Galwad Agored: Loc-in Felindre

Mae’r alwad agored hon bellach wedi cau*

Annwyl gyfeillion,

Dyma alw ar ymarferwyr creadigol o bob maes a mympwy: artistiaid gweledol, cerddorion, llenorion, dramodwyr ac yn y blaen.

Mae’r Stamp yn chwilio am 5-10 o ymarferwyr o bob math o ddisgyblaethau i gyd-weithio ar greu gwaith gwreiddiol, i’w arddangos mewn safle penodol, ac i gwblhau y cwbwl o fewn 24 awr.

Bydd y Stamp yn meddiannu neuadd Gymunedol Felindre ar gyrion Abertawe rhwng y 23ain a’r 24ain o fis Awst eleni. Byddwn yn cloi ein hartistiaid i fewn, ac yn agor y drysau 24 awr yn ddiweddarach i’r cyhoedd. Byddwn yn gwahodd y gymuned (leol, a chymuned y Stamp yn ehangach) i weld y gwaith, ac i ddathlu lansio wythfed rhifyn cylchgrawn y Stamp.

Bydd y Stamp yn darparu’r gofod; bwyd, coffi, te, matiau campio, a chwmnïaeth. Bydd y cyfranwyr yn cyflenwi eu syniadau, offer, a sachau cysgu.

Gobeithiwn roi egwyddorion y Stamp, o ddathlu celfyddyd, a’i wneud yn hygyrch, ar waith. Mae mynd a llenyddiaeth ar dramp o amgylch y wlad yn hawdd. Mae o’n ffitio’n hawdd i boced cot ac i set gefn bws. Mae celf weledol, a’i ddimensiynau materol, yn fwy o her. Dyma felly ein harbrawf ni i geisio dod a phrofiad byw o gelf i gymunedau dros Gymru, i ddod ag artistiaid allan o’u stiwdios unig, drafftiog, at ei gilydd ac i berfedd gwlad.

Dyma gyfle i fod yn ran o arbrawf mawreddog, na welwyd ei fath o’r blaen (hyd y gwyddwn ni wrth gwrs. Ifanc ydan ni cofiwch).

Os oes ganddo chi ddiddordeb cymryd rhan, yr oll sydd ei angen ganddo chi ydi ymrwymiad i dreulio penwythnos y 23-24 o Awst yn Felindre, Abertawe. Gan gyd-weithio efo artistiaid eraill a’r gymuned leol, y bwriad yw rhoi arddangosfa gelfyddydol aml-ddisgyblaethol at ei gilydd o fewn 24 awr. Gall pawb aros fyny drwy’r nos; gall pobol weithio shifftiau – mae hi i fyny i’r artisitiad. Bydd Y Stamp yn darparu lluniaeth, ond ni fyddwn yn medru cyfrannu at gostau, yn anffodus. Bydd unrhyw waith a gynhyrchir yn eiddo i’r artist neu’r artistiaid. Ar ddiwedd y 24 awr bwriedir cynnal digwyddiad cyhoeddus fel rhan o lansiad y Stamp, lle bydd y gwaith yn cael ei arddangos i’r cyhoedd.

Os yda chi dal yn meddwl fod hyn yn syniad da, cysylltwch â'r Stamp i fynegi diddordeb erbyn Mehefin yr 30ain.

A cofiwch gysylltu os yda chi eisiau gwybod mwy.

Gan edrych ymlaen i gydweithio efo chi,

Hwyl am y tro,

Y Stamp.

Previous
Previous

Cyhoeddiad: moroedd/dŵr - Morgan Owen

Next
Next

Newyddion: Blwyddyn Newydd, Golygydd Newydd!