Cyfweliad dros banad: Gareth Evans-Jones

Un sydd wedi bod yn driw i’r Stamp o’r dechrau’n deg ydi Gareth Evans Jones, mi gofiwch efallai ei stori ffuglen wyddonol o yn y Labordy yn rhifyn cyntaf un neu ei ddarnau o lên meicro yn Rhifyn 4. Yn ddarlithydd yn Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor mae o wedi cyhoeddi nofel gyda Gwasg y Bwthyn yn ddiweddar. Ein Llŷr Titus bach ni aeth ati i’w holi fo dros banad rithwir am y nofel Eira Llwyd ac ambell beth arall.

Dwi wedi cael blas garw ar Eira Llwyd efallai nad mwynhau ydi’r gair yn union, mae hi’n trafod cyfnod tywyll iawn yn hanes y byd, beth wnaeth dy arwain di at y pwnc a’r cyfnod hwn?

Diolch yn fawr iti am fod mor glên!

Mae’n debyg mai diddordeb mewn Iddewiaeth ddaru fy arwain i ymchwilio ymhellach hanes yr Holocost. Mi wnes i astudio Iddewiaeth ar gyfer TGAU a Lefel A, wedyn ar gyfer fy ngradd, a dwi’n dysgu am y grefydd rŵan yn y brifysgol. Felly mae’r diddordeb yn un cryf iawn.

Yn ystod y cwrs Lefel A, roedd ’na uned yn canolbwyntio ar ymatebion diwinyddol ac athronyddol i’r Holocost, ac mi gawson ni’r cyfle i ymweld ag Auschwitz ac Auschwitz-Birkenau efo’r ysgol yn 2009. Roedd yr ymweliad yna wedi cael andros o effaith arna i. A dweud y gwir, fedra i’m disgrifio’r effaith yn union, ond roedd y profiad o sefyll mewn llefydd sydd wedi bod mor ddylanwadol yn hanes diweddar y Gorllewin, a theimlo chwithdod ac anallu i ddirnad gronyn o’r hyn ddigwyddodd go iawn, wedi dylanwadu’n fawr arna i. Ac ar ôl y daith, mi wnes i sgwennu chydig o straeon byrion ac ysgrifau am yr ymweliad, ond mi ddaliodd y profiad i gyniwair yn ystod y blynyddoedd canlynol, a dyna fu’r ysgogiad imi roi pin ar bapur a mentro llunio darn estynedig.

Mae natur y naratif rhyw fymryn yn wahanol i’r arfer, sut ddaeth hynny i fod?

Ydi, mae’r arddull fymryn yn wahanol. A dweud y gwir, doedd o ddim yn ddewis bwriadol ’mod i am sgwennu mewn ffordd ‘wahanol’. Y syniad cynta’ ges i oedd sgwennu darn o lên feicro am un cymeriad, gan ganolbwyntio ar y modd yr oedd ei ffydd yn simsanu wrth fod mewn gwersyll crynhoi. Ar ôl sgwennu’r darn yna, dyma fi’n sgwennu un arall am gymeriad arall, ac un arall eto, a meddwl ella y basa’n ddifyr cynnal stori driphlyg yn yr arddull yna ... Os ydi hynny’n gwneud synnwyr?!

Dyna’r tri chymeriad wedyn, er yn rhannu dioddefaint a phrofiadau tebyg hefo lleisiau gwahanol oedd hynny’n fwriadol? A pham dewis y tri chymeriad penodol yma?

Diolch yn fawr iawn iti – dwi’n falch o glywad dy fod ti’n meddwl fod gan y tri leisiau gwahanol. Oedd, mi oedd hynny’n fwriadol. Ro’n i’n awyddus i ddarlunio tri Iddew gwahanol iawn i’w gilydd, o ran cefndir, cred, daliadau, rhyw, rhywioldeb, agwedd, ac ati, a dyna sut ddaeth Jakob, Shimon a’r ferch fach i fod. Ond y ddau beth sy’n gyffredin rhwng y tri ydi eu bod nhw’n Iddewon – er yn amrywio o ran enwadau – ac wedi dioddef erledigaeth gan y Natsïaid.

Ar un adeg, ro’n i wedi meddwl cael sipsi fel un o’r tri phrif gymeriad, ond ro’n i’n teimlo nad o’n i’n gwybod ddigon am hanes a diwylliant gwahanol grwpiau’r sipsiwn. Mi es i ati i ddarllen llyfrau am sipsiwn, gan ddysgu cryn dipyn a mwynhau’n arw, ond ro’n i dal i deimlo gan fod gen i well syniad am arferion a hanes yr Iddewon, ella y basa hynny’n ffordd well o geisio gofalu ’mod i’n rhoi haen o hygrededd i’r prif gymeriadau. Wedi dweud hynny, dydi’r nofel ddim yn canolbwyntio ar Iddewon yn unig; yn wir, mae ’na gymeriadau yn y nofel sydd yn sipsiwn, yn Dystion Jehofa, yn Bwyliaid, ac yn garcharorion rhyfel Sofietaidd, er enghraifft.

Wrth drafod pwnc o’r fath mae’n rhaid bod yn sensitif a sicrhau dy hun fel awdur yn fwy na neb arall efallai dy fod ti’n gwneud cyfiawnder â’r hanes, sut es di ati i sicrhau hynny?

Mi oedd hynna’n dipyn o beth a dweud y gwir. Ro’n i’n cael pyliau yn eitha aml pan fyddwn i’n amau ‘pa hawl sy’ gen i i lunio darn ffuglennol yn seiliedig ar drychineb mor fyw â’r Shoah’. Ond roedd y sgwennu, dwi’n meddwl, yn ffordd o ymateb a delio efo’r profiad personol o fod wedi sefyll yn y gwersylloedd difa. Wedyn, er mwyn trio cael hygrededd i’r cymeriadau a’r digwyddiadau ffuglennol, mi wnes i ddarllen nifer helaeth o lyfrau am hanes yr Holocost, hunangofiannau goroeswyr, cofiannau rhai a fu farw, ynghyd â gweithiau creadigol am y cyfnod. Er enghraifft, Night gan Elie Wiesel; If this is Man gan Primo Levi; ac All the Light We Cannot See gan Anthony Doerr (o ran y cyd-destun hanesyddol ehangach). Felly, roedd darllen am brofiadau pobl go iawn yn ffordd o geisio sicrhau fy mod i’n sgwennu am gymeriadau’r nofel bron fel pe bawn i’n cofnodi hanesion pobl go iawn. Ond mae Jakob, Shimon a’r ferch fach yn gwbl ffuglennol.

Dwi’n meddwl mai hon ydi un o’r unig nofelau diweddar hefo’r ansoddair ‘cynnil’ ar y clawr i mi eu darllen yn ddiweddar sydd yn llwyddo i fod yn gynnil. Wyt ti’n un sy’n hoff o gynildeb? A sut mae mynd ati i sgwennu’n gynnil? Haws dweud na gwneud dybiwn i!

Ew, diolch yn fawr iti eto am fod mor glên! ... Ydw, dwi’n mwynhau darllen sgwennu cynnil a hefyd, trio sgwennu’n gynnil. Dwi wrth fy modd efo ffurf y stori fer ac, yn arbennig, llên feicro. A dweud y gwir, dwi’n hoff iawn o ddarllen llyfrau lle nad ydi bob dim yn cael ei roi ar blât. Cofia, dwi’n mwynhau darllen llyfrau fel hynny hefyd, ond mae ’na rywbeth, rhyw deimlad mae rhywun yn ei gael o ganfod y gwir rhwng y geiriau; fel rhyw ergyd sy’n eich mwytho. Mi fydda i’n mwynhau cael y profiad yna wrth ddarllen gwaith nifer o awduron gwahanol; o ran awduron Cymraeg, mae gwaith Sonia Edwards, Annes Glynn, Sian Northey, Aled Jones Williams a Manon Rhys yn dod i’r meddwl yn syth.

O ran sut mae mynd ati i sgwennu’n gynnil – cwestiwn da! Mae hi’n medru bod yn anodd weithia, ond eto, mae’n her sy’n rhoi boddhad ar ôl iti sgwennu rhyw ddarn cynnil sydd ella’n o lew. A dweud y gwir, mi fydda i’n aml yn potsian efo darn, a hwnnw ’mond yn rhyw 200 gair, am dwn-i’m-faint. Mae gorfod meddwl a chwilio am yr union eiriau sy’n gweddu ac yn awgrymu mwy na’r hyn sy’n cael ei ddweud yn brofiad difyr a boddhaus, er yn rhwystredig weithia.

Mae hi’n nofel fer, nofelig efallai, oedd hynny’n fwriadol neu’n rhywbeth a ddigwyddodd yn naturiol wrth fynd ati?

Mewn gwirionedd, cyfres o bytiau oedd yn estyn dros dair tudalen A4 yn unig oedd hi’n wreiddiol! Ond ar ôl sgwennu hynny, ei adael, a mynd yn ôl at y gwaith chydig fisoedd wedyn, dyma fi’n cael mwy o syniadau am drywyddau posib i’r tri chymeriad, felly, dyma fi’n mynd ati i sgwennu chydig bach mwy.

Ydi ysgrifennu hanesyddol yn rywbeth wyt ti’n hoff o wneud neu dim ond yn yr achos hwn y gwnaeth o apelio? A dyma symud at dy waith di’n ehangach, be sydd ar y gweill? Mapiau yn ôl sôn?

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hanes erioed, ond do’n i erioed wedi sgwennu darn o ffuglen ‘hanesyddol’ cyn Eira Llwyd. Ond ers gwneud, mae ’na dipyn o syniadau posib am ddarnau ‘hanesyddol’ eraill yn dechrau cyniwair. Wedi dweud hynny, dwi’n meddwl ’na’i ddisgwyl i weld sut ymateb geith Eira Llwyd yn gynta.

O ran y mapiau – ia, wel, mae gen i awydd newid gyrfa a mynd yn bensaer ... Sori, jôc wael! Ydw, dwi wrthi’n llunio mapiau gwahanol wledydd ar gyfer nofel ffantasi dwi wrthi’n potsian efo hi ar hyn o bryd. ’Na i ddim dy ddiflasu drwy baldaruo amdani, ond mae hi’n wahanol iawn i Eira Llwyd, wedi’i gosod mewn byd dychmygol ac yn wahanol o ran ei hyd, mae’n hirach o lawer (sy’n dipyn o her i fi sy’n mwynhau trio sgwennu’n gynnil!).

A mawr fydd y disgwyl am honno dwi’n siŵr, diolch Gareth.

Previous
Previous

Cerdyn Post Creadigol: Kerlouan - Aneirin Karadog

Next
Next

Rhestr Ddarllen: Dŵr - Grug Muse