Daw Katie Gramich o Geredigion. Mae hi'n Athro Emerita mewn Llenyddiaeth Saesneg. Gwaith creadigol yn hytrach na gwaith academaidd sydd yn hawlio ei sylw a’i hamser erbyn heddiw. Mae hi'n perthyn i deulu amlieithog ac yn hoff o ddysgu ieithoedd a cheisio cyfieithu barddoniaeth.