Cerdd: Tan Gwmwl - Morgan Owen

Llun Matt Buck, Wikimedia Commons

Tan Gwmwl

Dyma fi, o fewn pellter gweld

ond yn wlad a bydysawd i ffwrdd.

Ddo’ i ddim yn ôl yr un fath,

nid â phalet lliwiau dinas

yn fy mhen a chyflwr y môr

yn diffodd â’i wefr hallt

bob brogarwch dwl.

Edrycha’ i ddim yr un fath

ar gregyn y capeli di-bwyll

fel cytiau cachu ochr-y-ffordd

yn gleisiau ar dirwedd farw,

na chwaith ar gewyll o dai

yn llacio eu gafael ar y llethrau,

yn eistedd ym maw cenedlaethau

na welodd erioed tu hwnt

i’w ffroenau.

Hedaf heibio’u rhwydi.

Edrycha’ i fyth yr un fath

ar stafelloedd hanner gwag

a’r hanner arall yn llawn pennau llwyd;

rhyw gwrdd i nodi’n tranc

am y canfed tro.

Af ar daith; gwn fod dychwelyd yn gymod;

gwn o bell mae caru gwlad.

Morgan Owen

Previous
Previous

Cerddi: Lansiad Caryl Bryn - Beth Celyn ac Osian Owen

Next
Next

Cyfweliad: Gŵyl y Ferch - Ffion Pritchard ac Esme Livingston