ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019 / MIS BACH GWYRDD 2020
Cerdyn Post Creadigol: Chubut - Grug Muse
Un o'r golygyddion yrrodd y cerdyn hwn draw o ben arall y byd, lle mae hi'n wanwyn a'r dyddiau'n mystyn...
Cerdyn Post Creadigol: La Machine - Heather Williams
Ceir beddau Cymraeg ar lannau’r Loire…
Cerdd: Bae Onuku, Dydd Gŵyl Dewi 2019 - Elen Ifan
Cyrn carw o froc môr,
Llysywen o wymon fel lledr
a'i gwreiddiau yn grimp yn y gwres,
hanner asgwrn wedi’i dorri,
a chregyn lliwgar yn disgleirio’u glesni yn yr
haul.
Cerdyn Post Creadigol: Venezia - Cain Muse
Hon oedd fy noson olaf yn Venice, dinas yr oeddwn i wedi breuddwydio amdani ers ro’n i’n fach. Roeddwn i’n eistedd yn set flaen vaporetto, math o gwch sy’n gweithio fel bws, a roeddwn i’n mynd i fyny’r Grand Canal am y tro ola’ i fyny i’r orsaf bws er mwyn gadael am byth.
Cerdyn Post Creadigol: Kerlouan - Aneirin Karadog
Mae hi wastad yn braf derbyn cardiau post creadigol gan gyfeillion stampus sydd wedi anturio i lefydd pell ac agos. Mae Aneirin Karadog a'i deulu newydd symud i Lydaw am y flwyddyn (mi ddylech chi wybod hyn yn barod, fe gafodd o erthygl ar BBC Cymru Fyw a phopeth ...)
Cerdyn Post Creadigol: Yr Arctig - Mari Huws
Dwi ar hen dir yn hwylio’r hen fôr / a’r hen hen arfordir yn disgwyl. / Ar y gorwel - rhewlif, a’r hen ddŵr o’r hen fyd…
Cerdyn Post Creadigol: Nepal - Anna George
Daeth y golomen hefo cerdyn arall yn ei phig heddiw, a hwn gyda oglau llwch y mynydd arno fo. Roedd Anna George yn un o griw a aeth draw i fase camp Everest ond hyd yn oed a hithau bellach wedi cyrraedd Cymru fach yn ôl mae’r llethrau yn dal i dynnu.
Cerdyn Post Creadigol: O Letterkenny i Enlli - Beth Celyn
Wedi wythnos hwyliog yn Letterkenny, yn llawn Smithwicks a môr-ladron a chanu, o grwydro’r Wild Atlantic Way i ailgynnau tân y Pan-Geltiaid, rhyfedd oedd sefyll ar Ynys y Lli yn syllu draw dros Fôr yr Iwerydd. Roedd marwydos y machlud yn asio i mewn i awyr y nos a’r llwybr llaethog a ymddangosodd yn ei le yn goleuo’r ffordd ’nôl i ‘Werddon.
Cerdyn Post Creadigol: Nicaragua - Lowri Ifor
Yn eu gwanwyn mecanyddol, â hwythau’n gywion melyn newydd-ddeor, petrus oedd eu siwrneiau cyntaf o’r depot. Cylchoedd bychan araf yn strydoedd sybyrbia, yn chwilio am bryfaid o blant i’w casglu. Wedi hel boliad ohonynt, cylchu’n ofalus eto cyn eu gollwng yn saff yng nghanghennau’r ysgol.
Cerdyn Post Creadigol: ‘Mericia - Llyr Titus
Mi fuodd ein Llyr bach ni ar drip bach dymor diwethaf, i dreulio tymor yn “astudio” ym mhrifysgol Harvard. Mae’n debyg fod o wedi mwynhau lot gormod; wedi dod yn aelod anrhydeddus o Faffia Wyddelig Boston; wedi rhannu sbliff efo Bill Clinton; wedi bod mewn ffeit efo Jack Kennedy mewn bar yn Watertown, yn ogystal a chymryd rhan mewn nifer o weithgareddau allgyrsiol eraill.
Cerdyn Post Creadigol: Barcelona - Caryl Angharad
A hithau’n dymor y gwyliau haf, a phawb fel petaent yn ‘madael ar dripiau cyffrous i lefydd ecsotig fel Dubrovnik ac Aberdaron, Caryl Angharad Roberts sy’n ein tywys ar hyd strydoedd Barcelona yn ein cerdyn post diweddaraf…
Cerdyn Post Creadigol: Indonesia - Mari Huws
Mae coedwig law Indonesia yn diflannu er mwyn clirio tir argyfer planhigfeydd Palm Oil. Dwi wedi pacio fy mhac a rhoi fy hun ar awyren yma i ddogfennu’r rhyfeddodau a’r effaith ma’r digoedwigo yma yn ei gael ar fywyd gwyllt a cymunedau, drwy ffilm, ffotograffiaeth a geiriau cyn iddi fynd rhy hwyr.
Llun a llên: Prifddinas – Efa Lois
Mynwent o atgofion oedd y ddinas. Yng nghysgodion ei beddfeini, llochesai ambell awgrym fod gobaith wedi trigo yn y lle hwn rywdro. Credodd addewidion y cwmnïau mawr – mi fyddai hi’n arbennig. Mi fydden nhw’n ei gwareiddio hi, drwy wydr a dur, nes ei bod hi fel pobman arall.
Cerdyn Post Creadigol: Lublin – Llŷr Titus
Fe oedd hi’n anodd meddwl bod oleiaf 80,000 wedi’u lladd yn rhywle lle’r oeddwn i’n sefyll, anoddach os rwbath oedd y ffaith fod o mor effeithlon. Fe oedd rhywun, yn rhywle, wedi eistedd i lawr hefo papur a phensal ac wedi trefnu pob dim, wedi meddwl ‘gawn ni ddefnyddio’r gwres o losgi’r cyrff yn y poptai i g’nesu dŵr’ a ‘mi fydd lludw’r cyrff yn gwneud gwrtaith da i erddi’r SS’.
Cerdyn Post Creadigol: Klagenfurt - Elin Wyn Erfyl Jones
Dwi newydd orffen tymor yn gweithio fel cynorthwyydd iaith ar gyfer y Cyngor Prydeinig, lle bues i’n dysgu Saesneg mewn dwy ysgol uwchradd yn Klagenfurt, Awstria.
Dyddiadur Teithio: El Bolsón – Elin Gruffydd [Rhan 2]
Nos Sul yn El Bolsón. Un o nosweithia mwya bizzare fy mywyd. Ar ôl swpar, dyma rhywun yn awgrymu ein bod ni’n cael sesiwn eyegazing. Doni’m yn dalld be odd hynny, ond ma’r gair basically yn disgrifio’i hun. Natha ni gyd ymgynull yn ein yurt ni ac eistedd ar lawr. Odda ni fod i ffindio partnar, eistedd gyferbyn, a jesd sbio fewn i lygaid ein gilydd am dri munud. Dim siarad, dim unryw fath o sŵn, jesd eye contact. Dwi’n gwybod, ma’n swnio’n hollol redicilys.
Dyddiadur Teithio: Salar de Uyuni & El Bolsón – Elin Gruffydd
Natha ni adael Uyuni am 10:30 ar gyfer y tour o’r fflatiau halen mewn Jeep. O’r bora cynta un dyma fi’n cal nickname anffodus, Miss Brexit. Gan ein bod ni’n grwp Ewropeaidd iawn – rhai o Sweden, yr Almaen, Ffrainc a Chymru – roedd gendda nhw i gyd lot o ddiddordab yn y matar, ac yn gofyn be ddiawl sy’n bod efo ni. Neshi drio ngora i amddiffyn fy hun a pwysleisio mod i 100% yn erbyn y peth, ond odda nhw’n gweld o’n ddoniol mod i’n mynd mor worked up, felly nath yr enw sticio. A trwy’r holl daith, os oddna wbath yn mynd o’i le, bai Brexit oddo.
Cerdyn Post Creadigol: Berlin - Miriam Elin Jones
‘Aeth Aled fy nghariad a finnau ar wyliau byr i Berlin jyst cyn Nadolig, gyda’r bwriad o ymweld â marchnadoedd Nadolig niferus y ddinas. Ar ddiwedd ein diwrnod cyfan cyntaf yno, gyrrwyd lorri yn fwriadol i ganol un o’r marchnadoedd hynny, gan ladd deuddeg o bobol. Diolch byth, roeddwn ni’n dau yn ddigon pell oddi yno, ond cafodd effaith arnom wrth dreulio’r tridiau nesaf yn crwydro’r ddinas.