Buddug Watcyn Roberts
Mae Buddug Watcyn Roberts yn fyfyrwraig 22 mlwydd oed sy’n dilyn cwrs PhD rhan amser mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Fel sgwennwraig ac artist llawrydd mae’n gweithio gyda chanolfan gelfyddydau Pontio ar amryw o brosiectau ac yn diwtor dan hyfforddiant, ac mae hi hefyd yn gweithio gyda chwmni theatr Frân Wen a Theatr Genedlaethol Cymru. Mae hefyd bellach yn gweithio fel ymchwilydd i blatfform cerddorol S4C, Lŵp.