[TOCYN] Darllen Palesteina 2: Orientalism - 08.05.24 [cyfyngedig i 8]

£1.00

Digwyddiad talwch be ’da chi’n gallu/teimlo yw hwn, gyda’r holl arian yn mynd tuag at elusen Cymorth Meddygol i Balesteiniaid (MAP). Yn dilyn archebu eich tocyn am £1, byddwn yn gyrru dolen PayPal/manylion banc atoch y gallwch eu defnyddio i dalu yr hyn sy’n gweithio i chi. Argymhellir fod ffi o rhwng £5 a £15 yn addas os yw’r modd gennych.

Darllen Palesteina 2: Orientalism - Edward Said

Nos Fercher 8 Mai, 20:00-21:00, digwyddiad ar-lein

Hwylusydd: Grug Muse

Croeso i gyfres newydd o ddigwyddiadau a gynhelir gan Gyhoeddiadau’r Stamp i godi arian ac ymwybyddiaeth a chydsefyll gyda phobl Palesteina. Fel cyhoeddwyr, rydym wedi arwyddo datganiad mudiad Cyhoeddwyr dros Balesteina, sydd ymhlith llawer o bethau eraill yn nodi y dylem ymrwymo i droi y diwydiant cyhoeddi yn ofod lle gall dysg a llais ffynnu. Fel cyhoeddwyr, ein lle yw creu lle i leisiau Palestiniaid, a’r lleisiau hynny sy’n cydsefyll yn erbyn peiriant rhyfel.

Testun gosodedig ail sesiwn Darllen Palesteina fydd adran gyflwyniad/introduction Orientalism gan Edward Said, llyfr seminal wrth sefydlu’r cysyniad beirniadol hwnnw ynghylch safbwyntiau’r Gorllewin tuag at y Dwyrain.

Mae PDF o’r gyfrol ar gael ar lein yma (tud 9-36 yn y PDF fydd dan sylw), ond bydd y sawl sy’n archebu tocyn hefyd yn derbyn copi drwy e-bost. Ychydig cyn y digwyddiad byddwch yn derbyn manylion y digwyddiad ar-lein a chyfres o gwestiynau/pryfociadau i’w hystyried cyn y noson, ac a fydd yn ffurfio sail i’n trafodaeth. Nid oes disgwyl i neb gyfrannu i’r sgwrs os nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus gwneud.

Digwyddiad ar gyfer trafodaeth cyfrwng Cymraeg fydd hwn, er nad Cymraeg yw iaith y testun.

Ychwanegu i'r cart