Cerddi: Dyfrgwn, Llysywen - Morwen Brosschot
'Dro'n ôl tua deg y nos mi es ar fy sgowt feunosol o gwmpas yr ardd efo torts ar fy mhen ac i lawr at yr afon /nant. Noson sych, dawel a dim egryn o awel. Rôn i'n edrych i mewn i'r pwll bychan sy ar lan yr afon pan glywish i sŵn cnoi tu ôl i mi. Dyma droi yn ara deg a gweld yng ngola'r lamp tua 10 troedfedd i ffwrdd ddyfrgi yn brysur yn bwyta sliwan ac yn cymryd dim sylw ohona i o gwbwl. Dwi ddim yn meddwl ei fod yn ymwybodol ohona i o gwbwl. Mi drois fy mhen yn ara deg i sbio lawr yr afon a gweld dau bâr o lygaid yn dod i fyny'r afon tuag ata'i! Dau ddyfrgi arall! Rôn i wedi fy syfrdannu! Ar ôl ryw ffrwgwd fach pan oedd y cynta'n amddiffyn ei fwyd mi gariodd pawb yn ei blaena i snwyro a hela cyn troi yn eu holau a mynd yn hamddenol i lawr yr afon a dan y ffens i'r cae nesa. Wel am fraint! profiad reit arallfydol â deud y gwir ac un a gofia i am byth.'
Dyfrgwn
Heno,
yng ngwaelod yr ardd
a hithau’n dywyll,
a dim i’w glywed
ond gofer y dŵr dros y gro
ymlwybrais yn ddiarwybod
i’w dimensiwn hwy,
lle gwahanwyd y llen
am eiliad;
lle meddalodd fy modolaeth;
lle roeddwn yn llai dynol.
Yno ar lan y dŵr
safwn yn syfrdan
yn dyst disylwedd
ar drothwy
yn annioddefol o agos
i fyd
lle’r oeddwn
yn golygu dim,
lle’r oeddwn
ddim yn bod.
Dim ond golau’r lamp
yn llwybr llathraidd
na allwn ei droedio,
a’r olygfa brin o’m blaen
yn fy syfrdanu.
Ar eu boliau’n y basddwr
a’r sliwen yn goflaid
loyw,
ei harian
yn goleuo’r dannedd main
a’r bawen weog.
Chwe phâr o lygaid
yn pefrio
fel yr afon
yn fwclis ar hirflew’r cefn.
A chydsymud pwrpasol
y triawd
yn cyd-ddolenu’n rhwydd
o’m blaen.
Heddiw’r bore
ar lan y dŵr
mae eu habsenoldeb
yn llenwi’r lle.
Llysywen
Mor dawel
yw’r dyfrgwn
pan ddônt
yn ffroenau i gyd,
a phan gaea
eu dannedd perffaith
yn glep
does dim i’w glywed
ond dŵr oer
y nant
yn llifo dros y gro
drwy’r cae
i Afon Soch
a’r bae.
Ac yn y bore bach
mae ôl y pumbys
gweog
a gemau gloyw
sliwen
yn llonydd yn y llaid.
a does dim i’w glywed
ond dŵr oer
y nant
yn llifo dros y gro
drwy’r cae
i Afon Soch
a’r bae.