Iwan Tomos Kellett
O Sir Fôn y daw Iwan Tomos Kellett yn wreiddiol, ond mae wedi bod yng Nghaerdydd ers ychydig dros dair blynedd. Yn dilyn graddio mewn Cemeg mae bellach yn astudio gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth Archeoleg. Mae ganddo lu o ddiddordebau gan gynnwys canu'r piano, ymchwilio i hanes ardal Marian-glas, crwydro a theithio ac wrth gwrs ysgrifennu.