Cyfweliad: Arrate Illaro

(Lluniau: Deirdre McKenna)

IT: Fis Hydref, mi fum i a chriw o ffrindiau ar daith yng Ngwlad y Basg, yn mwydro pennau cynulleidfaoedd yno gyda datganiadau pen pastwn meddw o gerddi Dafydd ap Gwilym, ymysg pethau eraill. Roeddan nhw wrth eu boddau yn clywed cerddi’n cael eu hadrodd fel hyn, ac yn cymryd atyn nhw llawer mwy na’r rhai hynny yr o’n i’n eu hadrodd i gyfeiliant cerddorol. Y rheswm am hyn, mae’n debyg, yw bod datgan yn y ffordd yma yn eu hatgoffa o’u traddodiad barddoniaeth eu hunain; y bertsolaritza. Rai wythnosau yn ôl, yn y car rhwng y Dyfi yng Nglantwymyn a’r Fic yn Llithfaen, mi ges i sgyrsiau difyr iawn ag Arrate Illaro, un o’r bertsolari; a chyfle i gydweithio hefo hi mewn perfformiad y noson honno …

“Yn ystod yr unbeniaeth, roedd y bertsolari wastad mewn trafferthion efo’r heddlu … roedd yn rhaid iddyn nhw ganu mewn llefydd cudd, yn gyfrinachol. Roedd canu bertsos yn anghyfreithlon.”

Mae’n amlwg fod byd y bertso wedi dod yn bell mewn deugain mlynedd, ac mae Arrate yn ymgorfforiad o’r newid hwnnw. Fel llawer o’r bertsolari modern, daw o genhedlaeth newydd o siaradwyr Basgeg sydd ar dân dros eu hiaith a’u diwylliant. Roedd bod ar dân dros y pethau hynny ar un adeg yn ddigon i’ch cael chi mewn carchar. Mae rhai yn dal i fod yno.

“Mae’r bertsolaritza heddiw yn gryf am fod gennym ni drefn, ” meddai, gan gyfeirio at y gymdeithas sydd wedi ei sefydlu ers rhyw ddeng mlynedd ar hugain bellach, â’r bwriad o warchod a hybu traddodiad barddol cwbl unigryw Gwlad y Basg. Bellach mae plant ar draws Gwlad y Basg yn rhan o bertso eskolak, neu ysgolion bertso:

“Ers talwm, dywedwyd mai o’r cartref y deuai’r bertsolari; os oedd dy rieni neu dy deulu yn byrfyfyrio, yna roeddet ti’n gwneud. Bellach mae gen ti’r ysgolion, ac mae plant yn cychwyn canu yn fan’no. Bydd y bertsolari cyffredin heddiw yn dechrau dysgu am y bertsos a sut i’w creu yn y bertso eskolak.”

Yn syml, bertsolaritza yw’r gelfyddyd o gyfansoddi darnau byrfyfyr ar amrywiol fesurau ac alawon sy’n unigryw i Wlad y Basg. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn dysgu mwy am y traddodiad llafar, caeth yma; oedd rhai pethau yn debyg i’n traddodiad ninnau o ganu caeth? Wrth berfformio, mae’r bertsolari yn aml yn cael testun gosodedig;

“Unwaith mae’r pwnc gen ti, mae’n rhaid dewis alaw, a nifer sillafau – dewis strwythur y bertso. Wedyn, rwyt ti’n meddwl am y teimlad ti’n mynd amdano fo – rhywbeth trist efallai, neu rywbeth comig  –  mae alawon a mesurau addas ar gyfer y teimladau mae rhywun am ei greu yn y gwrandawyr. Ac yna, mae’n rhaid meddwl am linell olaf y bertso – dyma’r linell bwysicaf, yn union fel dweud jôc.”

Gofyn i gynulleidfa’r Fic am bynciau. Llwyddodd Arrate, mewn mater o eiliadau, i weu ‘gobaith’ a ‘Brexit’ i’r un gerdd … rhywbeth nad ydw i wedi medru ei wneud erioed!

O fewn y mesurau, ffefrir odlau dwbl – tydi ‘herriak’ ac ‘ozenak’ ddim yn odli’n gyflawn fel y byddent mewn cerdd Gymraeg, er enghraifft.

“Mae’r un odlau yn dod i fyny mewn bertso yn aml, oherwydd yn y Fasgeg, mae’r ferf bron bob tro ar ddiwedd y frawddeg. Mae teuluoedd o odlau hefyd – byddai ‘-ara’ ac ‘-aba’ yn yr un teulu, er enghraifft. Mae’r llafariaid yn aros yr un fath – alli di ddim odli ‘-ara’ hefo ‘-ira’ neu ‘-ura.’ Gallai ‘-ara’ odli efo ‘-aga’, ‘-ada’, neu ‘-aba’. (gweler y tabl) Yn ein hachos ni, yn wahanol i’r odl broest Gymraeg, mae’r llafariaid yn aros yr un fath, tra bod rhai o’r cytseiniaid yn medru newid o fewn eu teuluoedd. Bydd yr odl o hyd ar ddiwedd yr ail linell, a’r strwythur mwyaf cyffredin yw llinell o ddeg sill, ac yna llinell o 8 – cwpledi felly. Mae’r odl wastad ar ddiwedd y linell wythsill. Mae’r strwythurau a’r alawon yn newid, ond bydd yr odlau fel arfer yn disgyn ar linellau 2, 4, 6, ac yn y blaen.

Y ‘teuluoedd’ o gytseiniaid sy’n gyfnewidiol o fewn odl

Mae dros dair mil o alawon … mi fedra i ganu ar rhyw gant a hanner o’r rhain, mae’n siwr.”

Ac mae’r cerddi yma’n boblogaidd – yn boblogaidd iawn. Cynhelir y prif bencampwriaethau ar gyfer y bertsolari bob pedair mlynedd mewn stadiwm anferth, ac mae perfformiadau a chystadlaethau llai ar hyd y wlad yn wythnosol, bron.

“Mae gan y pencampwriaethau yma amcanion pwysig, ond hefyd mae na gigs llai bob penwythnos a thrwy’r haf – yn symud o dref i dref. Mae na gystadlaethau, a digwyddiadau eraill hefyd; bertso dros ginio neu swper, er enghraifft, neu wrth yfed, sy’n llawer llai ffurfiol. Weithiau does na ddim pynciau felly mi ganwn ni am y bwyd yr ydan ni am ei gael …”

All rhywun ddim osgoi cyffelybiaethu rhwng dau draddodiad a dwy wlad o glywed am y math yma o ganu cymdeithasol.

“Ar gyfer perfformiadau o flaen cynulleidfaoedd mewn gwyliau ar sgwariau trefi, mi fydd yna bedwar, pump, chwech bertsolari yno, a thestunau gosodedig fel arfer. Mi allai’r pynciau yma fod yn bynciau o fywyd dydd i ddydd, neu oddi ar y newyddion – y sefyllfa yng Nghatalunya, efallai, neu wleidyddiaeth Gwlad y Basg; pel droed; byd amaeth … weithiau mi fyddan nhw’n cymryd arnynt eu bod nhw’n gymeriadau gwahanol, ac yn cydweithio i greu sgwrs rhyngddynt ar ffurf bertso.”

Roedd band hefo ni ar gyfer ein perfformiadau ar y cyd ym mis Ionawr, ond fel arfer, cenir y bertso yn gwbl ddigyfeiliant –

“- dim ond y llais.”

Ac er nad ydi llyfrau o gerddi’r bertsolari mor boblogaidd â’r perfformiadau byw –

“- mae gynnon ni lot fawr o bapurau newydd lleol, neu gyfryngau lleol, ac yn llawer o’r rhain mi gei di golofn wythnosol lle mae un o’r bertsolari yn ysgrifennu bertso neu ddau ar bwnc llosg.”

Mae’r modd y mae bertsolaritza wedi cael ei gynnal fel rhywbeth mor berthnasol a byw o fewn cymdeithas i’w ryfeddu ato. Roedd y pencampwriaethau diweddaraf ym mis Rhagfyr y llynedd; erbyn i mi gyrraedd Gwlad y Basg ym mis Hydref, roedd stadiwm ac iddi ddegau o filoedd o seddi wedi gwerthu allan yn barod, a’r cyffro at y digwyddiad yn dew hyd y lle. Daeth Maialen Lujanbio, y ferch gyntaf i ennill y gystadleuaeth (2009) i’r brig am yr eildro.

Zubiko Banda oedd enw’r grwp ohonom fu’n teithio ym mis Ionawr. Y gair Basgeg am bont yw ‘zubiko’, a ‘Zubiko’ oedd teitl y darn a gyfansoddwyd ac a berfformwyd gen i ac Arrate. Mi ddywedodd hi wrtha i am beidio a bod yn hunan feirniadol o gwbl, oherwydd y peth cyntaf sy’n dod ydi’r syniad wrth ysgrifennu bertso – does dim amser i wneud mwy na hynny. Profiad difyr oedd gweithio o dan bwysau felly, heb oedi i ystyried a phwyso a mesur pob gair …

ZUBIKO / Y BONT

Mesur: Zortziko Txikia
Alaw: Zubiko

Wel, dewch i fewn i’r tŷ;
mae’n gynnes ac yn glyd.
Mae dwy iaith yn y gwin
a phawb yn canu ’nghyd.
A heno ddaw i ben –
rwy’n gwybod hynny’n iawn,
gyfeillion, wir i chi,
arhoswn i pe cawn.

Galesa, euskara
kantuak, poemak,
Gales, Euskal Herria,
irrintzi ozenak …
Bi herri, bi hizkuntza,
bi kulturarenak
musikaren zubian
elkartu direnak

(Iaith y Cymry, iaith y Basgiaid, / cân a cherdd; / Cymru, Gwlad y Basg / irrintzi uchel / dwy wlad, dwy iaith / dau ddiwylliant / yn cwrdd / ar bont o gerddoriaeth.)

Rhaid gadael fory’n gynnar
a mynd fy ffordd fy hun –
ffarwelio’n drwm fy nghalon,
gyfeillion, fesul un.
Ond gwn y bydd y gân
yn gwmni ar y daith,
yn clymu’n gwledydd bychain
dros sŵn y moroedd maith.

Nahiz eta bi herriak
egon urrunean
batu eta kultura
sortzen dugunean
asko jasotzen dugu
unean-unean
elkarrengandik gure
txikitasunean.

(Er y pellter rhwng dwy wlad / wrth gwrdd a chreu / o’r pethau bach, / daw pethau mawr.)

Mae Pam Lai?  yn fudiad newydd sy’n hybu cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Gwlad y Basg. Ceir mwy o wybodaeth am y prosiect Zubiko Banda ar eu gwefan.

Gyda diolch i: Arrate Illaro, Eider Garmendia, Alaw Fflur Jones, Gwilym Bowen Rhys, Izaro Garmendia, Nicolas Davalan, Osian Morris, Urko Arozena, Meic Llewellyn, Maureen Fairclough, Deirdre McKenna

Previous
Previous

Cerddi: Taith - Morwen Brosschot

Next
Next

Cerdyn Post Creadigol: ‘Mericia - Llyr Titus