Darn Creadigol: Bwydlen Ehöeg - Mari Elin
Ar hyd y canrifoedd mae'r bwydydd rydyn ni wedi, ac yn, eu bwyta yn esblygu'n barhaus a blasau newydd yn cael eu creu yn gyson. Erbyn 2030 mae disgwyl y byddwn ni’n bwyta bwydydd hollol whanol i'r hyn rydyn ni wedi'i brofi o'r blaen. A fyddwn ni'n bwyta mwy o gynnyrch lleol, tymhorol neu ffrwythau a llysiau wedi'u tyfu'n enetig? Beth am wyau wedi’u hargraffu’n 3D? A fyddwn ni’n yfed gwin synthetig, bywta cig a dyfwyd mewn labordai a physgod na welodd y môr erioed? Ai pryfed bach amryliw fydd yn addurno’n platiau a’n pwdinau?
Dyma ddychmygu bwydlen y dyfodol.