Cerdyn Post Creadigol: Indonesia - Mari Huws

Woosh! Cerdyn post creadigol arall ar drothwy haf tanbaid. 

Daw’r cerdyn post arbennig hwn wrth Mari Huws, ffilmwneuthurwraig a ffotograffwraig ddogfen. Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle ac un yn o blant mabwysiedig Ynys Enlli, mae materion a phryderon amgylcheddol yn rhan annatod o’i gwaith. 

Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ar brosiect Olew Drwg. Darllenwch ei chyflwyniad i’r prosiect ac lawrlwythwch ei hymateb creadigol isod. 

Mae coedwig law Indonesia yn diflannu er mwyn clirio tir argyfer planhigfeydd Palm Oil. Dwi wedi pacio fy mhac a rhoi fy hun ar awyren yma i ddogfennu’r rhyfeddodau a’r effaith ma’r digoedwigo yma yn ei gael ar fywyd gwyllt a cymunedau, drwy ffilm, ffotograffiaeth a geiriau cyn iddi fynd rhy hwyr.

Mi oni newydd gyraedd dinas newydd, Singkawan yn gorllewin Borneo, ac ‘di treulio’r bora yn crwydro’r sdrydoedd prysur yn y glaw. Mi nes i eistedd mewn caffi am goffi, a cal yr awydd i sgwennu – gan fy mod ar drobwynt yn y daith – a’r awyren adra’n agosau.

Mari x

Lawrlwythwch y cerdyn post creadigol yma: cerdyn post olewdrwg

Darllen pellach:
Blog: www.olewdrwg.wordpress.com
Gwefan: www.olewdrwg.com
Instagram: olewdrwg

Previous
Previous

Rhestr Ddarllen: Deg Cyfrol gan Awduron Benywaidd – Mair Rees

Next
Next

Ysgrif: Dinasoedd yr Hunan - Morgan Owen