Cerddi: Borewylwyr / Llwyngan - Morgan Owen
Borewylwyr
Tyrfau yn y bore bach yn tarfu
a lluchedau glaswyn yn canghennu.
Dyma gymysgedd goleuni
i syfrdanu:
dau lesni yn ddryswch
mewn gwrthdrawiad â thywyllwch.
Yn lle blaen y wawr yn cropian
o’r dwyrain
cawsom lusernau ffyrnig eu fflachiadau.
Darniodd y storm y bore bach
a’n dal ar y trothwy
lle dylai’r dydd ystwyrian
ym mrigau’r coed yn wylaidd.
Goddiweddwyd y glasu.
Roedd yr adar yn canu o hyd
a hwythau’n ddoethach.
Ymrysonodd ceinder cathlau
â rhyferthwy drycin;
molent y tlysni ar ledu
dros ninnau a’n syndodau.
Llwyngan
Maglau ffrwythog sy’n dal cân
y brain a’r glaw yn dynn
a dyrys i’w nyddu
ar dröell y gwynt. Arogl llaith
y drain yw anadl
yr haf yn gyrru blagur
i’r brigau o ddyfnderoedd
y düwch, yn alwad
sydd yn deffro’r llwyn.
Cymylau llwydion ar ildio
i wybren lusliw.
Clais yn lledu gan ddatgan
dechreuad.
Cliria storm ei wala o weryd.
Hada’r pridd i bladur werdd
ymhen y trimis,
mor loyw ag adain gwyfyn
ar droad yr haf
a’i aberth.
Awgrym ffarwelion mewn ffrwythau.
Daw preiddwyr llawborffor
yn eneiniog o waed yr haf
i drawsylweddu y byd.