Stwff ma hogia 'di ddeud wrtha fi - Llio Elain Maddocks

£5.00
Sold Out

Y pamffled cyntaf o gerddi gan Llio Elain Maddocks (@llioelain ar instagram). Dyma gyfrol o ugain o insta-gerddi sydd, os nad ydych chi wedi llwyddo i ddyfalu hynny o'r teitl, yn ymateb i lot o stwff stiwpid ma hogia 'di ddeud wrth yr awdur dros y blynyddoedd. Darluniau gan Erin Thomas.

Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi

Llio Elain Maddocks / Cyhoeddiadau’r Stamp 2021

ISBN 978-1-8381989-0-9 / 32t. / £5.00

Add To Cart

Cyfweliad Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi gyda chylchgrawn Lysh.

Lansiad Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi yng nghwmni Llio Elain Maddocks, Ciara Ní É, Elen Ifan, Jaffrin, Mari Elen, Megan Haf a Taylor Edmonds:

Adolygiadau

Petai’n rhaid crynhoi’r pamffled hwn o gerddi Llio Elain Maddocks i dri gair, ‘lliwgar’, ‘amrywiol’, a ‘chryf’ fyddai’r rheini … ei phrofiad hi sydd yn y cerddi, ond hefyd pob merch sydd wedi bod yn yr un sefyllfa a hi. Mae’r pamffled yn syniad arbennig ac un hollol greadigol a modern. (Glain Jones-Berry, Barddas)

Mae Llio yn profi bod cerddi Cymraeg yn gallu bod yn fodern ac yn ddoniol. (@sianithereader, Instagram)

Mae’n debyg nad ydi Dei Tomos Radio Cymru yn ffan! Ac os ‘da chi’n weddol sensitif i iaith blaen a thestunau corfforol, bysa’n well i chi sticio at Y Casglwr yn hytrach na’r bamffled newydd yma gan y bardd a’r awdur o Lan Ffestiniog. 

Ar y llaw arall, prynwch gopi ar bob cyfri’ os ‘da chi’n mwynhau ymdriniaeth gonest ac agored o faterion sy’n gyffredin i ferched ymhob man. Er na feiddiwn gynnwys rhai o’r cerddi yn Llafar Bro, mae’r gyfrol yn llawn o ddarnau bachog, punchy fydd yn achosi ebychiadau o gytuno a dathlu plwc y bardd sy’n gorfod ‘treulio ei hamser gwerthfawr yn ymateb’ i bethau twp mae hogia’n ddeud. (Llafar Bro)