Cyfieithu: Rex Jibiders - Efa Edwards

Mae Rhifyn diweddara'r Stamp yn cynnwys cyfieithiad gan Efa Edwards o ysgrif o waith Hammad Rind. Yma, mae Efa yn son am y broses o gyfieithu'r darn. I ddarllen y cyfieithiad, a chyfweliad gyda Hammad Rind, gallwch lawrlwytho (am ddim) neu brynu’r rhifyn print o dudalen archif Cylchgrawn Y Stamp yma.

Hammad Rind

Mae hwn yn ddarn sy’n trafod profiad sydd, mewn un ffordd, yn berthnasol i ni i gyd, sef y profiad o fynd i’r sinema a phrofi’r gorlwytho unigryw ar y synhwyrau yn ystod blynyddoedd ein glaslencyndod. Ond, wedi dweud hynny, mae’r profiad sy’n cael ei gyfleu mor fanwl ac mor synhwyrus o nostalgaidd yn narn Hammad Rind yn gwbl wahanol i fy mhrofiad innau’n mynd i hen sinema’r Commodore ger y môr yn Aberystwyth. Am y rheswm hwnnw, er ei fod yn brofiad mor gyffredin yn ei hanfod, rhaid oedd cyfleu profiad unigryw Hammad ym Mhacistan yn gwbl gywir. Byddwn yn teimlo’n lletchwith ac yn anghyfforddus iawn yn ceisio trosi’r profiad i ddiwylliant sy’n fwy cyfarwydd i fy un i.

Efallai y bu cyfle i gyfieithu’n ddiwylliannol yma, sef trosi elfennau o’r gwreiddiol i gyd-fynd â dealltwriaeth darllenwyr yr iaith darged. Ond yma, roedd yn amlwg i fi o’r dechrau na fyddwn yn cyfieithu’n ddiwylliannol na throsi unrhyw beth, gan fod y cysyniadau a’r geiriau yn unigryw ac yn arbennig i brofiad yr awdur, a byddai holl ystyr a theimlad o leoliad y darn yn cael eu colli pe bawn i’n eu haddasu. Wedi dweud hynny, roedd y cyfle i ymchwilio i’r pethau oedd yn anghyfarwydd i fi, fel y syniad o ‘geet mala’, yn un o’r rhannau wnes i ei fwynhau fwyaf, felly roedd yn wych gallu dysgu wrth gyfieithu. Dw i wastad yn meddwl mai un o’r pethau gorau am fy swydd fel cyfieithydd yw faint rwy’n ei ddysgu. Mae’r darnau rwyf wedi’u cyfieithu mor amrywiol, a rhaid ymchwilio i sicrhau mod i’n gwybod yn iawn beth mae pob gair a chysyniad yn ei drafod ac i osgoi camddealltwriaeth i’r darllenydd hefyd.

Weithiau, does dim angen cyfieithu – fel y gair soft-core. Byddai gwneud ymgais i gyfieithu’r gair hwn i’r Gymraeg yn golygu na fydd y darllenydd yn gwybod yn union beth mae’r awdur gwreiddiol yn ceisio ei gyfleu – fy ffrind ffyddlon italics yn camu i’r adwy! Efallai y byddai cyfieithydd arall, mwy dewr a chreadigol na fi, yn mynd ati i greu term. Opsiwn arall fyddai trosi’r term i orgraff y Gymraeg – “sofft-côr” unrhyw un?! – ond penderfynais yn erbyn hyn gan fod y term Saesneg yn un digon cyfarwydd.

Ac yna dyma fi’n dod at y frawddeg ola un. Sic transit gloria mundi. Dim ond pedwar gair sydd yma ond cododd lu o gwestiynau yn fy mhen. Mae tair iaith i fynd i’r afael â nhw yma. Lladin, Saesneg, Cymraeg, heb sôn am yr ieithoedd Urdu a Hindi sy’n cael eu trafod yn y darn. Roedd y dywediad yn anghyfarwydd i fi, felly dyma fi’n troi nôl at annwyl ŵgl. Dyma fi’n dysgu rhywbeth newydd eto – ‘thus passes the glory of the world’ yw’r hyn sy’n cael ei ddefnyddio yn y Saesneg. Ro’n i’n teimlo mai dibwynt fyddai defnyddio’r term Saesneg, am nad oedd Hammad ei hun wedi’i ddefnyddio. Felly a oeddwn i am geisio defnyddio dywediad tebyg sy’n bodoli yn y Gymraeg? Ond na, yn y pen draw (ac nid diogi yw hyn!) penderfynais gadw at y Lladin, gan mai dyma’r dywediad sy’n gyfarwydd i’r rhan fwyaf.

Un pwynt arall a gododd gwestiynau i fi oedd pa air ydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer “bunk off”, neu beidio mynd i wersi yn ystod oriau ysgol? Mae’n gwestiwn sy’n codi o hyd, ac mae na gymaint o eiriau’n cael eu defnyddio ar draws Cymru sy’n amrywio o fewn ysgolion hyd yn oed. Holais ambell i berson i weld beth oedden nhw’n ei ddefnyddio. Cododd mitshio ambell i waith, a byncio unwaith neu ddwywaith. ‘Chwarae triwant’ meddai Bruce…. Ond mitshio aeth â hi yn y pen draw. Ro’n i’n teimlo mai dyma fyddai rhywun ifanc yn ei ddweud ac yn ôl fy ymchwil casglu data hynod gynhwysfawr (diolch WhatsApp a Facebook Messenger), dyma oedd y rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio ac felly’n fwyaf dealladwy i’r darllenwyr.

Roedd Hammad yn llenor oedd yn anghyfarwydd i fi cyn dechrau rhoi cynnig ar gyfieithu’r darn hwn, ond yn sicr, mae’r darn wedi gwneud i fi eisiau darganfod mwy o’i waith.

Next
Next

Cerddi: Gweithdy cyfieithu Ulysses x Y Stamp