Ffotograffiaeth a Cherddi: Gwobr Bensaerniaeth - James Morris a Grug Muse

Eleni eto comisiynwyd bardd a ffotograffydd i ddehongli’r adeiladau a enwebwyd ar gyfer gwobr Bensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn. Roedd pedwar adeilad yn y ras eleni- Ysgol Bae Baglan, Ysgol Uwchradd y Rhyl, adeilad CUBRIC yng Nghaerdydd, a Silver House ar benrhyn Gwyr. Ysgol Bae Baglan oedd yn fuddugol, ond cafodd y ffotograffydd James Morris a’r bardd Grug Muse y pleser o ymweld a’r pedwar. Mewn cydweithrediad a’r Lle Celf felly, dyma rannu ffrwyth eu llafur.

Ysgol Bae Baglan

Pwy yda ni?
yn ein porffor glân,
heb hanes i’w gario
yn bin mewn tei
neu’n staen ar grys.

Mewn ysgol iau na’n dannedd-
awn i grafu’n henwau ar y byrddau,
a gadael staen ein sgidiau ar y lloriau
a sgriblo’n cyffesiadau blêr
mewn lipstic pinc ar waliau’r toiledau.

Ni sy’n blant y dur a’r grug
a’r rhedyn.
Yma, ni sydd bia’r tudalennau
a’r inc a’r pensiliau,
ein un ni yw’r cynfas
a ni fydd yn sgwennu
emynau a rhegfeydd ein hanes.

Codwyd brics a morter, do
Ond ni yw’r rhai wnaiff godi’r to.

CUBRIC

Ar goridorau’r tawelwch
mae peiriannau
a magnedau
yn torri ein meddyliau a’n syniadau
ac atgofion ein bywydau’n
sganiau ac yn lluniau.

Yn mapio’n pennau
a gyrru dirgryniadau
trwy ein bod. A darganfod
lliwiau newydd rhwng
edeuon ein breuddwydion.

Yng nghoridorau’r tawelwch,
mi glywn guriad
rhyw chwyldroad
yn y waliau.

Ysgol Uwchradd y Rhyl

Fi yw un o frain y dref;
un o’r cywion ifanc heglog
a chegog- a dyma fy nyth.

Nyth o breniach a gwydrach
a briciach a smentiach
yn goflaid glyd
am ein bregliach i gyd.

Ac yma o’m clwydfan
gwelaf gaeau, strydoedd;
clybiau a siopau
a cheir a thafarndai,
tai fy nhref a fy nghartref.

Gwelaf olau’r haul
a’i liw yn newid fesul awr
o oer i eirias, yna aur.
Ac mi wela’ i awyr
a’i lifrau’n newid
gyda’r gwynt
o lwyd i las.

O fy nghlwydfan yn fa’ma
mi wela’ i’r byd.
Ac o fa’ma fe gychwynna i
i’w grwydro i gyd.

Silver House

Dihangwn tua’r môr
at dŷ bach twt
a’i waliau’n ddim ond ewyn,
a gwylain croch
a’u llefain dros
gantrefi coll
yn fintai brudd
i’m drws.

At dŷ bach twt
lle mae drudwennod
bach y don ar esgyll
hallt yn cario breuddwydion
brith o lefydd pell
a’u gadael yn pipio
trwy gil y drws.

Dihangwn ni i’n tŷ bach twt,
ein tŷ bach twt, eich tŷ bach twt,
Dihangwn tua’n tŷ bach twt
lle mae’r gwynt i’w ddrws bob bore.

http://jamesmorris.info/

Previous
Previous

Pigion Eisteddfodol: Tŷ Gwerin – Elisa Morris

Next
Next

Cyfweliad: Er Cof – Naomi, Nannon, Megan a Meleri