Cerdd: Ar Fro’r Arfordir - Ffion Haf Williams

Mae sawl Steddfod yng Nghymru: Steddfodau Pobol Fawr a Steddfodau Crachod Lludw, Steddfodau'r Gwrychoedd a'r Niwl a Steddfod enwog Drws y Nant i enwi dim ond rhai. Heddiw mae'r Stamp yn falch o gynnig cip ar arlwy Steddfod y Ffermwyr Ifanc. Enillodd Ffion Haf Williams y Gadair yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Sir Benfro hefo'r gerdd hon a braint Stampus ydi ei rhannu hi. Daw Ffion yn wreiddiol o Sir Benfro ond mae hi bellach tua ochrau Caerdydd, rhywbeth a ddaw'n amlycach wrth ddarllen ...

Ar Fro’r Arfordir

Mae’r haf fan hyn yn hafan

Rhag swyddfa a siwt a straen.

Daw’r twrist yn llu i lawr at y lli

Am ysbaid yng nghoflaid y môr.

Cosi’r don a’u bodiau (gan sgrechian),

Yr heli a’r eli haul

Yn gusan ar eu croen,

A’r gwylanod yn diog-gylchu’r gorwel.

Yna (where has the time gone?)

Llithro nôl tua gwareiddrwydd swbwrbia,

Ac ambell i ochenaid

Where did all this bloody sand come from!?

Yn atsain yn atgof ar eu hôl.

Gyda’r gaeaf yn tynnu’i chlogyn yn dynnach amdani

A’r haul wedi dianc i estron diroedd,

Daw’r fro yn eiddo’r trigolion unwaith eto.

Dan gwrlid storom,

A’r môr yn corddi’r tir,

A’r glaw yn annog yr ewyn,

A’r gwynt yn wylo yn yr hwyliau…

Dyma yw fy mharadwys.

Ceir hedd yn udo’r ddrycin,

Boddhad yn nicter y dyfroedd.

Ond tu hwnt i gynnwrf yr heidiau dros dro,

A chysur cwrlid garw’r hirnos,

Mae gwirionedd i’r olygfa ar y cerdyn post.

Ni all dymestl fagu gyrfa.

Mae cregyn cyfleoedd

Yn brin ar lan y dyfodol.

Pembrokeshire’s such a shithole.

I can’t wait to leave, get out into the world.

I want to really make something of myself, you know?

Wel dyma fi!

Wedi lledaenu fy adenydd a phlymio oddi’r nyth

I brofi fy ngwerth i’r byd go iawn,

A bradychu Dinas am ddinas ddienaid.

Nid oes yma na hedd na boddhad.

Mae’r golau, y twrw, y cyffro yn…

Yn wag.

Dyma deyrnas archfarchnadoedd a choncrit a dieithriaid drws nesaf.

Sawr bins ar lawr yn gelain i’r gwylanod -

Haint o blu didrugaredd

Yn crawcian a checru a chachu.

Môr y bae yn llipa llwyd -

Bagiau crisps a thins o lagyr yn wymon llesg,

A pholesteirin yn ewyn

Yn brychu ei wyneb gwelw.

Dyma fi wedi cyflawni fy mhererindod

I’r eang fyd

I feistroli yfory -

Ac yn gwae’r dydd ddes i Gaerdydd.

Dwi’n hiraethu,

Yn ysu

Am felin nag yw’n malu,

Am le da i fagu lladron,

Am ddŵr sy’n berwi rhwng y cerrig llwydion.

Am fro anwadal fy mebyd.

Mae’r môr yn fy mêr.

Y traeth, nid tref, yw adref.

Rwyf blentyn a ffurfiwyd o dywod,

A’r halen yn haen am fy nghalon.

Rhaid oedd diengyd i ddarganfod

Gwir rym tynfa’r tonnau.

Dychwelyd, nid dianc, yw’r freuddwyd nawr.

Mae’r cesig gwynion wedi ’nghyfrwyo;

Mae’r heli yn fy hel i nôl bob tro.

Previous
Previous

Llyfrau 2018: Dewisiadau’r golygyddion

Next
Next

Cerdyn Post Creadigol: Venezia - Cain Muse