Cyfweliad: Blwyddyn gyntaf Recordiau Libertino - Gruff Owen

Ddydd Sadwrn diwethaf yn Nhîpî Pizza Aberteifi, roedd parti mawr. Achlysur y dathlu? Bod Libertino, label recordiau ieuengaf Cymru, yn un oed. Dywedodd sawl un bod y gig dathlu yn cynnwys un o leinyps y flwyddyn yn gerddorol, a'r hyn sy'n drawiadol yw mor eclectig a llawn addewid oedd y leinyp hwnnw o ystyried mor newydd yw'r label.

Sefydlwyd Y Stamp o gwmpas yr un adeg â Libertino, ac mae llawer o'r un gwerthoedd wrth graidd y ddwy fenter - yn bennaf, yr awydd hwnnw i gynnig, yn annibynnol, lwyfan a chefnogaeth i ddiwylliant amgen Cymraeg, a'r bobl hynny sydd wrthi'n ddiwyd yn creu - boed yn lenyddiaeth, yn gelf, yn theatr neu'n gerddoriaeth. Naturiol ddigon felly oedd defnyddio'r ffaith fod Libertino yn croesi'r trothwy hwn i ddanfon ambell i gwestiwn at Gruff Owen, sefydlydd a chydlynydd y label.

Gruff, diolch am gytuno i ateb ambell i gwestiwn i’r Stamp! Mi ddaeth Libertino, fel Y Stamp, i’r golwg tua blwyddyn yn ôl. Sut flwyddyn wyt ti wedi’i chael?

Dwi wedi cael blwyddyn rhyfeddol – teimlo fy mod yng nghanol corwynt a grëais fy hun! Y flwyddyn orau i mi ei chael – yn llawn antur creadigol.

O ble daeth syniad cychwynol Libertino? Oedd o’n rhywbeth wnaeth ddatblygu dros amser, neu a laniodd yn gyflawn ac yn barod i fynd, fel petai?

Rwyf wedi bod yn gerddor oddi ar fy arddegau ac wedi bod yn weithgar dros y blynyddoedd yn hyrwyddo ac yn cefnogi bandiau lleol. Roedd dechrau cwmni recordiau yn uchelgais i mi erioed ond doedd gen i mo’r hyder tan i mi weld ARGRPH ac Adwaith yn perfformio yn Y Parrot yng Nghaerfyrddin adeg Nadolig 2015. Wedi i mi eu clywed a chwympo mewn cariad â’u cerddoriaeth teimlwn fod yn rhaid i mi weithio gyda nhw a dechrau label fy hun.

Am y chwe mis cyntaf roeddwn yn gweithio o dan yr enw Decidedly ond roeddwn yn teimlo fy mod yn tyfu ynghynt nag ethos gwreiddiol y label hwnnw. Felly fe benderfynais gychwyn Libertino gyda delwedd ac ethos oedd yn cydfynd â fy mhersonoliaeth a fy ngwleidyddiaeth i. Mae Libertino yn label arloesol, eangfrydig ac agored sydd yn creu cymuned gefnogol i’w artistaid. Beth sydd yn bwysig yng Nghymru ydy bod labeli, hyrwyddwyr a’r wasg yn cyd-weithio i sicrhau cyfleoedd i artistiaid Cymraeg ffynnu.

Mae ‘teulu’ Libertino yn tyfu a thyfu! Sonia am rai o’r artistiaid diweddaraf i ymuno.

Mae pymtheg artist/grŵp ar y label erbyn hyn. Y rhai diweddaraf i ymuno ydy Breichiau Hir, y band post hardcore o Gaerdydd; Papur Wal, grŵp slacyr yn wreiddiol o’r gogledd ond yn awr yng Nghaerdydd ac Accü, sef Angharad van Rijswijk, sy’n creu cerddoriaeth electroneg, psychedelic organaidd.

Mae hyn yn dangos pa mor eclectig yw roster y label. Yr un peth sy’n gweu pob artist efo’i gilydd yw eu bod yn creu celfyddyd er ei fwyn ei hun. Rwy’n annog yr artistiaid i ddilyn eu greddf creadigol a thorri eu cwys eu hunain yn lle ceisio creu cerddoriaeth er mwyn poblogrwydd.

Oes yna le i fwy o fentrau fel Libertino o fewn y byd creadigol Cymraeg, sy’n cynnig llwyfan i amrywiaeth a rhyddid i leisiau gwahanol? Oes digon yn cael ei wneud i sicrhau hynny? Beth fedrwn ni fel unigolion ei wneud i wella'r sefyllfa?

Yn bendant, dyna un o’m prif obeithion. Os bydd Libertino’n ysbrydoli rhywrai eraill i ddechrau label gorau oll i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru. Mae gennym ni lu o labeli gwych yma ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd mae dewis gan artistiaid pa label fydd yn gweithio orau ar gyfer eu sain nhw.

Rydym ar drothwy cyfnod cyffrous iawn i’n cerddoriaeth ni ac mae’r cymorth i labeli a gynigir gan PYST (Turnstile) yn hanfodol. Mae’n rhaid annog pobl i fynychu gigs, prynu cerddoriaeth a lledu eu hoff gerddoriaeth ymysg eu cydnabod.

Mae Adwaith wedi cael dros 80,000 o ffrydiau ar ‘Fel i Fod’ o fewn y misoedd diwethaf. Mae’n siŵr fod hynny’n rhoi lot o hyder i rywun. Sut mae Libertino wedi bod yn gwthio gwaith yr artistiaid i lwyfannau newydd?

Mae llwyddiant Adwaith yn gwbl haeddiannol. Mae eu doniau cyfansoddi wedi bod yn amlwg i bawb o’r dechrau. Fe fydd eu halbwm cyntaf yn foment bwysig yn hanes cerddoriaeth pop Cymraeg.

Ers y cychwyn rwyf wedi rhoi pwyslais mawr ar hyrwyddo’r bandiau. Ond hefyd mae ochr rheoli’r label yn gweithio efo’r artistiaid i’w cael nhw i fan creadigol lle byddant yn rhyddhau eu deunydd gorau o fewn cynllun deuddeg mis. Rwyf yn gweithio’n agos efo cwmniau PR ac yn gwneud llawer o waith hyrwyddo fy hun. Rydym yn ymwybodol fod cynulleidfa fwy y tu allan i’r byd Cymraeg ac felly rydym yn hyrwyddo cymaint i Ewrop a gweddill y byd ac yr ydym ni yma yng Nghymru. Enghraifft o hyn yw fod blogs mawr yn yr Unol Daleithiau wedi sgwennu mwy am ARGRPH na’r rhai yma yng Nghymru. Mae’n rhaid bod yn gwbl agored i’r byd.

Nid label recordio yn unig ydi Libertino – a dyna un o’r pethau braf i’w weld! Ydi creu cymuned o artistiaid a chreu cyfleoedd perfformio byw yr un mor greiddiol i syniadaeth y label â rhyddhau deunydd wedi’i recordio?

Yn bendant. Mae elfen eithaf hen ffasiwn i’r label gan fod Libertino’n trefnu gigs ac yn cefnogi’r artistiaid ar bob lefel er mwyn i’r bandiau lwyddo.

Beth sydd nesaf yn hanes label Libertino?

Mae llawer o albyms yn cael eu rhyddhau rhwng nawr a’r Nadolig – Alex Dingley, Adwaith, Accü, Los Blancos a Phalcons. Fe fydd Libertino yn dechrau clwb senglau i roi cyfle i artistiaid ifanc i ryddhau deunydd am y tro cyntaf. Edrych ymlaen i’r dyfodol gyda hyder.

Recordiau Libertino:

https://www.libertinorecords.com/

https://soundcloud.com/libertinorecords

Libertino ar Facebook

Libertino ar Twitter

Cynhaliwyd y cyfweliad hwn drwy gyfrwng e-bost ar ran y Stamp gan Iestyn Tyne

Previous
Previous

Ysgrif: Ymwan â melinau gwynt - Morgan Owen

Next
Next

Cerdyn Post Creadigol: O Letterkenny i Enlli - Beth Celyn