‘Dach chi wedi sgwennu rhywbeth, yn chwilio am gartref amdano fo, ac wedi meddwl am Gyhoeddiadau’r Stamp (dewis da, os cawn ni ddeud), ond be nesa? Sut mae troi llyfrFINALterfynol2b.docxx yn gyfrol brint? Dyma gyflwyno ein system newydd o agor ffenestri cyflwyno ar gyfer gwaith posib i’w gyhoeddi. Cliciwch ar y botymau isod i ddysgu mwy. Ein ffenestr gyflwyno nesaf fydd mis Mai 2025!