Cerdd: Druidstone - Elen Ifan
"Sgwennais i'r pwt ma tra mod i yn ymweld â Sir Benfro. Roedd fy viva PhD y dydd Mawrth canlynol ac roeddwn i'n dechrau swydd newydd ar y dydd Mercher, felly roedd na rhyw deimlad rhyfedd o limbo gen i dros y penwythnos, yn gwybod fod yr holl newidiadau ar y ffordd!"
Druidstone
Heidio eto i ben Sir Benfro,
I'n cartref Calan Mai,
I grwydro a gwledda hyd Fae Santes Ffraid.
Er gwaetha'r glaw roedd gwres yr eithin gwyllt
Yn goleuo'r llwybrau,
A fflachiadau llachar huganod yn plymio am eu cinio
Yn torri ar lwydni'r lli.
Eleni, mae newid ar droed,
A byddaf innau, fory,
Fel hugan -
Yn cymryd anadl ddofn
Cyn plymio i ddyfroedd newydd,
A thon arall yn torri dros fy mhen.
Elen Ifan