Cyfweliad: Gŵyl y Ferch - Ffion Pritchard ac Esme Livingston
Mae'n fore digon oer yng Nghaernarfon, ond mae'r croeso a'r baned yn gynnes yn hwb creadigol ac oriel Balaclafa CARN, sydd ers mis bellach wedi bod yn gartref i raglen lawn dop o ddigwyddiadau gan griw bach ond gweithgar Gŵyl y Ferch, a gynhaliwyd eleni am y tro cyntaf. Bu'r Stamp heibio am sgwrs sydyn i edrych yn ôl ar gyfnod yr ŵyl, ac ymlaen tua'r dyfodol. Fe wnes i gychwyn trwy holi Ffion ac Esme am ychydig o gefndir yr ŵyl ac sut y daeth y prosiect i fodolaeth.
Ffion: Wel, mi ddaru’r syniad gychwyn yn eitha anffurfiol gynno ni. Oeddan ni’n meddwl ’sa’n neis cael lle i’r holl artistiaid lleol ’dan ni’n eu nabod sy’n ferched ddod i arddangos gyda’i gilydd ac i rannu syniada. Wedyn efo amser ddaru’r syniad ddatblygu i gydweithio efo elusen yn lleol; so tua dechrau’r flwyddyn, wnaethon ni fynd at Cymorth i Ferched Bangor a gofyn a fasan nhw’n hoffi cydweithio ar y digwyddiad. Wedyn mi wnaethon ni gais am y gofod a mynd o fan’na!
Sut mae o wedi gweithio – cydweithio efo’r elusen?
Esme: Da ni wedi bod yn neud gweithdai hefo’r merched sy’n defnyddio’r elusen – dysgu ambell i sgil celf iddyn nhw; gemwaith, paentio, plygu papur, gweu rygs, animeiddio a ballu. So da ni’n mynd bob yn ail wythnos fel arfer at yr elusen ac yn eu dysgu nhw sut i wneud pethau, ac maen nhw’n lyfio fo – ma’r merched wrth eu boddau. Ac maen nhw wedi bod yn rili cefnogol tuag aton ni – yn pwsho bob dim ar y cyfryngau cymdeithasol a phethau felly. Ma nhw wedi bod yn ffantastic.
Ac wrth gwrs, nid celf yn unig sydd wedi derbyn sylw – mae na nifer o gyfryngau wedi bod yn rhan o’r prosiect. Cyfrol o lenyddiaeth gan ferched lleol yn un peth.
Ffion: Wnaethon ni gychwyn efo galwad agored am gelf weledol – dyna sydd i fyny yn y gofod yma – wedyn wnaethon ni fynd i chwilio am ffilm, a chynnal noson o ffilmiau gan artistiaid lleol sy’n ferched. A’r gyfrol o lenyddiaeth oedd y peth arall – so cerddi a rhyddiaith dwyieithog. Wedyn o ran digwyddiadau, ddaru ni gynnal y noson agoriadol, wedyn ddaru Esme gynnal gweithdy creu rygs efo deunyddiau wedi’u hailgylchu. Gawson ni’r meic agored, y noson ffilms, siop dros dro…
Esme: Ia, dydd Sadwrn a dydd Sul oedd hwnna.
Ffion: A da ni di bod yn agor yn hwyr bob nos Fercher, wedyn da ni’n cloi nos Sadwrn yma.
Ac wedyn o ran effeithiau’r prosiect hyd yma, a’ch gobeithion chi – beth ydi’r rheiny, eleni ac wrth edrych tua’r dyfodol?
Esme: Da ni isio rhedeg arddangosfa flwyddyn nesa hefyd, dros yr un adeg o’r flwyddyn sy’n cynnwys Diwrnod Rhyngwladol y Merched; a’r gobaith ydi cynnal ambell i ddigwyddiad bychan dros y flwyddyn jyst i gadw’r peth i fynd. Fyddwn ni’n gweithio efo’r elusen trwy’r clwb celf da ni wedi ei ddechrau dros y flwyddyn hefyd, a’r gobaith hefo’r digwyddiadau bychan ydi y gallwn ni godi arian i ariannu’r arddangosfa y flwyddyn nesa.
Yn fwy cyffredinol, fysach chi’n deud fod angen mwy o bethau felma sy’n dod â chelf i fewn i waith elusennau ac ati?
Ffion: O, yn bendant. Ma’r ymateb di bod gymaint yn fwy nac y bysan ni wedi medru ei ddychymygu, hyd yn oed. Oedd o’n bach o passion project – gweld sut mai’n mynd – ond gawson ni gymaint o geisiadau mor sydyn. Mi wnaethon ni benderfynu rhoi lle i bawb ddaru drio – un rheswm oedd fod pawb ddaru drio yn haeddu lle, ond hefyd oedd well gynnon ni roi lle bach i bawb yn hytrach na dewis un artist dros artist arall. Felly mae o wedi bod yn ddigwyddiad positif, mae o wedi bod yn hwyl. Oedd na gymaint o bobl yma yn y noson agoriadol – prin oeddan ni’n gallu troi! Felly mae o wedi bod yn gymaint o hwyl i’w redeg ac ma’r ymateb wedi bod yn werth chweil.
Felly, ar ôl i chdi ddeud hynna, os ydi pobl yn darllen y cyfweliad yma ac yn meddwl ‘w, ma gen i ddiddordeb yn hwn’, sut mae modd iddyn nhw gyfrannu at y prosiect yn y dyfodol?
Esme: Dan ni wastad yn edrych am bobl sydd eisiau gwirfoddoli, helpu i redeg digwyddiadau – jyst ista wrth y drws falle i gymryd pris mynediad a ballu; neu helpu i rannu pethau.
Ac o ran artistiaid, falle – merched sy’n awyddus i gyfrannu?
Esme: Dan ni wastad yn chwilio am bobl i helpu efo gweithdai ar bethau dan ni’m yn gwybod sut i’w gwneud ein hunain! A dan ni wedi bod yn siarad efo Abbie Parry sydd yn gneud illustration – ma hi am ddod ar y tîm i’n helpu ni efo rhedeg gweithdai, achos ma hi’n neud gwaith crochet a ballu nad ydan ni’n gwybod sut i’w wneud. Felly unrhyw artistiaid sydd yn hapus i roi o’u hamser i ni i wneud pethau fel’ma.
Ffion: Dan ni’n gobeithio tyfu’r fenter, tyfu’r digwyddiad ’lly. Dan ni’n gobeithio cael mwy o bobl ymlaen, achos dan ni’n rhedeg y digwyddiad fel gwirfoddolwyr – felly gobeithio ehangu’r tîm chydig bach.
Esme: Ac i unrhyw berson sydd â chaffi neu far fysa’n hoffi rhoi’r lle i ni am ddim am un noson, dwy neu dair awr i roi digwyddiad ymlaen, mi fysa fo’n help mawr i ni yn lle gorfod cymryd arian allan o be dan ni’n ei hel!
-----
Gallwch ddal arddangosfa Gŵyl y Ferch weddill yr wythnos hon ar yr adegau canlynol:
Dydd Iau 04.04.19 11:00-16:00
Dydd Gwener 05.04.19 11:00-15:00
Dydd Sadwrn 06.04.19 12:00-21:00 (parti cloi – agored i bawb!)
-----
Dolenni: Gŵyl y Ferch ar Facebook / Gŵyl y Ferch ar Instagram / Digitalis Designs
Cynhaliwyd y cyfweliad uchod gan Iestyn Tyne ar ran Y Stamp