Cerddi: Cerddi Amsterdam - Beth Celyn

Fis Chwefror mi es i am dridiau hefo fy chwaer i Amsterdam. Chwa o awyr iach ydi’r brifddinas yma, a dw i ddim yn golygu hynny mewn ffordd eironig. Mae camlesi yn rhaeadru trwy’r ddinas, mae beiciau ym mhob cwr a chornel ac mae tramiau yn mynd a dod yn hamddenol. A fy hoff beth am Amsterdam? Y tai teras amryliw a cham.

Mae fy chwaer yn fyfyrwraig celf gain felly mi roedd Amgueddfa Van Gogh ar dop ein hagenda. Wrth grwydro’r amgueddfa mi ddes i ar draws peintiadau o ferched yn eistedd ar eu pen eu hunain yng nghaffis Paris yr 19eg ganrif. Gweithred digon cyffredin, ‘de? Dynes yn eistedd mewn caffi. Ond yn yr 19eg ganrif doedd o ddim yn cael ei ystyried yn foesol na’n barchus i ddynes bod ar ei phen ei hun mewn caffi.

Dw i ‘di colli cyfri ar sawl tro dwi ‘di bod i gaffi neu dŷ tafarn yn ddigwmni. Eistedd hefo coffi neu beint â llyfr neu feiro yn fy llaw. Dw i’n digwydd bod yn eistedd mewn caffi ar fy mhen fy hun yn ‘sgwennu hwn. Yn tydi o’n hawdd anghofio bod merched ond wedi ennill yr hawl i fodoli fel bodau dynol cydradd o fewn y can mlynedd diwethaf, er nid ym mhob man yn y byd chwaith. Puteiniaid neu’r ‘teip artistig’ a fuasai’n mynychu caffis ar eu pen eu hunain yn yr 19eg ganrif, a throdd cewri celfyddydol y cyfnod, fel Van Gogh a Toulouse-Lautrec, fodolaeth y merched yma i mewn i destun ffasiynol. Roedd y merched yma yn hyderus, annibynnol, yn yfed cwrw a’n ysmygu ac yn ymwneud â chylchoedd deallus a chreadigol, er nad oedd ganddyn nhw’r un hawliau na chyfleoedd â’r dynion.

Ond erbyn meddwl, tu hwnt i hawliau a gweithredoedd merched, sawl ffrind yn y gorffennol, yn ddynion ac yn ferched, sydd wedi datgelu i mi na fuasen nhw’n mynd i eistedd mewn caffi ar eu pen eu hunain, neu fynd i’r sinema ar eu pen eu hunain, neu wneud bron unrhyw beth ar eu pen eu hunain?

Roedd syllu ar beintiadau’r merched yng nghaffis Paris yn sbarduno llawer mwy i mi na chwestiynau am hawliau merched, ond cwestiynau am bobl yn gyffredinol hefyd. Cofiais graffiti a welais ddiwrnod ynghynt ar gornel stryd yn Amsterdam – geiriau wnes i ddal mewn darlun a rhannu ar Instagram oherwydd ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n edrych yn cŵl. ‘Love Me’. A dechreuais ystyried sawl un ohonom ni sy’n euog o ddibynnu ar gadarnhad eraill i fodoli fel unigolion.

Tu hwnt i’r tai teras amryliw a cham, dyma gafodd yr argraff fwyaf arna i yn Amsterdam. Vignettes syml yw’r cerddi dw i wedi creu, a gobeithio, gydag atgyfnerthiad y lluniau, y bydden nhw’n pigo eich cydwybod.

Yn y Caffi

Dynes unig
yn eistedd wrth fwrdd
mewn caffi.

Gwydriad o gwrw.
Sigaret wedi tanio.

Dynes sy’n dod yn fyw
gyda’r nos.

Nid dynes iawn.

Fasa dynes iawn
ddim yn eistedd
ar ei phen ei hun
mewn caffi.

Y Jar Fach Goch

Arferai fod yn ffasiynol
i geisio bod
yn dryloyw.

I edrych yn welw,
fel blodyn
yn pylu.

I foesymgrymu.

Brecwast ar ôl Bath

Merched noeth yn plygu’n
lletchwith.

Llinellau wedi eu tynnu’n sydyn.

Nid merched prydferth –
merched go iawn.

Cig a chnawd.

Dyna ddywedai’r meistri
â hawliai eu hamlinell.

Cara Fi

Y llythrennau gwyn
yn amlygu
ein hangen.

A ydi ein ffydd
Yn ein hadain
neu’r gangen?

Gall cangen dorri,
ond –
gwreiddia cariad
ynom ni.

Previous
Previous

Ysgrif: Dinasoedd yr Hunan - Morgan Owen

Next
Next

Cerdd: Druidstone - Elen Ifan