Holi: Off y grid

Nos Fercher, byddwn yn cynnal lansiad ein nawfed rhifyn print yng nghwmni Off y Grid. Ond pwy neu beth ydi Off y Grid yn union? Dyma'r Stamp yn gofyn pump o gwestiynau sydyn i chi gael gwybod mwy ...

Beth yw gweledigaeth Off y Grid?

Yn syml iawn: mwy o ffilmiau i fwy o bobl mewn mwy o lefydd. 

Beth yw rhai o lwyddiannau'r prosiect hyd yma?

- Dangosiadau cymunedol ar gyfer y teulu am bris fforddadwy. 

- Bod yn rhan o wyliau ffilmiau byd eang e.e. Watch Africa, gŵyl ffilmiau Iddewig. 

- Dangosiadau dementia-gyfeillgar

- Cydweithio ar brosiect cynhyrchu ffilmiau byrion mewn partneriaeth â Wicked Wales, Gŵyl Ffilmiau Ieuenctid Rhyngwladol a CellB. 

Yn lle all pobl fynychu digwyddiadau Off y Grid?

CellB, Neuadd Dwyfor, Neuadd Ogwen, Pontio, Tape, Galeri a Theatr y Ddraig Bermo. Rydan ni’n cyd-weithio‘n achlysurol gyda neuaddau cymunedol mewn partneriaeth â Sinimôn. Byddwn yn cynnal digwyddiad/ffilm ym Mhortmeirion toc. 

Oes yna le i ni fod yn gwneud mwy i hyrwyddo gwneuthurwyr ffilmiau annibynnol yma yng Nghymru?

Yn sicr mae angen creu mwy o ymwybyddiaeth o’r ffilmiau amgen sydd ar gael. Mae cael plant a phobol ifanc i sinemau lleol yn her gan bod dylanwad y multiplexes mor gryf. Rhan o’n prosiect ydi trio creu diddordeb mewn ffilmiau annibynnol a byd eang er gwaetha’r her!  Does dim traddodiad o gelfyddyd ffilm yng Nghymru. ‘Da ni’n genedl o sgwennwyr a beirdd a ma’r traddodiad arlunio’n gryfach na’r traddodiad ffilm. Mae astudio ffilm yn rhan o addysg plant a phobol ifanc ar y cyfandir. Bechod na fydda’r un peth yn wir yma. 

Beth yw gobeithion Off y Grid at y dyfodol?

- Cynyddu’n cynulleidfaoedd.

- Parhau i gynnig rhaglen amrywiol o ffilmiau annibynnol a byd eang. 

- Denu pobol ifanc i wylio ffilmiau yn ein sinemau lleol.

- Ymestyn ein partneriaethau. 

- Annog pobol ifanc i ymddiddori mewn ffilmiau a‘u hysbrydoli i sgwennu a chynhyrchu.

- Creu gŵyl ffilmiau rhyngwladol yma’n y Gogledd  

Cynhelir noson lansio nawfed rhifyn Y Stamp gyda dangosiadau o ffilmiau byrion gan Off y Grid yn Neuadd Ogwen, Bethesda ar nos Fercher 4 Rhagfyr am 19:00.

Previous
Previous

Wrth dy grefft: Trawsieithu fel rhan o’r broses greadigol - Sara Louise Wheeler

Next
Next

Cerdyn Post Creadigol: La Machine - Heather Williams