Cyfweliad: Er Cof – Naomi, Nannon, Megan a Meleri

Do, bu darlleniadau Stampus yn rhan o lansiadau Rhifyn 2 dros yr haf, ond gyda hynny, bu LLADD – ie, LLADD –  i gyfareddu’r gynulleidfa yn rhan greiddiol o’r digwydd. Peidiwch â phoeni, ni fu tollti gwaed. Amser a laddwyd, yn y modd mwya’ difyrrus a dychmygol gyda chriw Er Cof. Cyn eu perfformiad ar faes yr Eisteddfod bnawn Sul, tro Miriam Elin Jones oedd hi i holi’r cwestiynau mawrion i Naomi, Nannon, Megan a Meleri o Adran Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. 

Be ddaeth gynta’, yr wy neu’r iâr?

Ha ha… y wy dwi’n credu, wy euraid Er Cof! Ni’n pedair yw’r ieir, a’n her ni yw gofalu amdano. Falle mai gori o ryw fath ’yn ni yn ystod y perfformiad, ac mae’n rhaid sicrhau bod ni’r ieir yn barod i gymryd cyfrifoldeb i ori’n barhaol, a bod y cwestiynau a’r atebion a chyfeiriad yna er mwyn neud yn siŵr nad yw’r wy yn oeri. Diolch iti Miriam am syniad y wy, do’n ni erio’d wedi meddwl am Er Cof fel ‘na. Ma’ fe’n daclus – ma’r plisgyn yn cadw’r cyfan yn sownd ond Duw ag ŵyr ai wy wedi’i sgramblo ei ferwi neu’i botsio daw mas o’r nyth yn y pen draw.

O ran y broses, dda’th y syniad o wylio perfformiad hir-oddefol, wrth wylio Wallflower gan Quarrantine. Dyma berfformiad 5 awr o hyd, lle ro’dd y perfformwyr yn ceisio cynnal ‘dance marathon’ trwy ddawnsio yn ôl eu hatgofion. Wedd yr elfen hir-oddefol yn ecseiting, ac o’dd chware gêm am gyfnod mor hir yn brofiad cwbl newy’ i ni. Ond r’yn ni mor falch o’n dewis, a’n dewrder i chwarae ac arbrofi gydag amser. Fuon ni ar joli i Frighton cyn y Nadolig er mwyn  gwylio ein harwyr Forced Entertainment yn perfformio, wedd hynny’n bwynt allweddol, anhygo’l. Wedd y cleber yn byrlymu o’r trên ar y siwrnai adre’, wedd cyfeiriad Er Cof yn glir. Wedd dod nôl â thamaid o hud Forced Entertainment i Aber ac i’r Gymra’g yn dipyn o gamp, ac r’yn ni’n sobor o browd o hynny ac yn ddiolchgar ’fyd am y cyfle.

Sut y’ch chi’n meddwl am y cwestiynau hollol wacky ry’ch chi’n holi i’ch gilydd yn ystod y perfformiad?

Felly, ar lawr y gofod perfformio ma’ ’na gannoedd o eiriau. Bwriad y geiriau yw ysgogi cwestiwn, fydd yn y pen draw yn esgor ar ateb. Weithiau mae’r atebion yn gweitho, ac weithiau ma’r cwestiwn tamed o fflop, ond ma’ hynny’n naturiol. Wedd y ‘fflops’ mor gadarnhaol â’r ‘ffabs’ â dweud y gwir, wedd y ‘ffabs’ yn dod fel rhyddhad i’r ‘fflops.’ Fuodd rhai ohonom ni mor sad â phlotio graffiau yn cofnodi’r tonnau hyn… ond wnawn ni ddim enwi un, na’ch diflasu chi â data!

Enghraifft: AUR

Cwestiwn am Elen Penfelen, Goldie Lookin Chain, dannedd aur, cyfoeth, y doethion… ac ymlaen, ac ymlaen i anfeidredd a thu hwnt! Ma’ hyn wrth gwrs yn caniatáu cwestiynau cwbl randym.

Mae’n neis ca’l cyfle i chwarae, prin y’n ni ‘oedolion’ yn gallu chwarae, ac felly ma’ ymgolli i fyd bizzarre Er Cof yn bleser pur! Pytiau byr ’ych chi Stampwyr wedi’u gweld, wedd cwestiynau fwy banal yn codi’u pen yn ystod y perfformiadau swmpus. Dwi’n dychmygu bydd ein perfformiad yn y Cwt Drama (dewch!) yn gymysgedd o’r dwys y dychmygol a’r doniol.

Pwy/Beth sydd wedi dylanwadu ar Er Cof – fel collective ac fel perfformwyr unigol?

Falle mai dylanwad And on the Thousandth Night… Forced Entertainment sydd wrth wraidd y pytiau hyn. Ein pryder mwya’ â Er Cof oedd gorfod diddanu’r gynulleidfa am chwe awr. Ond wedi gwylio’r meistri wrthi sylweddolom mai’r allwedd oedd synhwyro cyfeiriad y perfformiad yn reddfol a mwynhau hynny. Weithie wedd rhaid ffrwyno, ar adegau eraill wedd rhaid gwthio. Wedd tynnu wrth ein ‘cefndiroedd diwylliannol,’ a benthyg wrth y ‘pethe’ poblogaidd sydd gyda ni yng Nghymru yn arf sobor o ddefnyddiol ac weithiau dyma’r darnau mwya’ doniol! Mae’n daearu’r holl beth ’fyd, ni’n leico meddwl amdano fel ychwanegiad at omled Er Cof, ma’r cymysgedd yn hala’r gynulleidfa i gwestiynu be’ sy’n wir a be’ sy’n gelwydd noeth! Ma’ ’na’n ddoniol â dweud y gwir – ’naethon ni ware rownd o ‘Celwydd Noeth’ yn ystod rhyw rediad!

Pa mor wleidyddol yw’r welydd chi’n eu codi a’u dymchwel?

Da’th dachre Er Cof ar ddiwedd haf sobor o bryderus a rhwystredig inni, ac i chi’r Stampwyr mae’n siŵr. Wedd y penderfyniad dros BREXIT bach o blow i ni, fel Cymry Ewropeaidd ifanc wedd yn astudio’r celfyddydau ac felly wedd hi’n braf ca’l gwyntyllu o fewn plisgyn ‘saff’.’ Wedi’r cyfan, faint o’r pethe ’y’n ni’n eu dweud ’yn ni wir yn eu credu a’u meddwl? Mae’n hyfryd ca’l trafod hefyd, dadlau a herio ac weithiau, mabwysiadu barn estron, eithafol neu ishte ar y ffens. Fuse hi’n iach i bawb ga’l cyfle i ware gyda ni – er mwyn codi ambell grachen, i fagu tamed o blwc i drafod, achos mae’n anodd trafod mewn gwlad lle ma’ bawb yn ’nabod pawb. Fuse fe’n iach defnyddio plisgyn Er Cof fel therapi gwleidyddol ’fyd falle – yn yr obaith o adael y gwagle perfformio â ffrwyth trafodaethau adeiladol.

Elfen arall sy’n ddiddorol yw natur ffeministaidd rhai o’r cwestiynau, e.e. gofyn am flew a rhywioldeb; oes rhaid i griw Er Cof fod yn ferched?

Wel, falle ein bod ni’n teimlo’n saffach o ga’l criw o rocesi, haws trafod falle. Yn enwedig achos bo’ ni’n pedair yn ffrindie mowr. Wedd hi’n naturiol fod y sgwrs â thuedd benywaidd, a ma’ ’na’n rhwbeth arbennig iawn, iawn. Ond falle fuse croesawu ceilog i blith yr ieir yn arbrawf diddorol. Dwi’n sicr fuse newid yn y ddeinameg. Ond ma’ rhannu ein barn am y byd ac am flewiach am fislif ac am ryw a hynny yn ein mamiaith yn rh’wbeth sbesial iawn i’w groesawi. Ond weithe wedd rhaid hidlo, dwi’n cofio dala nôl gyda chwestiwn i Mel am ei faj tan fod ei Mam-gu wedi mynd getre!

Felly, be sy nesa i chi’ch pedair fel perfformwyr? 

Ma’ gwibdaith Er Cof gyda’r Stamp wedi bod yn sbesial, ac yn ein tyb ni hyblygrwydd y perfformiad yw un o’r pethe mwya’ arbennig amdano. Fuse gwibdeithio a chreu am byth fel Forced Entertainment yn braf. A falle rhyw ddiwrnod daw’r freuddwyd fawr yn wir. Ond am nawr, fyddwn ni’n pedair wrth ddachre ar fywyd ‘go iawn’ tu hwnt i Aber yn dal i gnoi cul dros ffrwyth yr holl broses, yr holl gwestiynau, y trafod a’r sbort. Ond ma’ un perfformiad ar ôl, ac wrth ateb y cwestiynau hyn, r’yn ni wir yn ecseited bost at ddydd Sul. Felly galwch draw i Gwt Drama’r Maes am 1yp, fyddwn ni (a buffet, gobeitho) ’na am dair awr. Licen ni ddiolch i chi’r Stampwyr ac i’r Eisteddfod Gen am y cyfle i berfformio a chadw Er Cof yn fyw am gwpwl o fisoedd ychwanegol.

Oes ‘na unrhyw ffordd i hyd yn oed y person mwya’ gwybodus yn y byd ddysgu mwy?

R’yn ni’n aml yn fflasho ein trainyrs aur ar y cyfryngau cymdeithasol felly dilynwch ni ar Twitter @perfformioercof neu ar Facebook. Galwch draw ddydd Sul, dewch ac ewch fel y mynnoch, a do’s dim audience participation o gwbl, addo… a falle gewch chi faj am ddod!

Gwefan | @perfformioercof

Gyda diolch i griw Er Cof ac Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth am ddefnydd o’r lluniau. 

Previous
Previous

Ffotograffiaeth a Cherddi: Gwobr Bensaerniaeth - James Morris a Grug Muse

Next
Next

Cerdd: Trafferth mewn Onsen - Llio Elain Maddocks