Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Dafydd Reeves

Maniffesto

’Dwi’n ceisio gweld y duwiau

Rhwng y coed ac ym mhob nant

Mae’n bosib credu mewn un Duw

Ac eto nabod cant.

’Dwi heb ’di newid llawer

Ers yr o’n i’n dair-ar-ddeg

Wedi llwyr wirioni’n lân

Ar chwedlau’r tylwyth teg

’Dwi’n credu mewn gwyddoniaeth

Sydd yn gadael lle am hud;

Fy mhen yn lled-agored

I ddirgelion cywrain byd.

Mae ’nhraed i ar y ddaear

Ond nid felly yw fy mhen

Sy’n ffrwydro llawn syniadau

Ac sy’n cyffwrdd ffiniau’r nen.

Rhwng natur ffaith a chwedl

Y mae’r hyn y sydd yn wir

A does gan ddim un enaid byw

Yr holl wirionedd pur.

Dyma yw fy nghrefydd

Gai mai’r galon yw fy llyw

Cariad a dychymyg

Ydy anian eithaf Duw.

Beth sy’n apelio am Instagram fel cyfrwng i gyhoeddi cerddi byrion a delweddau?

Y peth sy’n apelio fwyaf am Instagram yw’r gallu i gyhoeddi cerddi yn syth bin heb gyfryngwr yn y canol. Os fydd digwyddiad yn y newyddion gallaf ymateb yn syth gyda cherdd berthnasol a’i hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n ffordd o fireinio eich crefft a chadw eich gwaith yn gyfoes ac yn berthnasol. Hefyd mae cael ymateb uniongyrchol i fy ngwaith gyda phobl yn rhoi sylwadau yn hwb mawr i fy hyder. Mae’n gyfrwng sydd wedi fy ysgogi’n fawr iawn i ’sgwennu mwy.

Pwy sy’n eich ysbrydoli fel bardd? Oes yna rai sy’n eich ysbrydoli i gyhoeddi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn benodol?

Rydw i’n hoffi rhai o’r beirdd rhamantaidd fel Samuel Taylor Coleridge a William Blake. ’Dwi’n ceisio darllen Shakespeare ambell waith, ond mae’n waith caled ac mae’n rhaid i mi edrych ar y troednodiau yn gyson. Mae Dylan Thomas, a’r ffordd mae’n trin sŵn geiriau hefyd yn ysbrydoliaeth.

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn Hip Hop a ’dwi’n hoff iawn o rapwyr indie fel Eyedea, Brother Ali a Akua Naru o America a Kae Tempest, Lowkey ac Akala o Brydain. ’Dwi’n dueddol o hoffi barddoniaeth sydd â grym curiad ac odl a ryw fath.

Ar Instagram ’dwi’n hoff iawn o farddoniaeth @geiriaugwain yn Gymraeg a @ravingpoet yn Saesneg. Mae’r ffordd mae @ravingpoet yn defnyddio celf collage gyda’i barddoniaeth wir yn hynod.

A ydych yn teimlo bod cyfryngau fel Instagram yn gyfle i farddoniaeth gyrraedd cynulleidfa gwbl newydd a gwahanol? A fyddwn yn gweld mwy o feirdd yn troi at y cyfrwng yn y blynyddoedd nesaf?

Does dim dwywaith bod fy marddoniaeth wedi cyrraedd cynulleidfa ehangach drwy Instagram am y ffaith syml y byddai wedi aros yn fy llyfr nodiadau pe na bai wedi bodoli! Fel y dywedais, cryfder y cyfrwng yw’r gallu i gyhoeddi rhywbeth ar fympwy yn ogystal â chyrraedd cynulleidfa eang.

Gan fod y genhedlaeth ifanc wedi tyfu i fyny gyda thechnoleg, ’dwi’n rhagweld y bydd mwy a mwy o feirdd yn defnyddio Instagram i ddangos eu gwaith. Yn sicr mi fuaswn i’n awgrymu’r cyfrwng i rywun sydd wastad wedi bod eisiau bod yn fardd ond sy’n diodde o ddiffyg cymhelliad.

Sut gall natur sgwaryn Instagram ddylanwadu ar a chryfau eich proses greadigol?

Rydw i braidd yn wahanol i’r rhan fwyaf o feirdd Instagram yn yr ystyr ’mod i rhan fwyaf o’r amser rhoi fy marddoniaeth o dan ffotograff berthnasol yn hytrach na gosod y farddoniaeth mewn sgwâr. Gallaf ddweud mod i’n hoffi’r briodas rhwng y ddelwedd a’r geiriau, sydd yn wir i raddau, ond y gwir syml yw mod i heb ddysgu sut i roi geiriau mewn sgwaryn! Efallai y bydda i’n gwneud hyn yn y dyfodol, ac fe alla i ddweud wrthoch chi wedyn sut mae’n fy nylanwadu! Er hyn ’dwi wedi cymryd ambell i ffotograff o ’sgwennu ’dwi wedi ei wneud â llaw gyda lluniau i fynd gyda fe ac mae hyn yn rhywbeth y gwna i ystyried gwneud mwy ohono yn dyfodol, gan ei bod hi’n grefft i ffitio popeth mewn sgwâr.

Dywedwch rhyw air neu ddwy am y gerdd yr ydych wedi ei chyfrannu i’r Ŵyl.

Mae’r gerdd ’dwi wedi ’sgwennu ar gyfer yr ŵyl, ‘Maniffesto’, yn rhigwm bach sydd yn disgrifio peth o fy athroniaeth tuag at y byd. Rhywbeth ’dwi heb ei archwilio llawer yn fy ngherddi eto yw cysoni Cristnogaeth a Phaganiaeth, a dyma yw ystyr y llinell ‘mae’n bosib credu mewn un Duw / ac eto nabod cant’. Er ei fod e i weld yn rhyw fath o baradocs, yn fy marn i dydy’r duwiau paganaidd ddim yn llai real am fod yn oddrychol, lle mae’r Duw ‘cariad a dychymyg’ ar ddiwedd y gerdd yn drosgynnol (hynny yw, y tu hwnt i’r gwrthrych a goddrych).

Mae’r syniad yma o’r trosgynnol rhwng gwrthrych a goddrych i’w weld yn y llinell ‘rhwng natur ffaith a chwedl / y mae’r hyn y sydd yn wir’. Mae ffeithiau yn wrthrychol, chwedlau yn oddrychol a’r gwir yn drosgynnol. Mae fy syniadaeth wedi ei ddylanwadu’n gryf gan Ddaoiaeth (Daoism).

Mae dylanwad William Blake yn gryf yn y gerdd hon. Roedd Blake yn gryf yn ei gred mai’r dychymyg oedd Duw. Hefyd mae’r mesur rhigwm syml wedi’i ddylanwadu gan Blake yn ei gerddi Songs of Innocence and Experience.

Dilynwch Ŵyl Insta-gerddi'r Stamp yma ar y wefan ac ar ein cyfrif instagram: https://www.instagram.com/cylchgrawn_y_stamp/

Previous
Previous

Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Lowri Ifor

Next
Next

Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - John G. Rowlands