Adolygiad: Derwen

Dyma'r gyntaf mewn cyfres o adolygiadau ac ymatebion i gynnyrch a gweithgarwch Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, 2019.

Mae hi’n 8.00 y.h Nos Fawrth y 6ed o Awst, dwi’n aros i wylio yr ail berfformiad o ‘Derwen’ yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy. Darn unigryw o theatr gan Tim Crouch sydd wedi ei addasu i'r Gymraeg gan Mared Llywelyn Williams. Andy Whyment sydd yn cyfarwyddo hanes hypnotydd sydd yn cael trafferth perfformio wedi iddo ladd merch gyda char ac yna'n dod wyneb yn wyneb gyda ei thad sydd dal yn galaru. Aeth y ddrama ar daith o amgylch Cymru yn 2018 felly mae ei henw yn gyfarwydd erbyn hyn.

Gyda hanner y cast yn unig wedi darllen y sgript o flaen llaw a’r hanner arall yn ei weld am y tro cyntaf wrth gamu ar y llwyfan dwi methu dyfalu sut mae’r ddrama yma am ddatblygu. Mae Steffan Donnelly sydd yn chwarae rhan y hypnotydd yn cydio eich sylw o’r eiliad cyntaf ac yn ei gadw yn bell wedi diwedd y perfformiad. Gyda set finimalaidd o chydig o gadeiriau mae’n llwyddo i greu Byd iddo ei hun ac i’r gynulleidfa drwy ei berfformiad swynol.

Gan fod cyd actor Steffan yn newid bob nos mae hi’n amhosib dweud eich bod chi ddim yn cael profiad unigryw. Heledd Gwynn oedd yn cymryd rhan ‘y tad’ y tro hwn, yn dangos ei bod hi’n bosib creu perthynas ar lwyfan heb fod angen yr un sesiwn yn y stafell ymarfer.

Gyda hiwmor tywyll a dwys trwy'r ddrama rydych yn dal eich hunain yn chwerthin ar brofiadau anobeithiol y cymeriad ac yna’n teimlo’n gas am wneud. Mae hyn yn fwriadol gan Crouch siŵr o fod; ac mae’r teimlad fod y cymeriadau eisiau i chi deimlo’n anghyfforddus yn ystod y perfformiad yma yn anodd ei ysgwyd. Yna wrth drafod pwysigrwydd a phŵer ein meddyliau ni, mae’n gwneud i chi feddwl am y posibilrwydd mai yn y bôn fod fersiwn pawb o realiti yn wahanol.

Wrth adael Theatr y Maes dwi eisiau gweld y ddau berfformiad arall. Er mai’r un sgript sydd i’w gael, mi fydd y stori ar lwyfan yn brofiad hollol wahanol gyda’r actorion Llion Williams a Betsan Llwyd yn cymryd rhan ‘y Tad’ ac siŵr bydd eu ymateb nhw yn wahanol. Hyd yn oed os nac ydych yn hoff o theatr sydd ddim yn dilyn dulliau traddodiadol, mae’r perfformiad yn bendant yn un gwerth ei gweld.

Previous
Previous

Ymateb: ‘Gorwelion’ - Caryl Bryn

Next
Next

Adolygiad: Basgedwaith