Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2024
Dathlu bod dau o gyfrolau’r wasg ar restr y Gyfnewidfa, a nodyn ar Ffair Lyfrau Frankfurt.
Cyhoeddiad: Rhuo ei distawrwydd hi - Meleri Davies
Cyfrol nesaf Cyhoeddiadau'r Stamp yw Rhuo ei distawrwydd hi gan Meleri Davies.
Galwad agored: Ffosfforws 6
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yn rhifyn hydref-gaeaf 2024 cyfnodolyn Ffosfforws.
Newyddion: Twm Ebbsworth - golygydd gwadd Ffosfforws 6
“Dwi eisiau creu casgliad sy’n adlewyrchu’r sbectrwm eang o deimladau mae geiriau’n medru eu hennyn ynom ni.”
Newyddion: Gŵyl Arall 2024
Manylion digwyddiadau a gynhelir gan Gyhoeddiadau’r Stamp yng Ngwyl Arall, Caernarfon eleni.
Cyhoeddiad: Coch - Tegwen Bruce-Deans
‘Coch’ gan Tegwen Bruce-Deans yw Stori Fer y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
Cyhoeddiad: Gwrthryfela - Lois Medi
‘Gwrthryfela’ gan Lois Medi yw Cerdd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024
Cyhoeddiad: Amserlen - Alys Hedd Jones
‘Amserlen’ gan Alys Hedd Jones yw Drama Fer y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
Cyhoeddiad: Cân y Croesi – Jo Heyde
‘Nid y bont sy’n bwysig’, medd Jo Heyde yn ei phamffled cyntaf o gerddi, ‘ond cân y croesi’. Dyna grynhoi ysbryd y casgliad tlws a myfyrdodus hwn sy’n croniclo teithiau’r bardd yn ôl a blaen o dde Lloegr i orllewin Cymru
Newyddion: Cyfres bamffledi Eisteddfod yr Urdd
Mewn cydweithrediad ag Eisteddfod yr Urdd, mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn falch o gyhoeddi cyfres newydd o bamffledi blynyddol fydd yn rhoi llwyfan teilwng i waith enillwyr y prif wobrau llenyddol – y Fedal Ddrama, y Gadair a’r Goron.
Newyddion: Darllen Palesteina 2 - Orientalism
Testun gosodedig ail ddigwyddiad Darllen Palesteina fydd cyflwyniad Edward Said i’w gyfrol seminal, Orientalism.
Cyhoeddiad: Ffosfforws 5 - gol. Miriam Elin Jones
Mae’n fraint gennym rannu clawr ac enwau cyfrannwyr pumed rhifyn Ffosfforws, ein cyfnodolyn ar gyfer barddoniaeth newydd yn y Gymraeg, a olygwyd y tro hwn gan Miriam Elin Jones.
Newyddion: Darllen Palesteina
Testun gosodedig cyntaf Darllen Palesteina fydd Poems for Palestine (Publishers for Palestine 2024). Mae’r casgliad hwn yn cynnwys cerddi a chyfieithiadau o waith Refaat Alareer, Fady Joudah, Hiba Abu Nada, Olivia Elias, Samer Abu Hawwash, Maya Murry, Ahlam Bsharat, Basman Aldirawi, a Ghassan Zaqtan.
Cyhoeddiad: Sgriptiau Stampus 03 – Elgan Rhys yn cyhoeddi WOOF
Trydedd gyfrol cyfres Sgriptiau Stampus, a lansiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, yw Woof gan Elgan Rhys. Cyhoeddir sgript y ddrama union bum mlynedd ers ei llwyfaniad cyntaf yn ystod Ionawr a Chwefror 2019.
Galwad Agored: Ffosfforws 5
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yn rhifyn gwanwyn 2024 cyfnodolyn Ffosfforws.
Newyddion: Miriam Elin Jones - golygydd gwadd Ffosfforws 5
Rydym yn falch o gyhoeddi mai golygydd gwadd pumed rhifyn Ffosfforws (Gwanwyn 2024) yw Miriam Elin Jones. Bydd Miriam yn enw cyfarwydd iawn i ddarllenwyr Y Stamp (heddwch i’w lwch) fel un o sylfaenwyr y cylchgrawn, a’i gyd-olygydd rhwng 2016 a 2018.
Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2023
Mae tair o gyfrolau Cyhoeddiadau’r Stamp wedi eu dewis ar gyfer Silff Lyfrau flynyddol Cyfnewidfa Lên Cymru, detholiad o lyfrau newydd o Gymru a argymhellir gan y Gyfnewidfa mewn ffeiriau llyfrau rhyngwladol ar gyfer eu cyfieithu i ieithoedd eraill.
Argraffiad newydd: Ystlum - Elen Ifan
Anaml y byddwn yn cael y fraint o gyhoeddi trydydd argraffiad un o gyfrolau Cyhoeddiadau’r Stamp, ond dyna fydd yn digwydd gydag Ystlum, y pamffled cyntaf o farddoniaeth Elen Ifan.
Newyddion: Taith Lansio - Dysgu Nofio
Bydd Iestyn Tyne ar daith ym mis Tachwedd wrth iddo hyrwyddo ei gyfrolau newydd; Dysgu Nofio trwy Gyhoeddiadau’r Stamp, ac Unspecified Spaces, y gyfrol o gyfieithiadau o gerddi Stafelloedd Amhenodol a gyhoeddir gan Broken Sleep Books.
Cyhoeddiad: Dysgu Nofio - Iestyn Tyne
Cyhoeddir Dysgu Nofio, pamffled newydd o gerddi gan Iestyn Tyne, gan Gyhoeddiadau’r Stamp ym mis Medi. Dan y teitl ‘Rhyddid’, cyflwynwyd y casgliad i gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, ac fe’u gosodwyd yn y tri uchaf ac yn deilwng o’r wobr gan y beirniaid.