Ysgrif: Amaethyddiaeth Gynaliadwy: Ddoe, Heddiw ac Yfory... - Euros Jones
Mae amaethyddiaeth wedi bod yn rhan greiddiol o economi ac hunaniaeth Cymru ac mae'r sector yn parhau i fod yn rhan greiddiol yn hynny o beth. Bellach mae mwy-fwy o drafod ar rôl amaethyddiaeth yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a dyfodol y diwydiant. Heddiw Euros Jones, ffermwr o Benrhos, sy'n trafod y diwydiant ar ran y Stamp. Mae gan Euros radd M.A. mewn Cadwraeth Gynaliadwy ac mae o'n ddipyn o giamstar ar gynlluniau amaethyddol-amgylcheddol. Mae ganddo gi defaid hoffus hefyd fel y gwelwch o'r llun isod.
Nodyn: Cymaint ydi llwyddiant y mis bach gwyrdd nes ei fod o wedi egino a thyfu dros y byncar i gyd, bydd mwy o ddeilaich amgylcheddol blasus i chi dros yr wythnosau nesaf felly.
Mae’r berthynas rhwng cynaliadwyedd ag amaethyddiaeth yn ddyrys, ond yn hanfodol. Yng Nghymru, mae’r diwydiant amaeth yn rheoli’r amgylchedd, yn greiddiol i’r strwythur economaidd, ac yn asgwrn cefn i’r gymdeithas frodorol Gymreig. Heddiw, amhosib yw ystyried amaethyddiaeth heb grybwyll cynaliadwyedd, maent yn gyfystyr, ac yn llwyr ddibynnol, ar ei gilydd.
Ar hyd y blynyddoedd, daeth sawl ergyd i’r diwydiant amaeth, ac yn dilyn y Chwyldro Diwydiannol, newidiodd strwythur ffermio a chefn gwlad yn llwyr. Cafodd technoleg a’r datblygiadau ym maes gwyddoniaeth ddylanwad aruthrol ar y ffordd o amaethu. Mae cymaint o beiriannau modern yn diwallu anghenion y ffermwyr erbyn hyn, ac yn gwneud eu gwaith yn llawer haws. Bellach, mae’r caeau bychain, traddodiadol a arferai ffurfio patrwm cynefin Cymru wedi diflannu, ac mae’r tirlun yn gwbl wahanol. Cafodd y cloddiau a fu yno ers cenedlaethau eu chwalu wrth i leiniau anferth o dir agored hwylus eu disodli. Erbyn heddiw, nid oes angen hanner cymaint o weision fferm. Yn yr hen ddyddiau, roedd fferm cyn lleied â hanner can acer yn ddigon mawr i gadw teulu, ac efallai gweithiwr, mewn gwaith. Yn ddiddorol, yn 1921 roedd 41,000 o ffermwyr yng Nghymru yn rhoi gwaith i 17,000 o aelodau’r teulu. Roeddent yn cyflogi 53,000 o weision fferm, ynghyd â 15,000 arall o weithwyr tymhorol neu achlysurol,yn ystod cynaeafu a chyfnod wyna er enghraifft. Fodd bynnag, erbyn ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn aml dim ond un person oedd ei angen. Bu’r datblygiad mewn technoleg yn gyfrifol am leihau costau cynhyrchu a maint llafur yn bennaf, ac o ganlyniad, dirywiodd pris y farchnad, gan achosi lleihad sylweddol mewn incwm. Bu’r Chwyldro Amaethyddol yn newid mawr i’r diwydiant. Er hyn, mae ffermio’n parhau i fod yn ganolbwynt yn y cynllun economaidd, ac yn greiddiol i ddyfodol cefn gwlad.
Mae gwleidyddiaeth yn rheoli amaethyddiaeth, a dyna pam fod rôl y llywodraeth heddiw mor dyngedfennol i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r diwydiant. Fodd bynnag, er mor greiddiol yw cymorthdaliadau ni all yr un ffermwr ddibynnu’n llwyr arnynt. Peth annoeth fyddai bod yn or-ddibynnol ar gymorthdaliadau; dylid hefyd ystyried ffyrdd eraill o’i chwmpas hi. Rhaid dysgu a bod yn barod i newid y ffordd draddodiadol o ffermio, a buddsoddi mewn technoleg. Mae’n ofynnol i’r ffermwyr gyd-fynd â’r oes sydd ohoni, a pheidio aros yn eu hunfan.
Mae’n bwysig cofio fod y diwydiant amaeth yn ymwneud â phethau ychwanegol heblaw am ffermio; mae’n cynnal busnesau a gwasanaethau eraill yng nghefn gwlad. Mae’r pwyslais yn gynyddol ar gynnal gwaith er budd yr economi leol, ac felly nid yn unig dyfodol ffermydd sy’n y fantol, ond hefyd rhai o’r busnesau bach hynny sydd wedi llunio cymeriad sawl cymuned ers cenedlaethau. Yn nhermau cynaliadwyedd, problem amlwg yw’r anghydfod rhwng y wlad a’r dref. Y gwirionedd yw mai yn y trefi y mae’r arian bellach, ond cefn gwlad sydd yn darparu i’r trefi ddŵr i’w yfed, awyr iach i’w anadlu a bwyd iachus i’w fwyta. Mae cefn gwlad yn cynnig llawer mwy i drigolion y trefi - tirwedd gyfoethog, treftadaeth ddiwylliannol, bioamrywiaeth a’r cyfle euraidd i hamddena.
Nid oes unrhyw amheuaeth bod ffermio wedi newid a moderneiddio. Ar hyn o bryd, mae’r diwydiant yn ddibynnol ar danwyddau ffosil a chemegau artiffisial. Mae’n broblem fyd-eang, ac mae’r hyn ddigwyddodd i gynhaeaf ‘hybrid corn’ yn y Gorllewin Canol, yn profi hyn. Ar un llaw, gellid awgrymu mai datblygiadau technolegol, megis gwella offer hadu a chynaeafu, gwrtaith, rheoli heintiau, a dyfrhad, a fu’n bennaf gyfrifol. Heddiw, dylid ystyried amaethyddiaeth gynaliadwy fel y ‘norm’, ac er mwyn llwyddo mae hi’n anorfod i ffermwyr newid eu trefn bresennol o amaethu. Nid proses hawdd yw newid barn y ffermwyr hynny sydd wedi arfer gyda’r hen ddulliau dros y blynyddoedd. Mae angen ystyried sut i werthu’r dulliau newydd er mwyn annog a darbwyllo’r amaethwyr fod creu’r newidiadau hyn yn greiddiol i hyrwyddo’r diwydiant ymhellach. Yr her felly yw sicrhau fod y newidiadau hyn yn atyniadol, ac yn ymarferol bosib, i ffermwyr ymgymryd â hwy.
Beth am rôl amaethyddiaeth ei hun? Daw pob diwydiant â’i gyfrifoldebau, ac nid yw’r diwydiant amaeth yn eithriad. Hawdd iawn yw edrych yn ôl, ac edmygu’r hen ffyrdd traddodiadol o amaethu, ond nid dyma’r ffordd i feddwl yn nhermau amaethyddiaeth gynaliadwy. Amhosib yw bod yn llwyr ddibynnol ar gymorthdaliadiadau. Mae’n hanfodol ein bod yn uchelgeisiol, ac yn meithrin meddwl agored i fod yn fwy pendant ein barn yn erbyn ansicrwydd gwleidyddiaeth a sefyllfa fregus yr economi. Mae’r pwyslais yn aml ar arallgyfeirio, ac ar newid a hwyluso’r ffyrdd traddodiadol o ffermio. Mae’n rhaid meddwl yn fwy creadigol, a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Beth bynnag fo’r ateb, trwy weithredu’n effeithiol, gellid diogelu popeth sydd o werth yn y Gymru wledig, a bod yn gyfrifol am ei chreu’n asgwrn cefn i wlad gynaliadwy.