ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019 / MIS BACH GWYRDD 2020
Cyfieithu: Rex Jibiders - Efa Edwards
Mae Rhifyn diweddara'r Stamp yn cynnwys cyfieithiad gan Efa Edwards o ysgrif o waith Hammad Rind. Yma, mae Efa yn son am y broses o gyfieithu'r darn.
Cerddi: Gweithdy cyfieithu Ulysses x Y Stamp
Mae Ulysses' Shelter yn brosiect a gyd-ariennir gan Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, gyda’r nod o greu rhwydwaith gyfnewid o breswyliadau llenyddol ar draws Ewrop, yn bennaf ar gyfer to ifanc o awduron a chyfieithwyr llenyddol o’r gwledydd hynny sydd yn rhan o’r rhwydwaith.
Ysgrif: Y Beibl(au) Cymraeg | A yw pob cyfieithiad yn dal yn berthnasol? - Gruffydd Rhys Davies
Petawn yn gofyn i chi efelychu ‘iaith y Beibl’, tybed pa fath o iaith fyddech chi’n ei ddefnyddio? Yn ddiweddar, digwyddais wylio bennod o’r gyfres Americanaidd boblogaidd, Friends, pan mae un o’r cymeriadau, Monica, yn esgus ei bod yn weinidog ar eglwys er mwyn gwella’i gobeithion o gael mabwysiadu plentyn.
Ysgrif: Ymateb Byd-Eang i COV-19 – Model ar Gyfer Ymateb i Newid Hinsawdd? - Seran Dolma
Mae mwy a mwy o drafod ar effaith amgylcheddol COVID-19 erbyn hyn gyda lluniau o eifr ac anifeiliaid eraill yn crwydro ein dinasoedd. Seran Dolma sydd yn pwyso a mesur goblygiadau'r drychineb ddynol hon ar y byd yn ehangach heddiw ac yn holi os yw'r ymateb presennol yn cynnig patrwm at y dyfodol.
Ysgrif: Diogelu Ysgolion Cymraeg - Angharad Dafis
Mewn penderfyniad deifiol, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi canfod fod Cyngor Abertawe wed torri Mesur y Gymraeg pan gaewyd Ysgol Felindre, drwy esgeuluso effaith hynny ar y Gymraeg fel iaith gymunedol. Ni fydd hynny’n newid y ffaith, serch hynny, fod ysgol wedi ei chau - a bellach wedi ei gwerthu.
Cerdd: Prexit - Llio Heledd Owen
Llio Heledd Owen o Brifysgol Aberystwyth oedd enillydd Cadair Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth eleni. Y testun oedd 'Agor', a braint i'r Stampwyr yw cael rhannu'r gerdd fuddugol â'n darllenwyr.
Cerdd: Traeth Cariadon - James Horne
Dwi'n gallu gweld y môr,
Gall enaid hefyd,
Dwi'n gallu teimlo’r ddaear oddi tanof,
Gall enaid hefyd,
Stori fer: Y Goeden - Eluned Winney
Maen nhw’n dweud bod ’na goeden yn yr hen goedwig lawr y lôn sydd ddwywaith yn lletach nag unrhyw goeden ’rwyt ti wedi ei gweld erioed. Maen nhw’n dweud ei bod mor hen â’r mynyddoedd.
Ysgrif: Does dim modd prynu dy ffordd allan o argyfwng - Mabli Jones
Mae sgrolio Instagram fel merch millennial y dyddiau yma yn cynnig cyfres o luniau a hysbysiadau nodweddiadol: dillad yoga, cwpanau coffi di-blastig, nwyddau mislif amldro, deunyddiau glanhau naturiol, gwasanaethau dosbarthu bwyd figan ...
Ysgrif: Amaethyddiaeth Gynaliadwy: Ddoe, Heddiw ac Yfory... - Euros Jones
Mae’r berthynas rhwng cynaliadwyedd ag amaethyddiaeth yn ddyrys, ond yn hanfodol. Yng Nghymru, mae’r diwydiant amaeth yn rheoli’r amgylchedd, yn greiddiol i’r strwythur economaidd, ac yn asgwrn cefn i’r gymdeithas frodorol Gymreig.
Darn Creadigol: Bwydlen Ehöeg - Mari Elin
Ar hyd y canrifoedd mae'r bwydydd rydyn ni wedi, ac yn, eu bwyta yn esblygu'n barhaus a blasau newydd yn cael eu creu yn gyson. Erbyn 2030 mae disgwyl y byddwn ni’n bwyta bwydydd hollol whanol i'r hyn rydyn ni wedi'i brofi o'r blaen.
Rhestr ddarllen: Darllen yr Argyfwng Hinsawdd - Aelodau XR Cymru
A hithau'n Fis Bach Gwyrdd ar wefan Y Stamp, dyma ofyn i rai o aelodau XR Cymru am eu hawgrymiadau o lyfrau i'n helpu i 'ddarllen yr argyfwng hinsawdd'.
Stori fer: Gweledigaeth Bedwyr - Dyfan Lewis
Daeth sŵn o'r gwyll. Un o'r synau hynny oedd yn ddigon i frawychu pan fo golau dydd ar fin pallu, a synau a sïon eraill wedi bod yn hel am fall yn y goedwig.
Celf: Catrin Menai
Dwi ddim yn sgwennu'n naturiol yn y Gymraeg ond yn mwynhau cyfuno geiriau - mewn ffordd mae'n fwy rhydd i fi achos mae'r sŵn yn dod o flaen yr ystyr.
Adolygiad: On🔥 - Naomi Klein
Casgliad ydi'r llyfr yma o erthyglau, myfyrdodau a darlithoedd y mae Naomi Klein wedi eu hysgrifennu dros y degawd diwethaf, yn archwilio newid hinsawdd ac ymateb pobl iddo.
Cerdd: Gwrthryfel Difodiant - Philippa Gibson
Mae angen dewis pendant ...
Celf: Cydfodoli - Manon Dafydd
Dyma ymateb yr artist Manon Dafydd, trwy gyfrwng cyfres o dorluniau papur, i'r mis bach gwyrdd.
Adolygiad: The Overstory - Richard Powers
Y llynedd cyhoeddwyd The Overstory gan Richard Powers, nofel sy’n sôn am goed a pherthynas pobl gyda choed.
Stori fer: Dychmygwch - Ceinwen Jones
Dychmygwch ddrws yng nghanol cae. Cae eitha bach ydi o. Does na’m byd arall yn y cae.
Wrth dy grefft: Brawddegau - Llŷr Gwyn Lewis
Dach chi’n gwybod amdani. Y math o frawddeg sydd gen i mewn golwg. Hon. Neu hon falla. Y math o frawddeg fachog, fer sy’n cythru’n uniongyrchol am y darllenydd. Heb ferf ar ei chyfyl weithia. Yn gweiddi. Yn hawlio sylw.