad bendigedig yna o’r traddodiadol - sut mae’n defnyddio chwedloniaeth a hanesion, a straeon tylwyth teg ein diwylliant ni - ond hefyd gweledigaeth hynod o fodern - mae’n bersonol, mae’n amserol, ac yn hynod o ffresh. (Gwion Hallam, Stiwdio, BBC Radio Cymru)

Mae ’na rywbeth cyfareddol yn y cerddi yma. Delweddau trawiadol, yn enwedig yn y defnydd cyson o ddwr, a llygad craff yn nodi’r manylion. Mae’r cyfan yn dal bywyd rhwng realiti a breuddwyd rhywffordd, sy’n aml sut mae bywyd yn teimlo go iawn, sbo. (Rhodri Jones)