Mae Sian Northey yn fardd, awdur, cyfieithydd a golygydd llawrydd, ond mae hefyd newydd ddechrau gweithio dau ddiwrnod yr wythnos fel mentor iaith gyda GwyrddNi. Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg (gan Sue Walton) o’i nofel Yn y Tŷ Hwn gan wasg 3TimesRebel, dan y teitl This House.