Gwenno Gwilym
Mae Gwenno Gwilym yn byw yn Nyffryn Ogwen ac yn mwynhau barddoni yn y Gymraeg a’r Saesneg (ac yn aml mewn cymysgedd o’r ddau). Cwblhaodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Yn ogystal â sgwennu, mae Gwenno yn mwynhau crwydro, mwydro a breuddwydio.