Cyhoeddiad: Ystlum - Elen Ifan
Ym mis Tachwedd eleni bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn rhyddhau Ystlum, pamffled o farddoniaeth gan Elen Ifan, sydd eisoes wedi cyhoeddi rhai o gerddi’r casgliad fel instagerddi trwy @ystlum.
Dyma ddilyniant o gerddi cyfarwydd a newydd felly, sy’n dilyn cylch blwyddyn – gan ddechrau o dorcalon yr Hydref drwy fisoedd bach y gaeaf, at dyfiant y Gwanwyn a hyder haf. Mae’n gasgliad tyner a thlws sy’n ymrafael â manylion y profiad o fod yn fenyw ifanc – rhwng cymhlethdod perthnasau, colled, cyfeillgarwch, tinder, cof capel, teithio’r byd a darganfod llonyddwch yng nghylchdro’r tymhorau.
Mae Elen wedi bod yn cyhoeddi ei barddoniaeth ar y we ers 2019. Mae ei gwaith hefyd wedi ymddangos yng nghylchgrawn Codi Pais ac fel rhan o brosiect cydweithredol Gŵyl y Ferch, yn ogystal ag yn y gyfrol Dweud y Drefn pan nad oes Trefn: Blodeugerdd 2020 (Cyhoeddiadau’r Stamp). Mae hi’n byw yng Nghaerdydd, yn darlithio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn dal i weithio ar ei gardd.
Caiff y casgliad ei argraffu mewn dau amrywiad ar ei ddiwyg, gyda dewis rhwng cloriau o liwiau gwanwynol neu hydrefol. Bydd pob cyfrol hefyd yn dod gyda dau brint maint cerdyn post o waith celf gan Shannon Haswell a Hannah Campbell, sy’n gefnlen i rai o’r cerddi.
Dethlir lansio’r pamffled gyda dau ddigwyddiad yn ystod mis Tachwedd; cynhelir y cyntaf yng nghaffi Waterloo Tea ar Whitchurch Road, Caerdydd, ar nos Fercher 2 Tachwedd (gyda chefnogaeth siop lyfrau Cant a Mil), a’r ail yn siop lyfrau Palas Print, Stryd y Plas, Caernarfon, ar nos Wener 18 Tachwedd. Gwyliwch wefan a chyfrifon Cyhoeddiadau’r Stamp ar y cyfryngau cymdeithasol am ragor o fanylion ar gyfer y digwyddiadau hyn.
Gallwch ragarchebu Ystlum heddiw trwy glicio yma.
Ystlum
Elen Ifan / Cyhoeddiadau’r Stamp 2022
argraffiad dau glawr, gyda gwaith celf gan Shannon Haswell a Hannah Campbell
ISBN 978-1-8381989-5-4 / 36t. / £7.00
Tudalen enghreifftiol: