Adolygiadau: 4 EP Cymraeg newydd

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rai llewyrchus iawn yn y byd cerddoriaeth Cymraeg. Bu rhai o adolygwyr cerddoriaeth Y Stamp yn bwrw golwg ar rai o’r EPs newydd sydd wedi cael eu rhyddhau gan fandiau ifanc yn ddiweddar.

Hyll – Hyll

(JigCal)

Mae galw cân yn ‘Ganja Cartref Mam’ yn siŵr o dynnu sylw. Fel trydydd cân casgliad newydd Hyll o bum cân, mae hon yn sefyll fel rhyw bolyn enfawr yn y canol yn dal popeth at ei gilydd. Os mai ar Spotify yr ydych chi’n gwrando ar gerddoriaeth fel arfer, mae’n debyg iawn nad ydych chi wedi cychwyn o’r cychwyn ac wedi mynd yn syth i drac rhif 3 gan eich bod chi wrth eich bodd â’r syniad bod eich mam yn bwriadu gweini platiad enfawr o Ganj ar eich bwrdd bwyd heno.

Dychmygwch. Pan y byddwch chi’n cael plant, ac yn dysgu hen ryseitiau eu nain iddyn nhw, dychmygwch ddweud wrthyn nhw mai pryd heno fydd Ganja Cartref Nain. Mae ‘na berlau eraill yma hefyd – ac wrth feddwl yn ddyfnach, efallai mai ‘Efrog Newydd, Efrog Newydd’ yw cân orau’r casgliad. Maddeuwch i mi am gael fy nenu’n ormodol at y ganj.

Fel Mellt, Ysgol Sul ac wrth gwrs, Ffug, mae Hyll yn ymwrthod â lyrics siwgrllyd, rhamantus, ac yn ei le yn mynegi eu rhwystredigaeth yn syml ac yn uniongyrchol, tra’n parhau yn hynod feddylgar a dysgedig. Maen nhw, yn amlwg, eisiau gadael ac eisiau rhedeg i ffwrdd o’r bywyd diflas hwn, ond ddim yn siŵr iawn pam, nac i lle, ‘chwaith.

Dwi’n gosod hon ar y silff amgen. Os yw sianel Ffarout yn bodoli mewn ugain mlynedd, bydd hon yno yn sicr, ac os nad ydych chi’n gallu uniaethu hefo prif artistiaid y sîn – rhowch gyfle i Hyll eich swyno i fyd tri llanc ifanc o Gaerdydd. Mae hon am dy wneud yn fwy penwan nag unryw ddôs o Ganja Cartref dy Fam.

Pyroclastig – Pyroclastig

(Rasal)

Does na ddim digon o sacsoffons yn yr SRG ‘di mynd! Ond mae gan Pyroclastig un, a hwnnw yn nwylo medrus Llyr Williams; cerddor sydd fel gweddill ei fand yn gwybod gwerth cynildeb. Dwi’n meddwl mai dyna’r allwedd i lwyddiant yr EP newydd, sy’n dwyn yr un enw â’r band. Nid offerynniaeth gwirion-o-gymleth-dangos-dy-hun sy’n nodweddu’r casgliad yma o bump cân.

Fel y bysa rhywun yn ei ddisgwyl gan fand ifanc yn cymryd eu camau cyntaf, efallai, serch yw’r prif thema sy’n cynnal caneuon yr EP. Mae hynny’n golygu y gall y geiriau ddisgyn i fagl ystrydeb weithiau. I bigo un enghraifft ar hap; ‘nicotin ond yn neud fi’n fwy caeth i ti’ yn y drydedd gân, ‘Cyfeiriad y Mŵg.’ Wedi dweud hynny, mae digon o amrywiaeth a chlyfrwch yn y cyfansoddi yma ar y cyfan i beidio a thramwyo ar diroedd rhy gawslyd ac ystrydebol.

Hawys Williams sy’n arwain y perfformiadau lleisiol ar bob cân ar wahan i ‘Run Un.’ Roedd hyn yn ddatblygiad difyr ac anisgwyl i mi, gan mai llais Gethin Glyn sydd wedi cymryd y blaen yn y rhan fwyaf o’u perfformiadau byw i mi eu gweld. Heb dynnu dim oddi wrth lais Gethin, dwi’n falch iawn bod y band wedi manteisio ar ddawn lleisiol Hawys, â’i natur felfedaidd, unigryw sydd yn ymlacio rhywun yn syth.

Mae yma berfformiadau lleisiol cryf, solos sacs secsi sy’n gyrru ias ar hyd asgwrn cefn rhywun ac offeryniaeth gadarn, yn ogystal â llinellau bas melodig cofiadwy a drymio cyson ac effeithiol yn sail i’r cyfan. Mae Pyroclastig yn gychwyn cyffrous ac addawol.

Mae’r Nos Yn Glos Ond Does Dim Ffos Rhwngtha Ni – Ffracas

(I KA CHING)

O ystyried bod y band yn gymharol newydd, mae ganddynt sŵn hynod o gyfoethog ac aeddfed. Mae’n reit nodweddiadol o fandiau newydd i fod â chaneuon rhy hir gan nad ydynt yn gwybod sut i’w torri nhw’n eu blas, ond nid dyma’r gwir am Ffracas. Er bod tair o’r pedair cân dros 5 munud, nid ydyw’n wendid ganddynt o bell ffordd.

Mae ‘Carots’ yn chwe munud o hyd, ac yn un jam anferth gyda’r un chordiau’n cylchdroi fel sylfaen, a’r gitârs budr, ‘crunchy’ yn gwneud fel a fynnent uwch eu pen.

Mae’r gitârs yn meddalu wedyn ar gyfer naws breuddwydiol ‘Niwl’, a mwy o sylw’n cael ei roi i’r alaw a geiriau fade-aidd, sy’n plethu’n wych â’r bâs.

‘Pla’ yw cân fwyaf ymlaciol yr EP, gyda’r llais meddal a harmoni hyfryd yn y gytgan yn amlygu’r hiraeth a chwilfrydedd am y ferch. Mae hi’n debyg mewn ffordd, drwy’r gitârs meddal a’r hiraeth, i ddechrau “With or without you” gan U2.

Mae’n sicr eu bod yn ffans o fyd natur, gan fod eu caneuon yn sôn gan fwyaf am niwl, glaw, coed ayyb. Efallai y gallent amrywio rywfaint ar bynciau’u canu wrth ryddhau eu deunydd nesaf, ond mae defnyddio’r elfennau hyn yn gweithio hefo’r caneuon hypnotaidd hyn.

O bosib mai ‘Petalau’r Haul’ yw’r gân orau, sy’n adeiladu’n anferth erbyn ei diwedd i gloi’r EP. Yn syml iawn, os hoffech chi wrando ar gerddoriaeth i gyd-fynd â gwydraid tawel o wîn am dri’r bore cyn suddo mewn i drwmgwsg, gwrandwch ar rhain.

Cadno – Cadno

(JigCal)

Dydi Cadno ddim yn ‘sgwennu dan genre penodol, ond mae ganddyn nhw sain dwi am fathu’n Cadno-aidd: rhyw weu o arlliwiau jazz, indie a phop gyda dos iach o drawsacennu.

‘Bang Bang’ sy’n agor yr EP, tiwn cofiadwy sy’n gafael yn syth. Do’n i ddim yn hollol siŵr ohoni hi i ddechrau am ei bod hi’n fy atgoffa o gân arall o’r un teitl: ‘Bang! Bang!’ gan Iwan Rheon. Ond ‘bang’ yw sŵn pob gwn, ac o wrando mwy ar y gân mae hi wedi ei hawlio. Mae’r gwead yn wych a llawn nodweddion bach difyr sy’n adeiladu drwyddi. Gwirionais â’r hyfdra yn y diwedd wrth i’r gân ddod i ‘glo ffug’ cyn ail-godi’r momentwm gydag esgyniad y gitâr electrig.

Sasi yw’r gair sydd yn dod i feddwl wrth ddisgrifio datblygiadau’r cordiau yn ‘Helo, Helo’ ac maen nhw’n gweddu’r geiriau i’r dim. Braf hefyd yw clywed band ifanc Cymraeg yn manteisio ar rinweddau’r piano gan chwarae mwy na ryw gordiau yma ag acw. Mae’r rhediadau drwy’r gân yn hyfryd a’n fy atgoffa i o gyfeiliant ’Vienna’ gan Ultravox.

Er bod feibs ychydig tywyllach i ‘Mel’ mae hi dal yn teimlo’n Gadno-aidd a mwynheais y cysyniad trosiadol tu ôl y gân. Ar y llaw arall roedd ’83’ yn sefyll allan braidd. Nid am ei bod hi’n gân Saesneg ond am ei bod hi’n drwm ei naws o gymharu â gweddill yr EP. Fasa’r cyfan wedi cloi’n fwy chwaethus hefo harmonïau hudol ‘Haf’ a’r cord amherffaith yn y diwedd yn gwahodd y gwrandawyr i ddyheu am fwy.

Ar y cyfan dyma ddatblygiad hyderus ar ddyddiau cynnar Ludagretz gan fand â photensial mawr i herio. Mae eu trawsacennu a’u hyfdra cynnil, heb sôn am gwmpas lleisiol Cadi, yn erfyn ar adegau am themâu mwy pynciol a sasi na chariad. Ond er gwaethaf fy nyheadau am gamau nesaf Cadno, dyma EP gwrandawiadwy iawn llawn alawon sy’n herian y cof.

Previous
Previous

Stori Ffantasi: Y Brawd a’r Chwaer – Elidir Jones [Rhan 1]

Next
Next

Cerddi: Borewylwyr / Llwyngan - Morgan Owen