FFENESTR GYFLWYNO NESAF: 1 - 30 TACHWEDD 2023

〰️

FFENESTR GYFLWYNO NESAF: 1 - 30 TACHWEDD 2023 〰️

>> CWESTIYNAU CYFFREDIN

Pwy fydd yn darllen fy ngwaith?

A: Cyfuniad o unrhyw ddau o olygyddion Cyhoeddiadau’r Stamp: Grug, Iestyn, Llŷr ac Esyllt.

Mae gan Grug ddiddordeb arbennig mewn ysgrifau a barddoniaeth. Mae hi’n hoff o waith ysgrifwyr fel Nina Mingya Powles, Rebecca Solnitt, Doireann Ní Ghríofa, T.H. Parry-Williams ac Ellena Savage, ac efo diddordeb mewn ysgrifennu natur, llen taith, ac ysgrifennu bywgraffiadol. Mae hi’n hoffi barddoniaeth Franny Choi, Euros Bowen, Natalie Diaz, Ruth Bidgood, Sharon Oldes, Hera Lindsay Bird, Rebecca Tamás a Terrance Hayes. Mae hi’n chwilio am gerddi bylchog, sy’n llawn troadau, ac un o’i hoff gerddi yw Dorothy Wordsworth gan Jenny Chang.  

Mae prif arbenigedd Iestyn ym maes barddoniaeth, ond mae ganddo ddiddordeb mawr hefyd mewn gwaith ffeithiol-greadigol a straeon byrion. Mae’n mwynhau barddoniaeth sy’n chwareus neu’n arbrofol o ran ffurf - boed hynny’n greu ffurfiau newydd neu lastigeiddio’r rhai cyfarwydd - sy’n talu sylw i’w ffiniau eu hunain ac yn gwrthod ildio popeth yn hawdd. Mewn casgliadau, mae’n chwilio bob amser am yr edefyn cysyniadol sy’n clymu’r cyfanwaith at ei gilydd i wneud mwy na chrynhoi cerddi cyfnod rhwng dau glawr. Rhai o’r beirdd sy’n mynd a’i fryd yn ddiweddar yw Ada Limón, Terrance Hayes, Wanda Coleman, Ilya Kaminsky, Akwaeke Emezi a Prosser Rhys. Un o’i hoff gerddi yw Requiem for a Nest gan Wanda Coleman. 

Mae gan Llŷr ddiddordeb mewn gweithiau genre ac yn benodol felly ffuglen wyddonol, ffantasi, weird fiction ac arswyd — mewn difri unrhyw beth sy’n mentro y tu draw i ffiniau realaeth. Rhyddiaith a gwaith theatr ydi ei arbenigedd pennaf o ond mae o hefyd gyda diddordeb mewn ysgrifennu ffeithiol-greadigol. Mae rhai themâu penodol yn mynd a’i fryd o hefyd; cysyniad o le, hunaniaeth, perthynas pobl hefo tir a thirwedd a thraddodiad. Byddai ganddo ddiddordeb penodol mewn gwaith sydd gyda rhywbeth yn wahanol i’r arfer yn rhan ohono a gwaith sy’n trafod straeon o’r gymuned LHDTC+.

Ma Esyllt yn hoffi darnau sgwennu a chyhoeddiadau sy’n blaenoriaethu’r gweledol neu’r synhwyrus mewn rhyw ffordd. Byddai’n hoffi gweld mwy o zines o arlunio, collage, ffotograffau a stribedi comig yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg, ac i weld arbrofi rhwng testun a llun. Mae’n hoffi creadigaethau sy’n cyfieithu neu’n chwarae rhwng disgyblaethau, yn plygu a chwarae gyda geiriau, siapiau, ystyr. Beth am ddychmygu cyhoeddiad print fel ffilm fer? Darlun fel cerdd syml? Mae’n hoffi darllen a phrofi celf am y synhwyrau, am fwyd, teimlo, nofio, lliw. Mae’n mwynhau gwaith am gyfieithu ac mewn cyfieithiad, am brofiadau bob dydd abswrd, am deithio ar yr ymylon a phethau nad oes modd ei diffinio’n dwt. Efallai mai’r ysgrif yw ei hoff gyfrwng sgwennu - rhai Lydia Davis, Kate Briggs, John Gwilym Jones a John Berger; nefoedd yw cyfuno hynny gyda’r gweledol!

Fyddwch chi’n cynnig adborth ar fy ngwaith?

A: Yn anffodus, does dim posib i ni gynnig adborth manwl ar bopeth sy’n dod i law ar hyn o bryd. Mae eich gwaith yn haeddu ymateb treiddgar ac ystyrlon ac fel criw bychan gwirfoddol, ni fyddai modd i ni wneud cyfiawnder â hynny. Fodd bynnag, mae pob math o ffyrdd o dderbyn adborth ar eich gwaith - o ddarllen mewn digwyddiadau byw i fynychu gweithdai ysgrifennu; o gystadlu dan ffugenw mewn eisteddfod i rannu gydag aelod o deulu neu ffrind. Mae beirniadaeth adeiladol yn rhan bwysig o ddatblygu eich crefft fel sgwennwr, wrth i chi edrych tuag at eich nod o gael eich derbyn gan gyhoeddwr.

Ydych chi’n cyhoeddi cyfieithiadau? 

A: Ydan! Mae gennym ni ddiddordeb mewn gwaith sydd wedi’i gyfieithu o ieithoedd y tu hwnt i’r Saesneg, yn bennaf. 

Oes angen bod yn ‘woke’ i gyhoeddi efo’r Cyhoeddiadau’r Stamp?

A: Does dim angen i chi uniaethu efo’r label ‘woke’, ond dyma ddatgan fod y Stamp yn cyd-sefyll efo pobl draws ac yn gwrthwynebu hiliaeth; os ydi darllen y frawddeg honno yn codi blew eich gwar chi, falle nad dyma’r cartref ar gyfer eich gwaith. 

Beth allai’r rhesymau fod dros wrthod fy nghynnig?

A: Mae’r ymateb i bob galwad agored yn amrywio yn rhyfeddol; does dim posib rhoi rhestr hollgynhwysol yma, ond dyma ymdrech i nodi rhai rhesymau posib dros wrthod eich cynnig y tro hwn:

  • Rydym wedi derbyn llawer o gynigion tebyg eraill o fewn yr un ffenestr gyflwyno

  • Gan mai gwasg fechan, wirfoddol, ydym ni, mae’n anorfod y bydd yn rhaid i ni wrthod gwaith da, difyr a chyffrous ar adegau; nid dweud fod eich gwaith yn sâl ydan ni wrth ei droi i lawr

  • Mae eich gwaith yn cynnwys llawer o botensial, ond ei fod ar hyn o bryd yn rhy bell o fod yn barod i’w gyhoeddi i’r adnoddau sydd gennym ni i’w cynnig fod o gymorth

  • Mae eich prosiect yn rhy faith - darllenwch y canllawiau cyflwyno yn ofalus cyn gyrru gwaith atom sy’n cydfynd â’r terfynau hyd

  • Efallai nad ydym yn teimlo ein bod ni’n meddu ar yr arbenigedd sydd ei angen i wneud cyfiawnder â’ch prosiect penodol chi

  • Nid yw’n glir pam eich bod wedi dewis Cyhoeddiadau’r Stamp fel llwyfan posib i’ch gwaith, ac efallai nad yw’n cyd-fynd ag ethos/estheteg y wasg. Ymgyfarwyddwch gyda ni a’n gwaith cyn cyflwyno!

  • Dydi’r gwaith jest ddim at ein chwaeth ni. Fedrwn ni ddim rhoi chwarae teg i waith sydd ddim yn ein cyffroi ni yn bersonol; eto, dydi hynny ddim yn adlewyrchiad ar ei safon

A beth na fydd yn rheswm dros wrthod gwaith?

  • Wnawn ni byth wrthod gwaith oherwydd y sillafu neu ramadeg. Ein gwaith ni fel golygyddion yw gofalu am y pethau hynny, 

  • Dydan ni ddim yn wasg arbennig o fasnachol; nid chwilio am bestsellers ydan ni, felly fyddwn ni byth yn gwrthod gwaith ar sail rhagolygon gwerthiant. Nid porthi’r prif lif yw ein diben ni fel gwasg.

  • Does dim byd yn rhy ‘wahanol’, yn rhy abswrd neu anghonfensiynol - gorau po fwyaf o hynny a gawn, mewn gwirionedd!

Sut fydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn hyrwyddo fy ngwaith?

A: Un peth i’w glirio cyn cychwyn yw na fydd llyfrau Cyhoeddiadau’r Stamp yn ymddangos ar wefan Gwales, ac na fydd ein cyfrolau yn cael eu gwerthu trwy Gyngor Llyfrau Cymru. Un o’n hegwyddorion sylfaenol ers y dechrau’n deg yw bodoli’n annibynnol heb nawdd cyhoeddus a heb gymorth y Cyngor Llyfrau.

Ond tydi hynny ddim yn golygu na fydd eich cyfrol yn cael pob chwarae teg, ac y byddwn ni’n gwneud pob ymdrech sy’n bosib i wthio eich gwaith. Mae gennym berthynas uniongyrchol, bersonol, dda, gyda nifer o lyfrwerthwyr ledled Cymru, ac rydym yn ychwanegu at y rhestr honno o hyd. Mae gennym system ragarchebu ar ein gwefan ein hunain, sy’n creu momentwm o amgylch darn o waith cyn iddo ddod o’r wasg, ac rydym yn weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol wrth rannu gwaith a llwyddiannau ein hawduron.

Byddwn bob amser yn chwilio am gyfleoedd i’n hawduron rannu eu gwaith mewn darlleniadau, gwyliau ac ar y cyfryngau; mae gennym berthynas dda gyda chyfnodolion Cymraeg a threfnydd prosiect Bardd y Mis Radio Cymru. Ar ben hynny, rydym yn ymdrechu i drefnu o leiaf un digwyddiad lansio i bob cyfrol, ac yn rhyddhau sgyrsiau gydag awduron a golygyddion trwy ein podlediad, Seiniau Stampus.

Mae’n werth nodi hefyd fod gan Gyhoeddiadau’r Stamp record dda wrth ennill gwobrau o bwys; ers cychwyn cyhoeddi llyfrau yn 2019, mae tair o gyfrolau’r wasg wedi cyrraedd rhestrau byrion Llyfr y Flwyddyn, a dau o’r rheiny wedi mynd yn eu blaenau i fod yn enillwyr categori. Daeth ein pamffledi i’r brig ddwywaith yng Ngwobrau Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd.

Yn fwy na dim, rydym wastad yn barod i wrando ar syniadau personol yr awdur am yr hyn yr hoffen nhw ei weld yn yr ymgyrch farchnata ar gyfer eu cyfrol, ac rydym am wneud ein gorau i wireddu eu dymuniadau gyda hynny o adnoddau sydd gennym.

Sut fydda i’n cael fy nhalu?

A: Byddwch yn derbyn 50% o werthiant eich cyfrol ar ôl tynnu’r gost o gynhyrchu ac unrhyw gomisiwn llyfrwerthwr. Felly, ar gyfer llyfr y bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn derbyn £6.00 amdano, ond sy’n costio £2.50 yr uned i’w argraffu, bydd yr awdur yn derbyn (6-2.5)/2 = £1.75 y copi. Rydym yn dilyn model gwahanol i’r mwyafrif o weisg, sy’n medru cynnig ffi ymlaen llaw am y gwaith, ond 10-15% yn unig ar werthiant. Yn hytrach na chynnig ffi, felly, mi allwn ni gynnig cyfran sylweddol uwch o’r gwerthiant. Dyma sy’n caniatau i Gyhoeddiadau’r Stamp roi’r awdur wrth galon y broses gyhoeddi, a rhoi llwyfan i waith gwahanol, newydd a ‘risgi’, mewn termau masnachol. Ac wrth fod yn rhydd o delerau ac amodau arianwyr cyhoeddus, does dim yn cyfyngu ar yr hyn y gallwn ei gyhoeddi. Rydym hefyd yn hoff o feddwl fod dod yn rhan o gymuned a chydweithredfa Cyhoeddiadau’r Stamp yn cynnig nawdd o fath gwahanol hefyd, ar ffurf cyfleoedd, cysylltiadau, a’r ewyllys da sydd ymhlyg yn llafur gwirfoddol ein tîm bychan ond gweithgar o olygyddion.


Dal heb gael ateb i’ch cwestiwn? Cysylltwch!