Siw Harston
Un o Landeilo yw Siw Harston yn wreiddiol, ond mae’n byw i’r gorllewin o Lundain ers dechrau’r wythdegau. Mae ganddi bedwar o blant sydd wedi mynychu Ysgol Gymraeg Llundain a chapel Seion, Ealing Green, lle mae’n ysgrifennydd ar y cyd. Mae ei diddordebau yn cynnwys cadw’n heini wrth redeg, chwarae badminton, tenis a cherdded y ci, yn ogystal â gwaith gwirfoddol i elusen strôc. Mae hefyd yn aelod o glybiau darllen, yn aelod o gôr lleol ac yn canu’n unigol. Dysgodd gynganeddu ar-lein gydag Ysgol Farddol Caerfyrddin yn ystod y cyfnod clo, a dyma un o’r pethau gorau iddi ei wneud erioed!