Cerdd: Coedwig yn Dadfeilio - Dewi Alter

(Myfyrdod yn seiliedig ar helynt coedwig Białowieża - http://www.bbc.co.uk/news/av/world-europe-41031299/will-primeval-biaowiea-forest-survive-poland-s-fight-with-the-eu)

Haint sydd arnom,

sy’n nadreiddio fel gwinwydden.

Y mae’n bod ers amser maith,

yn bod o’n blaenau; a welwn ei ddiwedd?

Er holl gyfrinachau’r Dwyrain

amlwg yw ein cyflwr ac

amlycach yw ein ffawd.

Fe’n diarhebir cyn hir,

a’n gwneud yn gyff gwawd.

Dynoda’r haint ein

diwedd; megis chwyn.

O fardd, fe freuddwydiaf.

٭

Ni welais ein gwanwyn,

ac ers hynny

fe fûm yn gwywo.

Lle bu gosgordd o foncyffion anghysbell

yn amddiffynfa rhag amryw fygythiad;

fe’n diorseddwyd a’n gwneud yn feddlechau.

Daeth y pla i ganol ein haf

a’n llygru’n llwyr a melltithio pob

had cyn ei lunio.

Nawr, o fardd, wynebwn ein gaeaf.

Haint ein rhieni,

haint oedd ein etifeddiaeth,

haint ein hieuenctid.

Pwy a gaiff lendid o aflendid?

O fardd! Clyw fy nghri!

Ni allwn wrthod hyn,

yr oeddem yn hardd-deg yng ngardd

Eden

ein camgymeriadau a’n hymffrost

a’n chwythodd ni ar gyfeiliorn.

٭

Unwaith credasem mewn iachâd,

ein hynafiaid – nid ni.

Tyfasom a gadawsom hen goelion

y cynfyd.

Gwn am yr haint sy’n pydru ynof.

Gwir neu gau, roedd

ganddynt obaith,

buont yn ffyddlon i’w ffolineb.

Nid oes imi gysur o fardd.

Er gwaethaf ein digadwynwch;

onid ydym o hyd yn gaeth?

Ni lwyddasem i dyfu, megis prysglwyn.

Cwestiynau a holwn ninnau –

fi a ’nghyfoedion – a ydym yn bren?

Pryderaf. Onid ydym wedi holi

ac anwybyddu, heb

geisio atebion, er mwyn anghofio

am ein salwch?

٭

Roedd gennyf freuddwyd

ers talwm am

goedwig ddi-haint;

coedwig iach.

Tynnwyd fy mreuddwyd o’m llaw

cyn iddi flaguro.

Fe’n llifiwyd gan ein gelynion a’n

defnyddio fel mur rhyngddynt

a’u gelynion hwythau.

Barn a broffwydwyd.

Daeth rhai i’n ceisio am encil.

Fe’u lladdwyd hwy, heb un tyst,

dan gysgod mynwent ein dail.

Erys fy mreuddwyd. Hiraethaf

am feddyg.

Fy nghyffesiad fod pethau o chwith.

Crinaf.

Ni chroesawaf fy niwedd.

Edwinwn heb un cof

gan ein cyfeillion, am ein

cyfeillgarwch: chwedloniaeth.

Fe’n diwreiddir ac yna fe’n gwedir.

A ddaw rhyddhad ar ôl

ymwacáu o hyn?

Gwn na chaf sicrwydd.

٭

Gwir yw’r haint; ond

mae’r breuddwyd yn frau.

Fe’n llyncir gan amser a

chysgod fydd fy nyddiau ar y ddaear.

Marweiddia fy moncyffion.

Pa le mae’r dŵr i’n hadfywio?

Mae amser i bopeth, ond un peth yn unig

a wnawn yn awr.

Ni newidia’r freuddwyd fy ffawd.

Cofia fi, o fardd! Bydd drugarog!

Ni chysgodaf oddi wrthyt.

Cofia fi yn dy gân cyn

imi droi’n llwch y llawr.

Gyfaill, trugarhaf wrthyt,

ni roddaf yr hyn sydd angen;

ni allaf

Ond, fe ganaf iti rhag i’th fodolaeth

fynd yn ddi-dystiolaeth.

Previous
Previous

Profiad: Yng Nghalon y Trobwll, Ffair Lyfrau Llundain - Eluned Gramich

Next
Next

Cyfweliad: Where I’m Coming From: Durre Shahwar & Hanan Issa