Llinos Anwyl
Addysgwr ac ymgyrchydd yw Llinos Anwyl (nhw/eu) sy’n creu celf a llenyddiaeth â chymhelliant gwleidyddol. Maen nhw’n pwysleisio pwysigrwydd rhyngddisgyblaethrwydd wrth lwyfannu pynciau sy’n aml yn cael eu portreadu fel rhai ‘academaidd’ trwy ddulliau llai traddodiadol. Rhwng ceisio cydbwyso eu bywyd rhwng cyfarfodydd, cymdeithasu a chreu, mae Llinos yn ymdrechu i ddad-ddysgu agweddau sydd wedi’u dylanwadu gan gyfalafiaeth. Yn eu bywyd personol, caiff hyn ei amlygu wrth herio eu perthynas gyda rhywedd a rhyw gan hefyd adnabod eu breintiau. Ar sail ehangach mae cyfiawnder cymunedol yn ganolbwynt hollbwysig iddynt.