Sgriptiau Stampus 01: Croendena - Mared Llywelyn

£8.00

DEWIS Cyfnewidfa Len Cymru ar gyfer Silff Lyfrau Hydref 2023

Cyhoeddir Croendena, y gyntaf yn y gyfres Sgriptiau Stampus sy’n rhoi platfform i ddramau cyfoes cyfrwng Cymraeg, ar y cyd gyda chwmni theatr Frân Wen.

Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion. Hogia, hela, a ffymbls maes parcio’r National Trust.

Mae’r haf ar droed. Mae’r gens yn barod am bartis ac mae bywyd yn llawn posibiliadau. Tra bod rhai perthnasau’n blodeuo, mae eraill yn dirywio. Mae’r fonoddrama hon yn dilyn hanes Nel, merch 17 oed, wrth iddi geisio wynebu’r pethau hyn oll.

Gyda ffotograffau o’r cynhyrchiad gwreiddiol gan Kristina Banholzer, a rhagair newydd gan y dramodydd.

Sgriptiau Stampus 01: Croendena

Mared Llywelyn / Cyhoeddiadau’r Stamp & Frân Wen 2023

ISBN 978-1-8381989-7-8 / 68t. / £8.00

Quantity:
Add To Cart