Rhestr Ddarllen: Dŵr - Grug Muse

Mi fuodd hi'n haf brawychus o boeth, a bryd hynny, yr unig ddihangfa oedd plymio mewn i'r môr, neu i hynny o lynnoedd ac afonydd oedd dal efo dŵr ynddyn nhw, a’r dŵr oer yn ddihangfa oddi wrth wres affwysol a holl chwys Mehefin.

Erbyn hyn, mae dŵr yn syrthio o’r awyr mewn bwceidia, yn llifo trwy drefi a phentrefi, yn tasgu’n fygythiol dros ymylon morgloddia’, ac yn ‘stillio yn staccato ar lechi’r to.

Dyma restr o lyfra am ddŵr felly - am foroedd, llynnoedd ac afonydd, yn gyfle i ni ystyried H2O yn ei holl ogoniant.

1. How to read Water gan Tristan Gooley, Sceptre (2016)

Mae’r gyfrol hon yn ein hannog i syllu i mewn i byllau dŵr ar ochr y lôn; ystyried y wyddoniaeth sydd y tu ôl i’r gêm ‘poohsticks’; ac i geisio gweld cyfeiriad y gwynt a’r cerrynt mewn tonnau ar wyneb afon. Democrat yw Gooley, sy’n rhoi’r un sylw i bwll mewn ffos ac i Fôr yr Iwerydd. Mae’n gofyn i ni oedi wrth y dyfroedd hynny yr yda ni’n eu gweld o ddydd i ddydd, ac i ddysgu sut i sylwi a dehongli y mân newidiadau a welwn ni. Wnewch chi fyth edrych ar ffos yr un ffordd eto.

2. Gwymon y Môr gan Eluned Morgan, Brodyr Owen (1909)

Enw cyfansawdd yw cyfenw Morgan, o'r geiriau ‘môr’ a ‘ganed’, a hynny am iddi gael ei geni ar fwrdd llong yn teithio draw o Gymru i Batagonia. Fel person a oedd yn perthyn i ddau le, ac eto nad oedd yn perthyn yn iawn i’r un, teimlai Eluned yn gartrefol iawn ar y môr. Cyfrol yn sôn am daith, neu deithiau dros yr Iwerydd yw hon. Mae Eluned yn ysgrifennu’n flodeuog a bywiog. Uchafbwynt yw’r disgrifiad ohoni hi yn gwneud i’r llongwyr ei chlymu at y mast er mwyn iddi gael bod ar fwrdd y llong i brofi drycin fawr. Nid merch gyffredin mo Eluned Morgan.

3. Dart gan Alice Oswald, Faber and Faber (2002)

Cerdd hir yw Dart, yn dilyn trywydd yr afon Dart yn Dartmoor trwy’r tirlun a thrwy amser. Murmuron yr afon yw’r gerdd, wrth iddi siarad trwy leisiau’r bobl a’r creaduriaid sydd yn - ac wedi - byw wrth ei glannau; sydd wedi gweithio yn ei dyfroedd ac sydd wedi ymwneud, mewn rhyw ffordd, â’r dŵr sydd yn llifo ar hyd ei gwely. Yr agosa peth i hunangofiant afon a gewch chi.

4. Llanw gan Manon Steffan Ros, Y Lolfa (2014)

Hanes efeilliaid, Llanw a Gorwel, ydi Llanw, ond y mae’r môr yn bresenoldeb drwyddi. Mae ysgrifennu hudolus Manon Steffan Ros yn hen ddigon o esgus i ymgolli yn hon, heb sôn am ei darlun o fagwraeth anarferol mewn bwthyn ar lan y môr, ac am y modd mae hi’n clymu hanes Llanw a Gorwel gyda chwedlau dyfrllyd am y dŵr.

5. Pebbles gan Clarence Ellis, Faber & Faber (1954)

Cyfrol ag iddi apêl nostalgaidd ydi hon - o dripiau plentyndod i draethau caregog mewn tywydd llwyd i ‘ollwng stêm’ ar ôl bod yn sownd yn y tŷ yn y glaw. Rhy oer i nofio, a rhy wlyb i eistedd yn y tywod, byddai pawb yn dod adre â’u pocedi’n llawn o gerrig a chregyn. Doedd y rheiny byth yn edrych cystal ar ôl iddyn nhw sychu, a cholli'r sglein ddyfrllyd a roddai dŵr halen iddyn nhw. Yn Pebbles, mae Clarence Ellis yn troi yr arfer honno yn wyddor ynddi hi ei hun, gan ddadansoddi y mathau o gerrig, eu lleoliad ar y traeth, a sut i ffendio’r rhai gorau. Be gewch chi well?

6. Spying on Whales gan Nick Pyenson, William Collins (2018)

Mae’r môr yn fawr, ac mae o’n ddirgelwch. Dyna ddau wirionedd sy’n cael eu pwysleisio yng nghyfrol y paelontolegydd morfilod Nick Pyenson yn y gyfrol hon. Y mae Pyenson wedi treulio gyrfa yn teithio’r byd yn cloddio am ysgerbydau ffosiledig o forfilod cynhanesyddol, o’r Basilosaurus i’r Isthminia panamensis. Yn y gyfrol hon mae’n edrych ar orffennol, presennol a dyfodol mamal mwya’r blaned; a sut yr esblygodd ac yr addasodd i newidiadau i’r blaned dros filoedd o flynyddoedd. Mae’n edrych hefyd ar ba heriau fydd newid hinsawdd yn ei achosi i’r rhywogaethau presennol sy’n cuddio yn nyfroedd dyfnion y môr.

7. Moby Duck gan Donovan Hohn, Union Books (2012)

Ar drywydd tebyg, edrych ar bresenoldeb cynyddol plastig yn ein moroedd y mae Donovan Hohn, a hynny trwy ddilyn hynt a helynt llwyth o anifeiliaid bath plastig a syrthiodd i’r môr yn y Cefnfor Tawel, ac a ddaeth i’r lan ar draethau ar hyd arfordir gorllewinol cyfandir America. Mae Hohn yn teithio i’r ‘garbage patch’ yn y cefnfor tawel, i ffatri blastig yn Tsienia, i ynysoedd Aleutian pellennig sy’n cael eu claddu dan domenni o blastig, ac hyd yn oed i’r Arctig ar siwrne epig i ddilyn yr anifeiliaid bach plastig hyn drwy’r môr.

8. Y Trydydd Peth gan Siân Melangell Dafydd, Gomer (2009)

Cyfrol arall sy’n dal rhywfaint o ryfeddod dŵr yw hon. Mae gan George, y prif gymeriad, berthynas gyfriniol bron gyda'r afon Ddyfrdwy, ac mae ganddo obsesiwn gyda’r trydydd peth hwnnw sy’n glynu heidrogen ac ocsigen at ei gilydd mewn moleciwl o ddŵr. Y mae felly yn penderfynu nofio ar hyd afon Ddyfrdwy, o’i tharddiad i’w haber.

9. Waterlog gan Roger Deakin, Chatto and Windus (1999)

Gan barhau gyda phobol sydd ag obsesiwn â nofio, yn y gyfrol Waterlog cawn hanes yr awdur wrth iddo geisio nofio mewn cymaint o wahanol gyrff o ddŵr a phosib ym Mhrydain. Mae’n nofio mewn llynnoedd, camlesi, afonydd, aberoedd, traethau o bob math, Lidos, pyllau nofio difyrraf Llundain, ac wrth gwrs yn y ffos o flaen ei blasty Tuduraidd o gartref. Cyfrol hynod ddifyr am hanes nofio ym Mhrydain, o’r cyfnod pan oedd pawb yn plymio mewn i’w hafon leol yn ddi-bryder, i nofio efo slywod, i’r twf mewn llygredd dŵr a’r symudiad tua’r pyllau glan-gemegol, ac at ddechrau'r lifestyle brand o ‘nofio gwyllt’ (#wildswimming) bondigrybwyll sydd ar draws Instagram a Pinterest erbyn hyn (jest ‘nofio’ i chi a fi).

10. Thirty Words for Water gan Vivienne Rickman-Poole, Hunan-gyhoeddiad (2018)

I gloi, dyma bamffled hyfryd Vivianne Rickman-Poole sy’n dogfennu ei dips cyson yn llynnoedd Eryri. Mae’n debyg fod Rickman-Poole yn nofio trwy’r flwyddyn, ac mae’r lluniau yn y gyfrol hon o gyrff datgysylltiedig yn arnofio rhwng cysgod a golau mewn byd o ddu a gwyrdd yn freuddwydiol ac annaearol.

Ffotograffau: Grug Muse

Previous
Previous

Cyfweliad dros banad: Gareth Evans-Jones

Next
Next

Cerddi: Ein Tad, Noddfa - Sion Tomos Owen